Gwyntoedd cryfion yn effeithio ar Gymru a mwy i ddod
- Cyhoeddwyd
Fe allai gwyntoedd cryfion o hyd at 100mya greu problemau yng Nghymru tan ddydd Gwener.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi uwchraddio eu rhybudd ynglŷn â Storm Eunice ddydd Gwener i oren.
O ganlyniad, mae darogan y bydd yn effeithio ar gyflenwadau trydan, creu difrod i gartrefi, llifogydd arfordirol a thrafferthion teithio.
Mae nifer o rybuddion llifogydd "byddwch yn barod", dolen allanol mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Ddydd Mercher fe wnaeth Storm Dudley daro ardaloedd ar draws Cymru, gyda'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai olygu toriadau mewn cyflenwadau ynni, difrod i adeiladau a choed yn cwympo.
Am 17:00 brynhawn Mercher roedd gwyntoedd o 81mya yng Nghapel Curig, Sir Conwy.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Ross Akers, Rheolwr Tactegol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), bod ansicrwydd am gryfder y stormydd, ond mi all fod yn "sylweddol".
"Gallai'r gwyntoedd cryfion achosi ymchwydd llanw a thonnau mawr, all arwain at orlifo amddiffynfeydd llifogydd ar hyd yr arfordir," meddai.
"Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos iawn ond mae pryder, os daw'r rhagolygon yn wir, y byddwn yn debyg o weld effeithiau llifogydd sylweddol mewn sawl man ar hyd ein hardaloedd arfordirol.
"Gallai cyflymder y gwynt hefyd arwain at ddifrod mewn sawl ardal. Rydym yn annog gofal ac i bawb gadw llygad barcud ar ragolygon y tywydd a gwefan CNC am y rhybuddion llifogydd diweddaraf.
"Os ydych chi'n byw yn agos at, neu'n ymweld ag ardal arfordirol, byddwch yn ofalus iawn a chadwch bellter diogel oddi wrth lwybrau arfordirol a phromenadau oherwydd gall tonnau mawr eich ysgubo oddi ar eich traed neu gallwch gael eich taro gan falurion."
Roedd 600 o gartrefi heb drydan yn Ystradgynlais brynhawn Mercher, ond roedd y cyflenwad yn ôl i bob un ond 100 erbyn 16:15.
Bu'n rhaid cau'r B4459 ym Mhencader, Sir Gâr ar ôl i goeden gwympo.
Cadarnhaodd Cyngor Abertawe fod coeden arall wedi syrthio ym Mharc Underhill yn y Mwmbwls.
Bu'n rhaid symud y gêm rygbi o dan 18 rhwng Caerdydd a Dreigiau Casnewydd o Barc yr Arfau i Ystrad Mynach wedi difrod i'r stadiwm yng Nghaerdydd.
Mae uchafswm cyflymder teithio ar Bont Britannia yn 30mya yn sgil y gwyntoedd.
Yn y cyfamser mae rhybudd oren wedi ei gyhoeddi dros Gymru gyfan ar gyfer Storm Eunice ddydd Gwener.
Mae'n bosib iawn y gallai'r gwyntoedd cryfion yma beryglu bywydau, meddai'r Swyddfa Dywydd.
Bydd y rhybudd yn para o 03:00 fore Gwener tan 21:00 yr hwyr.
Gallai effeithio ar gyflenwadau pŵer yn ôl llefarydd, ac ar drafnidiaeth o bob math.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2022