Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-0 Coventry
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Caerdydd i drechu Coventry ar noson lawog yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.
Ychydig iawn o gyfleoedd oedd yn yr hanner cyntaf, gan olygu ei bod yn parhau'n ddi-sgôr ar hanner amser.
Bu'n rhaid disgwyl 72 o funudau am gôl gynta'r gêm, gyda chefnwr chwith Caerdydd, Bagan yn torri mewn o'r ystlys a chrymanu ergyd wych gyda'i droed dde i gefn y rhwyd.
Llwyddodd y Cymro Mark Harris i selio'r fuddugoliaeth wrth i'r eilydd rwydo heibio i'r golwr Simon Moore yn y munudau olaf.
Mae'r canlyniad yn golygu fod yr Adar Gleision yn codi un safle i 19eg yn y Bencampwriaeth.