Covid: Gallai rheolau ddod i ben ym Mawrth
- Cyhoeddwyd
Gallai deddfau sy'n ei gwneud yn ofynnol i bobl wisgo mygydau i atal lledaeniad Covid gael eu dileu'n llwyr yng Nghymru erbyn diwedd mis Mawrth.
Brynhawn Gwener fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau cynlluniau ar gyfer sut y bydd yn dechrau lleddfu y cyfyngiadau coronafeirws sy'n weddill.
Mae'n dilyn arolwg diweddar sy'n awgrymu bod lefelau'r haint wedi gostwng.
Yn y cyfamser bydd pasys Covid, sydd eu hangen mewn lleoliadau adloniant a chlybiau nos, yn cael eu dileu o 18 Chwefror.
Bydd y gofyniad i ddisgyblion ysgol wisgo mygydau mewn ystafelloedd dosbarth hefyd yn cael ei ollwng ar ôl hanner tymor.
Mater i ysgolion unigol a chynghorau lleol fydd penderfynu ar y rheolau o'r dyddiad hwnnw, sef 28 Chwefror.
Ar yr un diwrnod, bydd y gyfraith sy'n gofyn am orchuddion wyneb mewn nifer o fannau cyhoeddus yn cael ei llacio.
Ni fydd eu hangen mwyach mewn lleoliadau fel addoldai, sinemâu ac amgueddfeydd.
Ond byddan nhw'n dal yn orfodol mewn siopau, trafnidiaeth gyhoeddus, siopau trin gwallt, salonau, ac yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y gallai'r gofyniad cyfreithiol i wisgo mygydau yn yr holl leoliadau sy'n weddill gael ei godi erbyn diwedd mis Mawrth "os bydd amodau iechyd y cyhoedd yn parhau i wella".
Yn ôl prif weithredwr canolfan Galeri, Caernarfon, fe wnaeth nifer y bobl oedd yn dod i'r sinema ostwng dros y cyfnod lle'r oedd yn rhaid dangos pàs Covid.
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Gwyn Roberts: "Dwi'n hapus bod y cyfyngiadau'n raddol yn dod i ben.
"Mae 'na fwy o bobl wedi dechra' dod nôl dros yr wythnosau dwytha... ond mi 'nath [y pàs Covid] effeithio ar y niferoedd y bobl oedd yn dod i'r sinema.
"Dwi ddim yn siŵr be' o'dd y rheswm, ella na jyst ddim yn licio'r ffilms oeddan nhw, ond mi o'dd ein niferoedd ni lawr dros y cyfnod yma lle'r oedd yn rhaid i ni ofyn am y pasys," ychwanegodd.
"Mae'n braf bod y cyfyngiadau'n gorffen yn gyffredinol dwi'n meddwl."
'Pwysig cadw pawb yn ddiogel'
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad y bydd hi'n ofynnol o hyd i bobl wisgo mwgwd mewn salon, dywedodd Mandy Hallas, sy'n rhedeg siop trin gwallt ym Mangor ei bod yn falch bod y rheol yn parhau.
Dywedodd: "Dwi'n reit hapus, mae'n bwysig i ni i gadw pawb yn saff a pawb sy'n dod i fewn i'r salon i deimlo'n saff, felly dwi'n reit hapus i gario mlaen efo'r mwgwd.
"Ma' un neu ddau [o gwsmeriaid] ddim yn hapus bo nhw'n gorfod gwisgo'r mwgwd ond ma' rhan fwyaf o bobl sy'n dŵad i'r salon, ma' nhw yn teimlo'n saff," ychwanegodd.
"Ma' hynna'n bwysig i 'neud yn siŵr bo nhw [cwsmeriaid] dal yn dod drwy'r drws.
"Mae lot o bobl dal yn sâl ym Mangor ac yn Sir Fôn efo Covid - ma' rhaid dangos bod ni yn cadw'n saff."
Dywed Kim Greenhouse, perchennog salon gwallt Kim Rees yn Aberystwyth, ei bod yn gobeithio y bydd y rheol ar fygydau mewn siopau trin gwallt yn llacio cyn hir.
Ond mae'n pwysleisio mai diogelwch cwsmeriaid a staff sy'n bwysig.
"Mae'n hynod gyffrous ein bod yn gallu gweld diwedd y pandemig," meddai.
"Mae wedi bod yn anodd iawn gan ei bod hi'n mynd yn boeth iawn yn y salon a byddai'n neis 'tasen ni'n gallu tynnu'r mygydau ond, wrth gwrs, ry'n ni'n hapus i gario mlaen fel ry'n ni os yw hynny'n diogelu cwsmeriaid a staff a'n bod yn dod allan o hyn i gyd yn ddiogel - dyna'i gyd sy'n bwysig i ni."
Mae Angharad Morgan yn berchen ar Siop Inc yn Aberystwyth, a Ffiona Kettle yn gyd-berchennog ar salon Bespoke Hair and Beauty yn y dref.
Mae'r ddwy'n falch bod y rheolau ar wisgo mygydau mewn siopau yn parhau.
Dywedodd Angharad: "Fi'n croesawu bod y cyfyngiadau yn llacio a fi credu bod e'n bryd symud mlaen.
"Ond eto'i gyd o ran y siop fi ddigon hapus bod pobl dal i wisgo mygydau achos ma'n meddwl bod y busnes yn cael aros ar agor a parhau i weithredu".
Ychwanegodd Ffiona: "Fi'n hapus bod nhw yn aros a ma' well 'da fi bod ni gallu aros ar agor a chadw i weithio - yn enwedig gan bo' ni'n gweithio mor agos i gwsmeriaid. Ma'n rhoi bach mwy o protection i ni a phawb arall - a mae pawb arall yn teimlo saff o'n cwmpas ni."
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, bod y pasys Covid wedi bod yn "gost ychwanegol" i'r ganolfan.
"Mae'n newyddion da bod y pandemig o dan y fath reolaeth a bod Llywodraeth Cymru yn teimlo ei bod yn amser bellach i lacio rhywfaint drwy beidio â mynnu bod 'na basys Covid yn cael eu defnyddio yn y canolfannau.
"Mi oedd yn gost ychwanegol i ni. Roedd yn arafu'r broses i bawb ac mae'n dda o beth, dwi'n meddwl - bydd pawb yn hapus iawn bod dim rhaid dangos pasys pan fyddan nhw'n dod i ganolfannau o 18 Chwefror."
Hunan-ynysu yn parhau
Mae'r rheolau hunan-ynysu presennol yn parhau am y tro, ond bydd gweinidogion yn edrych eto ar y rheoliadau yma - a'r gweddill - ar 3 Mawrth.
Yn Lloegr fe fydd yr angen i hunan-ynysu yn dod i ben ar 24 Mawrth, ond fe allai ddigwydd mor gynnar â 21 Chwefror.
Dywedodd y Gweinidog Economi, Vaughan Gething, y bydd y rheolau yn parhau yng Nghymru a bod y llywodraeth wedi "ystyried y rheolau ynghylch hunan-ynysu yn ofalus".
"Mae hunan-ynysu yn ffordd bwysig o dorri'r cysylltiad yn nhrosglwyddiad y feirws ac mae'n atal mwy o bobl rhag cael eu heintio".
Ychwanegodd mewn cyfweliad ar BBC Radio 4 fore Gwener nad oedd y penderfyniad yn Lloegr wedi'i drafod rhwng cynrychiolwyr Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
"Doedd 'na ddim cyngor gan SAGE, dim trafod na phenderfyniad ar y cyd rhwng prif swyddogion meddygol, dim cyngor gwyddonol wedi'i roi, dim cyfarfod rhwng gweinidogion iechyd o flaen llaw," meddai.
Ychwanegodd y byddai unrhyw un fyddai'n dod i Gymru o Loegr heb hunan-ynysu yn torri'r gyfraith.
Mr Gething oedd yn cynnal y gynhadledd ddydd Gwener, gan fod Mark Drakeford ei hun yn hunan-ynysu wedi iddo gael prawf positif am coronafeirws.
Ond fe ddywedodd y Prif Weinidog nos Iau: "Gyda niferoedd cynyddol o bobl wedi cael y brechlyn a'r brechlyn atgyfnerthu, a gyda diolch i waith caled ac ymdrechion pawb ledled Cymru, rydym yn hyderus bod cyfraddau'r coronafeirws yn lleihau ac y gallwn edrych ymlaen at amseroedd gwell i ddod.
"Gallwn ddechrau dileu'n raddol ac yn ofalus rai o'r mesurau diogelu sydd gennym mewn grym o hyd ar lefel rhybudd sero. Ond nid ydym yn dileu'r holl fesurau ar yr un pryd gan nad yw'r pandemig wedi dod i ben eto.
"I ddiogelu Cymru, mae angen inni fod yn wyliadwrus o hyd a gwneud popeth o fewn ein gallu i dawelu meddyliau pobl sy'n teimlo eu bod yn wynebu'r risg fwyaf.
"Byddwn yn cadw rhai o'r mesurau diogelu pwysig sydd mewn grym, gan gynnwys gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ym mhob siop.
"Byddwn hefyd yn cadw'r rheolau hunan-ynysu sydd mewn grym.
"Fis nesaf, byddwn yn cyhoeddi cynllun yn nodi sut y byddwn yn symud y tu hwnt i lefel rhybudd sero a'r dull gweithredu mewn argyfwng rydym wedi bod yn ei ddilyn ers bron i ddwy flynedd."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Diolch i'r rhaglen frechu wych a gwaith caled pawb, mae heintiadau, y nifer sydd angen triniaeth ysbyty a marwolaethau yn gostwng, ac mae hynny'n dangos fod bygythiad y pandemig yn lleihau.
"O ystyried y datblygiadau positif yma a llwyddiant y rhaglen frechu, mae angen i Gymru adfer rhyddid pobl yn llawn heb oedi."
Ond fe wnaeth llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth annog Llywodraeth Cymru i "gymryd pethau'n araf, gan obeithio na fydd yn rhaid i ni gymryd cam yn ôl tuag at unrhyw gyfyngiadau pellach yn y dyfodol".
"Yn y cyfamser, mae angen i Lywodraeth Cymru egluro beth yw'r criteria sydd angen eu cyrraedd er mwyn codi'r holl gyfyngiadau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2022