Peilot incwm sylfaenol: Tua 500 i dderbyn £1,600 y mis

  • Cyhoeddwyd
Dynes ifancFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth yn amcangyfrif mai tua 500 o bobl fydd yn gymwys i fod yn rhan o'r cynllun

Bydd pob person 18 oed sy'n gadael y system ofal yn cael cynnig £1,600 y mis dan gynllun peilot y llywodraeth ar gyfer incwm sylfaenol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru'n rhagweld y bydd tua 500 o bobl yn gymwys ar gyfer y cynllun, allai gostio hyd at £20m dros dair blynedd.

Dywedodd y llywodraeth mai dyma fydd y swm uchaf fydd yn cael ei gynnig ar gynllun o'r fath unrhyw le yn y byd.

Ond yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig mae cynlluniau incwm sylfaenol yn wastraff arian.

Dim amodau ar gyfer derbyn yr arian

Fe fydd y £1,600 yn cael ei drethu, ac mae disgwyl iddo gael ei ystyried fel incwm gan Lywodraeth y DU, gan olygu y gallai gael effaith ar allu pobl i dderbyn budd-daliadau.

Ni fydd amodau ar gyfer derbyn yr arian, ac ni fydd yn cael ei dynnu os yw person fydd yn rhan o'r cynllun peilot yn cymryd swydd.

Dyw Llywodraeth Cymru ddim bellach yn galw'r cynlluniau yn beilot o incwm sylfaenol cyffredinol - universal basic income - am mai pobl sy'n gadael gofal yn unig sy'n gymwys, yn hytrach na phawb.

Mae gweinidogion eisiau gweld sut y gallai incwm sylfaenol helpu'r rheiny sy'n gadael gofal fod mewn safle gwell ar gyfer bywyd mwy annibynnol fel oedolion.

Sut fydd y cynllun yn gweithio?

Bydd y peilot yn cael ei gynnig i bob person 18 oed sy'n gadael y system ofal yng Nghymru dros gyfnod o flwyddyn.

Fe fydd y bobl hynny yn derbyn y taliadau am 24 mis - fydd yn incwm o thua £19,000 y flwyddyn cyn cael ei drethu - gyda'r taliad cyntaf yn cael ei wneud fis ar ôl iddynt droi'n 18.

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £5m ar gyfer blwyddyn gyntaf y peilot, £10m ar gyfer yr ail, a £5m yn y drydedd - gyda'r union wariant yn ddibynnol ar faint o bobl fydd yn cymryd rhan.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi gofyn i Lywodraeth y DU ddiystyru'r incwm ar gyfer pwrpasau budd-daliadau, ond nad oedden nhw'n fodlon gwneud hynny.

Does dim dyddiad eto ar gyfer lansio'r cynllun, ond mae swyddogion yn dweud y bydd yn ddiweddarach eleni, ac yn yr haf fwy na thebyg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rheiny sy'n cymryd rhan yn derbyn incwm sylfaenol o thua £19,000 y flwyddyn

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt fod "gormod o bobl ifanc sy'n gadael gofal yn parhau i wynebu rhwystrau sylweddol wrth geisio datblygu i fod yn oedolion".

"Mae ein cynllun peilot Incwm Sylfaenol yn brosiect cyffrous sy'n dod â sefydlogrwydd ariannol i genhedlaeth o bobl ifanc sydd ei angen fwyaf," meddai.

Mae'r llywodraeth yn dal i ystyried sut y bydd yn asesu llwyddiant y cynllun, ond bydd yn edrych ar sut y mae'r rheiny sy'n cymryd rhan yn gwneud o ran swyddi neu addysg.

'Costio ffortiwn'

Ond dywedodd Joel James AS ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod amryw o gynlluniau peilot ar draws y byd wedi dod i'r canlyniad nad yw incwm sylfaenol yn gweithio am nad yw'n ysgogi pobl i ganfod swyddi, ac felly ei fod yn "wastraff arian cyhoeddus".

"Pe bai pob oedolyn yng Nghymru yn derbyn £1,600 y mis fe fyddai'n costio bron i £50bn y flwyddyn, ac yn gwobrwyo pobl gyfoethog yn hytrach na helpu'r bobl sydd ei angen fwyaf," meddai.

"Mae ein GIG ar ei gliniau a'n economi yn fregus, ond yn hytrach na mynd i'r afael â'r rheiny mae Llafur yn canolbwyntio ar incwm sylfaenol - fydd yn costio ffortiwn i'r wlad."

Mae elusen Sefydliad Joseph Rowntree wedi croesawu'r cynlluniau, gan ddweud mai targedu'r rheiny sy'n gadael y system ofal sy'n debygol o gael y budd mwyaf.