Gŵyl BBC Radio 6 Music 2022 yn dod i Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gwenno, Johnny Marr a Little SimzFfynhonnell y llun, PA/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenno, Johnny Marr a Little Simz ymysg yr artistiaid fydd yn cymryd rhan eleni

Bydd rhai o enwau mwyaf y byd cerddoriaeth yn dod i Gaerdydd ar gyfer Gŵyl BBC Radio 6 Music ym mis Ebrill.

Mae'r perfformwyr yn cynnwys Little Simz, Father John Misty, IDLES, Bloc Party, Johnny Marr a Pixies.

Bydd nifer o artistiaid Cymraeg yn cymryd rhan hefyd, gan gynnwys Carwyn Ellis & Rio 18, Georgia Ruth, Gruff Rhys, Gwenno, H. Hawkline ac Adwaith.

Mae'r ŵyl - sy'n dychwelyd ar ôl dwy flynedd o seibiant oherwydd y pandemig - yn cynnwys perfformiadau byw, setiau DJ, sgyrsiau a mwy dros dridiau rhwng 1-3 Ebrill.

Byddan nhw'n cael eu cynnal ar draws nifer o leoliadau yn y brifddinas, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Tramshed.

'Sin gerddoriaeth wych'

"Mae'n newyddion gwych bod Gŵyl 6 Music yn dod i Gaerdydd," meddai'r DJ a'r brodor o Gaerdydd, Huw Stephens, a gyhoeddodd y newyddion fore Mawrth.

"Rydyn ni wrth ein bodd â'n cerddoriaeth fyw yma; mae gigs a nosweithiau clybiau yn rhan enfawr o'r hyn sy'n gwneud Caerdydd yn arbennig, ac mae cerddoriaeth fyw yn llifo drwy ein gwaed."

Ychwanegodd Samantha Moy, Pennaeth BBC Radio 6 Music, fod Caerdydd yn "ddinas sydd wastad wedi cael sin gerddoriaeth wych".

Bydd cyflwynwyr 6 Music gan gynnwys Cerys Matthews, Craig Charles, Gideon Coe, Lauren Laverne, Mark Radcliffe, Mary Anne Hobbs, a Steve Lamacq yn darlledu o Gaerdydd dros y penwythnos.

Disgrifiad o’r llun,

Huw Stephens: 'Mae'r ŵyl anhygoel hon yn digwydd yma ar adeg bwysig i adferiad lleoliadau byw'

Ar BBC Radio Cymru, bydd Rhys Mwyn, Georgia Ruth, Lisa Gwilym a Huw Stephens yn darlledu uchafbwyntiau'r ŵyl.

Bydd BBC Music Introducing, mewn partneriaeth â Gorwelion, yn paratoi ar gyfer yr ŵyl gyda gig arbennig yng Nghlwb Ifor Bach ddydd Mercher, 30 Mawrth.

Bydd uchafbwyntiau'r ŵyl ar gael i'w gwylio ar BBC iPlayer dros y penwythnos, ac am 30 diwrnod wedyn.

Mae tocynnau ar gyfer pob digwyddiad y mae angen tocyn iddo ar gael o 10:00 ddydd Iau, 17 Chwefror ar bbc.co.uk/6musicfestival.