Y sêr a fyddai wedi gallu cynrychioli Cymru

  • Cyhoeddwyd

Yn achlysurol mae Cymru'n cael ei chyhuddo o roi capiau i chwaraewyr rygbi a phêl-droed sydd â chysylltiadau tenau iawn gyda'n gwlad.

Mae honiadau ers blynyddoedd o 'Saeson' yn chwarae dros Gymru, gyda rhai carfanau o wasg Llundain wedi cyfeirio at hyn yn ystod llwyddiant tîm Chris Coleman ym Mhencampwriaethau Euro 2016.

Ond mae llawer o bêl-droedwyr a chwaraewyr rygbi a oedd yn gymwys i chwarae dros Gymru wedi cynrychioli gwledydd eraill hefyd. Felly, dyma ond rhai o'r chwaraewyr rhyngwladol a fyddai wedi gallu gwisgo coch yn ystod eu gyrfaoedd, ond am ryw reswm neu'i gilydd, ddewisodd liw arall.

Pêl-droed

Ian Walker (Lloegr)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Ian Walker yn chwarae i Tottenham Hotspur ym mhrif adran Lloegr am 12 tymor, cyn symud mlaen i Gaerlŷr a Bolton Wanderers. Enillodd pedwar cap dros Loegr rhwng 1996 a 2004, ond fe fyddai wedi gallu cynrychioli Cymru.

Mae tad Ian, Mike Walker, yn dod o Fae Colwyn ac fe roedd o hefyd yn golgeidwad gan chwarae yn bennaf i York City a Watford. Chwaraeodd Mike Walker dros Gymru dan 23.

Paul James (Canada)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Paul James ei eni yng Nghaerdydd yn 1963 ac roedd yn athletwr addawol iawn, yn chwaraewr rygbi o safon uchel ac yn rhan o dimau pêl-droed ieuenctid Caerdydd a Chasnewydd. Ond yn 16 oed fe symudodd i Toronto gyda'i rieni a'i chwaer, Julie, a daeth yn ddinesydd Canada yn 1983.

Chwaraeodd dros nifer o glybiau yng Nghanada yn ystod yr 80au a 90au cynnar, gan ennill 46 o gapiau rhyngwladol. Roedd yn rhan o'r garfan gyntaf o Ganada i ymddangos yng Nghwpan y Byd - ym Mecsico '86.

Wedi iddo ymddeol o chwarae fe roedd yn rheolwr ar nifer o glybiau, ar dîm Dan 20 Canada, a thîm rhyngwladol y Bahamas.

Rob Jones (Lloegr)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Rob Jones yn aelod blaenllaw o amddiffyn Lerpwl o 1991 i 1999, ac fe enillodd Gwpan FA Lloegr a Chwpan y Gynghrair gyda'r cochion.

Cafodd ei eni yn Wrecsam yn 1971, ond i Loegr chwaraeodd yn rhyngwladol, a hynny ar wyth achlysur rhwng 1992 ac 1995.

Rhys Williams (Awstralia)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Rhys Williams yn gymwys i chwarae dros Awstralia, Lloegr, India a Chymru. Chwaraeodd dros Gymru Dan 20 tra roedd gyda chlwb Middlesbrough, ond yna fe ddewisodd newid ei deyrngarwch i'w wlad enedigol yn 2009.

Enillodd 14 o gapiau dros y Socceroos rhwng 2009 a 2013 ac mae bellach yn 33 oed ac yn gapten ar glwb Western Sydney Wanderers FC ym mhrif adran Awstralia.

Owen Hargreaves (Lloegr)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Owen Hargreaves yn un arall a fyddai wedi gallu chwarae dros sawl gwlad - cafodd ei eni yng Nghanada gyda'i fam yn Gymraes a'i dad yn Sais.

Chwaraeodd dros Gymru dan 19, ond cyn iddo chwarae dros y tîm dan 21 fe gysylltodd rheolwr tîm dan 21 Lloegr gydag ef. O ganlyniad fe newidiodd i chwarae dros Loegr.

Enillodd 42 o gapiau dros Loegr gan fynd i ddau Gwpan y Byd ac Euro 2004. Cafodd yrfa lewyrchus gyda Bayern Munich a Manchester United er gwaethaf nifer o anafiadau difrifol wedi tymor 2006/07.

Kevin Sheedy (Iwerddon)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Kevin Sheedy yn rhan o garfan Gweriniaeth Iwerddon, dan reolaeth Jack Charlton, a gyrhaeddodd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd Italia '90.

Ond yn Llanfair-ym-Muallt cafodd ei eni yn 1959. Roedd ganddo ddinasyddiaeth Wyddelig ers yn fabi gan fod ei dad o Swydd Clare yn ne orllewin Iwerddon.

Emlyn Hughes (Lloegr)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Chwaraeodd Emlyn Hughes dros Loegr rhwng 1969 a 1980, ond roedd ei dad, Fred o Lanelli. Roedd Fred Hughes yn chwaraewr rygbi'r gynghrair ryngwladol dros Gymru, ac fe chwaraeodd rygbi'r undeb dros Lanelli ac Abertawe.

Daeth Emlyn Hughes yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yn yr 80au fel un o'r capteiniaid ar y rhaglen Question of Sport. Bu farw yn 2004 yn 57 mlwydd oed.

Phillip Evans (De Affrica)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Phillip Gareth Evans ei eni yng Nghaerdydd yn 1980, ond fe chwaraeodd ei bêl-droed broffesiynol i gyd yn Ne Affrica. Chwaraeodd fel amddiffynnwr dros glybiau SuperSport United F.C., Bidvest Wits F.C., a Thanda Royal Zulu F.C.

Chwaraeodd 10 gwaith dros Dde Affrica rhwng 2003 a 2005, gan sgorio yn erbyn Mecsico yn 2005.

Rygbi

Harry Randall (Lloegr) & Stephen Varney (Yr Eidal)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r ddau fewnwr yn y llun yma, Harry Randall o Loegr a Stephen Varney o'r Eidal, yn gymwys i chwarae dros Gymru, ac mae'r ddau yn medru siarad Cymraeg.

Yn bedair oed fe symudodd Harry Randall i Ddyffryn Aman. Chwaraeodd rygbi yn gyntaf dros glwb Tŷ-croes ac fe gynrychiolodd Cymru dan 16.

Cafodd Varney ei eni yn Sir Benfro ond mae'n gymwys i chwarae dros yr Eidal oherwydd bod ei fam, Valeria, yn Eidales.

Megan Jones (Lloegr)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Megan Jones ei geni yng Nghaerdydd ac fe aeth i Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Dechreuodd chwarae rygbi i'r Glamorgan Wanderers pan oedd hi'n ferch ifanc.

Aeth Megan i Goleg Hartpury yn Swydd Gaerloyw cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Loughborough. Mae hi hefyd wedi cynrychioli Prydain a Lloegr yn rygbi saith bob ochr.

Gareth Rees (Canada)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Gareth Rees yn un o'r enwau mwyaf yn hanes rygbi Canada. Chwaraeodd dros Ganada yng Nghwpan y Byd 1987, 1991, 1995 a 1999.

Roedd ei dad, Alan Rees, yn Gymro a chwaraeodd dros Cross Keys, Maesteg a Chymry Llundain, cyn mudo i Ganada. Rhwng 1993 a 1996 cafodd Gareth Rees y cyfle i chwarae yng Ngwent, fel ei dad, gan arwyddo dros Glwb Rygbi Casnewydd.

Nigel Redman (Lloegr)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ganwyd Nigel Redman yng Nghaerdydd yn 1964. Ond wedi cyfnod gyda Weston-super-Mare fe arwyddodd Redman dros Gaerfaddon, lle y bu'n chwarae am 15 tymor gan wisgo lliwiau'r clwb 350 o weithiau.

Chwaraeodd dros Loegr yng Nghwpan y Byd yn 1987 ac 1991, ac roedd yng ngharfan y Llewod ar y daith i Dde Affrica yn 1997.

Andrew Johns (Awstralia)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Andrew Johns yn cael ei ystyried fel un o chwaraewyr rygbi'r gynghrair gorau ei genhedlaeth. Mae'n dod o deulu o lowyr o'r Rhondda ac mae'n debyg y gwnaeth David Moffet, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru ar y pryd, holi os byddai'n ystyried chwarae rygbi'r undeb dros Gymru yn 2004.

Ond aros gyda rygbi'r gynghrair wnaeth Johns gan aros gyda'r Newcastle Knights tan iddo ymddeol o chwarae yn 2007.

Matt Perry (Lloegr)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Matthew Perry yn gefnwr chwim a chwaraeodd dros Gaerfaddon 221 o weithiau. Chwaraeodd ei dad dros Gaerfaddon hefyd, ac felly ei Gymro o daid, Idris yn y 1940au. Ond dros Loegr y penderfynodd Perry chwarae gan ennill 36 o gapiau rhwng 1997 ac 2001.

Shannon Frizell (Seland Newydd)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Shannon Frizell yn aelod o garfan bresennol y Crysau Duon. Cafodd ei eni a'i fagu yn Tonga, ond fe gafodd ei dad ei eni yn Abertawe.

Mae'n chwarae dros glwb yr Highlanders yn Dunedin ac mae wedi ennill 17 o gapiau dros Seland Newydd hyd yn hyn.

Lewis Ludlow (Lloegr)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Lewis Ludlow yn chwaraewr rheng-ôl pwerus a enillodd ei gap cyntaf dros Loegr y llynedd. Ond fe allai fod wedi chwarae dros Gymru gan fod ei daid, Tony, yn dod o Abertyleri.

Jamie Murphy (Yr Almaen)

Dydi'r Almaen ddim yn enwog am ei rygbi efallai, ond roedd y ffaith bod gan Jamie Murphy o Ben-y-bont nain o'r Almaen yn gyfle iddo chwarae'n rhyngwladol dros y wlad yn erbyn Rwmania yn 2017.

Roedd Murphy eisoes wedi chwarae rygbi'r gynghrair dros Gymru yn 2015.

Mae Cymry eraill wedi chwarae rygbi dros Yr Almaen hefyd, gan gynnwys Domenick Davies a oedd yn chwarae dros glwb Pontypridd a enillodd 16 o gapiau rhwng 2000 a 2010.

Josh Lewsey (Lloegr)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Josh Lewsey yn aelod o garfan Lloegr â enillodd Cwpan y Byd yn 2003. Ond mae ei fam, Mair, yn dod o Gwmllynfell rhwng Brynaman ac Ystalyfera. Mae tad Josh, David, hefyd yn hanner Cymro.

Cafodd Lewsey 55 o gapiau dros Loegr rhwng 1998 ac 2008, gan sgorio 22 o geisiau.

Taine Plumtree (Seland Newydd)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Taine Plumtree ei eni yng Nghymru yn 2000 tra roedd ei dad yn hyfforddi Clwb Rygbi Abertawe.

O Seland Newydd daw ei dad, John, ac fe roedd yn byw yn Ne Affrica gyda'i wraig cyn geni Taine. Roedd John yn chwarae dros y Natal Sharks ac wedi iddo fyw yno am rhai blynyddoedd fe chwaraeodd dros dîm saith bob ochr y Springboks.

Mae Taine yn chwarae dros y Blues ac mae wedi chwarae dros dîm dan 20 Seland Newydd yn barod.

Nathan Sharpe (Awstralia)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Nathan Sharpe 116 o gapiau dros Awstralia rhwng 2002 a 2012. Ond yn 2000 fe wnaeth prif hyfforddwr Cymru ar y pryd, Graham Henry, ddarganfod bod gan Sharpe daid o Gymru.

Roedd Sharpe yng nghanol trafodaethau am ei gytundeb ar y pryd felly fe roedd yn ystyried ei ddyfodol, ond fe ddewisodd aros yn Awstralia i frwydro am y crys aur a gwyrdd, ac aeth yn ei flaen i gapteinio'r garfan.

Dewi Morris (Lloegr)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Dewi Morris ei eni yng Nghrug Hywel yn 1964 a chafodd ei fagu ar fferm ddefaid 75 acer gyda'i dad, a oedd yn Gymro, a'i fam a oedd yn Saesnes. Aeth ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 1993 ac i Gwpan y Byd gyda Lloegr yn 1995. Enillodd 26 o gapiau dros Loegr rhwng 1988 a 1995.

Fe ddywedodd yn ddiweddar: "Os fydde fy rhieni i wedi galw fi yn ôl fy enw cyntaf, Colin, yn lle fy enw canol, Dewi, dwi ddim yn meddwl byswn i wedi cael yr holl atgasedd gan bobl Cymru!"

Luke Hamilton (Yr Alban)

Ffynhonnell y llun, Harry Trump

Un arall cafodd ei eni yng Nghymru oedd y clo, Luke Hamilton. Cafodd ei eni ym Mhenfro ac roedd yn rhan o academi rygbi'r Scarlets, cyn ymuno â Gleision Caerdydd yn 2010.

Chwaraeodd dros Gymru dan 20 ac mae wedi cael gyrfa ddiddorol yn chwarae yn Ffrainc, Lloegr, Yr Alban ac yn Japan.

Yn 2017 cafodd ei alw i garfan Yr Alban - roedd yn gymwys gan fod ei dad yn Albanwr.

Yn 30 oed, mae bellach yn chwarae gyda Oyonnax yn ail haen Ffrainc.

Rhys Ruddock (Iwerddon)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Rhys yn fab i Mike Ruddock, cyn-reolwr tîm cenedlaethol Cymru a oedd wrth y llyw pan enillodd Cymru'r Gamp Lawn yn 2005 - y gyntaf i'r wlad ers 1978.

Cafodd Rhys ei eni yn Nulyn, ond ei fagu yng Nghymru. Mae ei fam Bernadette Mary Ruddock yn Wyddeles ac fe ddewisodd gynrychioli'r ynys werdd. Mae gyda thalaith Leinster ers 2009 ac mae wedi ennill 27 o gapiau dros Iwerddon ers ei gap cyntaf yn 2010.

Javan Sebastian (Yr Alban)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Javan Sebastian ei eni yng Nghaerfyrddin yn 1994 ac aeth i Ysgol Y Frenhines Elizabeth yn y dref. Chwaraeodd dros Glwb Rygbi Cwins Caerfyrddin cyn symud ymlaen i Lanelli.

Mae wedi chwarae dros Gymru dan 16 a dan 18, ond gan fod ei dad wedi ei eni a magu yng Nghaeredin mae'n gymwys i chwarae dros Yr Alban. Mae yn rhan o garfan Yr Alban ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Martin Corry (Lloegr)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae cwpwrdd fedelau Martin Corry yn hynod drawiadol; ennill Uwch Gynghrair Lloegr chwe gwaith gyda Chaerlŷr, ennill Cwpan Ewrop ddwywaith, ennill Cwpan y Byd 2003 gyda Lloegr, ac fe chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan y Byd 2007.

Ond fe all bethau wedi bod yn dra gwahanol gan fod mam Corry yn siaradwr Cymraeg o Landeilo...

Daeth ei yrfa i ben yn 2009 pan gapteiniodd y Barbariaid i fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr yn ei gêm olaf.

Aled De Malmanch (Seland Newydd)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Chwaraeodd Aled De Malmanch dros y Crysau Duon yn 2009 fel rhan o dîm gyda rhai o'r goreuon i chwarae rygbi - fel Dan Carter a Richie McCaw.

Roedd yn gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd bod ei nain a taid yn Gymry, ond fe ddewisodd chwarae i Seland Newydd. Symudodd i Ffrainc yn 2011 gan chwarae i glwb a oedd llawn sêr ar y pryd, Stade Français.