Aros am driniaeth: Poen merch yn 'torri calon' mam o Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
"Mae'n torri nghalon 'i gweld hi mewn cymaint o boen ddydd a nos."
Dim ond trwy sgrechian all Marie Morgan gyfleu faint o boen mae hi'n ei deimlo.
Mae'n byw â sawl cyflwr niwrolegol - gan gynnwys parlys yr ymennydd, hylif ar yr ymennydd ac epilepsi difrifol.
Dim ond ychydig eiriau all hi ynganu, ac mae hi angen gofal ddydd a nos gan ei mam yn eu cartref ym Mhenygroes, Sir Gaerfyrddin.
'Cymaint o boen dyw hi ddim yn cysgu'
Ond nid y cyflyrau hynny sy'n bennaf gyfrifol am y boen mae Marie, sy'n 30 oed, yn ei ddioddef nawr.
Mae hi wedi bod yn aros am bron i bedair blynedd am lawdriniaeth ar ei chlun.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod bron i chwarter miliwn o bobl wedi bod yn disgwyl dros naw mis am driniaeth gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru - y ffigwr uchaf erioed.
"Bob tro mae'n symud mae'r hip bone yn rhwbio," esbonia Sandra - ei mam.
"Mae hi mewn cymaint o boen dyw hi ddim yn cysgu yn y nos.
"O'dd y carers mewn gyda ni neithiwr i ddisgwl ar ei hôl hi ac fe sgrechodd hi drwy'r nos.
"Mae ffaelu mynd mas, ffaelu mynd yn y car oherwydd y bwmps yn yr hewl. Mae'n sgrechen... Mae'n galed, mae'n gwneud dolur i fi gweld hi mewn shwd gyment o boen ddydd a nos."
Ond roedd pethau mor wahanol cyn i glun Marie waethygu. Mae Sandra yn cofio merch oedd yn mwynhau dawnsio a cherddoriaeth.
"Roedd hi arfer bod mor hapus... Mae gen i fideos ohoni yn dawnsio ond nawr ma' pethe mor wahanol.
"Sai'n gallu gweld hi'n para lot hirach... mae'n torri nghalon i."
Mae Marie ar restr aros i gael llawdriniaeth yn Ysbyty Treforys ger Abertawe.
Er gwaethaf ymdrechion cyson ei mam, does gan y teulu ddim syniad pryd y bydd hynny'n digwydd.
"Fi 'di ffonio bobman - y secretaries, yr MP, surgeons yn yr ysbyty, physios, pawb," meddai Sandra.
"Gynta' oedden nhw'n dweud bod yr oedi oherwydd Covid a nawr ma' nhw'n dweud eu bod nhw'n brin o staff - felly beth sy' nesaf?
"Smo fe'n deg. Mae 'di bod yn aros am hwn ers cyn Covid.
"Bydde cael dyddiad yn helpu lot - dyddiad iddi fynd i mewn. Byddwn ni'n gw'bod wedyn bod y twnnel yn dod i ddiwedd. Ond 'dyn ni ddim yn gw'bod beth sy'n digwydd.
"Dim ond 30 mlwydd oed yw hi - ac yn aros fel hyn am hip replacement."
'Ymestyn adnoddau i'r eithaf'
Mewn datganiad, dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe bod y pandemig wedi "ymestyn adnoddau i'r eithaf", a hynny ar ben pwysau arferol y gaeaf, "sydd ond wedi gwaethygu sefyllfa oedd yn heriol yn barod".
Dywedodd llefarydd bod y bwrdd yn creu canolfannau arbenigol i drin cyflyrau gwahanol mewn ysbytai, gan gynnwys canolfan orthopedig ym Mhort Talbot.
"Bydd yn golygu gwelyau a theatrau llawdriniaeth ychwanegol, gan gynyddu capasiti o tua 3,000 o achosion y flwyddyn," meddai.
Beth ydy'r darlun dros Gymru?
Mae'r ffigyrau diweddaraf, a gyhoeddwyd fore Iau, yn dangos fod 244,331 o gleifion wedi bod yn disgwyl dros 36 wythnos am driniaeth gan y GIG yng Nghymru.
Mae hynny bron i 10 gwaith cymaint â'r ffigwr ar ddechrau'r pandemig - 25,634 oedd wedi disgwyl cyhyd ym mis Chwefror 2020.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos cynnydd unwaith eto yn nifer y bobl sydd ar restrau aros, gyda 683,321 o driniaethau eto i gael eu cwblhau ym mis Rhagfyr 2021.
Mae'r ffigwr yna wedi bod yn codi ers 20 mis bellach, ond fis yma cynnydd o 0.2% a welwyd - y cynnydd lleiaf ers dechrau'r pandemig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod hynny oherwydd "ymdrechion arwrol" staff, gyda nifer hefyd yn cael eu dargyfeirio i helpu'r rhaglen frechu yn ystod ton Omicron.
Mae'r data hefyd yn dangos fod adrannau brys a'r gwasanaeth ambiwlans yn parhau dan bwysau sylweddol, ond roedd gwelliannau bychan yn eu perfformiad.
Ym mis Ionawr fe wnaeth 68.2% o gleifion dreulio llai na phedair awr mewn unedau brys - gwelliant o'r 66.5% fis ynghynt ond mae'n parhau'n bell o'r targed, sef 95%.
Ond mae'r ffigyrau hefyd yn dangos fod 8,998 o bobl wedi disgwyl dros 12 awr mewn adrannau brys - yr ail ffigwr uchaf erioed.
Fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans ymateb i 52.5% o alwadau coch - y rhai mwyaf argyfyngus - o fewn wyth munud ym mis Ionawr.
Mae hynny'n welliant bychan o'r 51.1% a welwyd fis Rhagfyr, ond mae'n parhau'n is na'r targed o 65%, sydd heb gael ei gyrraedd am 18 mis yn olynol bellach.
Yr wythnos ddiwethaf, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, y bydd cynllun newydd i fynd i'r afael â rhestrau aros hir yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill.
Ddydd Iau, dywedodd bod ffigyrau rhestrau aros mis Rhagfyr yn well na'r oedd hi'n ei ddisgwyl.
"Mae'r ffaith ein bod ni dim ond wedi gweld cynnydd o 0.2% yn y rhifau o bobl sy'n aros mewn cyfnod pryd o'n ni 'di gofyn i'r NHS i fynd ati o ddifri' i helpu ni gyda'r cynllun booster, mae hwnna'n dangos i ni fod y pobl sy'n gweithio i'r NHS wedi bod yn gweithio yn ddiwyd iawn dros y Nadolig ac wedi gallu dod i'r sefyllfa yma lle 'da ni ddim wedi gweld y cynnydd oedden ni'n poeni falle fyddwn ni'n gweld yn mis Rhagfyr."
Dywedodd y dylai systemau fod yn eu lle yn barod i flaenoriaethu cleifion fel Marie Morgan o Sir Gaerfyrddin.
"Ry'n ni 'di bod yn glir o ran ein neges ni tuag at yr NHS i wneud yn siŵr bod pobl yn y sefyllfa yna sy'n dioddef mewn poen yn cael yr help sydd angen arnyn nhw... tra eu bod nhw'n aros am yr help sydd i ddod o'r NHS.
"Mae blaenoriaethu eisoes yn cael ei wneud.
"Felly ry'n ni yn categoreiddio'r achosion yma ac yn sicrhau bod y rhai sydd wedi bod mewn sefyllfa lle mae nhw'n urgent, maen nhw yn cael blaenoriaeth.
"Ond beth sydd angen nawr yw i sicrhau bod y system yn cynyddu, yn trawsnewid.
"A ni'n gweld bod ffyrdd newydd o drawsnewid y system er enghraifft y fordd ry'n ni'n trin pobl gyda problemau llygaid, a ni'n 'neud yr un peth gyda pethau fel orthopaedics."
Siom na fydd cynllun nes Ebrill
Ond mae Plaid Cymru wedi dweud ei bod yn siomedig na fydd y cynllun i fynd i'r afael ag amseroedd aros yn cael ei gyhoeddi am ddeufis arall.
Dywedodd llefarydd iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth: "Mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym fod llai o bwysau o'r coronafeirws ar ein GIG, ac eto mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhy araf i ymateb i'r newyddion da hyn.
"Wrth wynebu tasg mor sensitif o ran amser â chael y GIG yn ôl ar y trywydd iawn, nid oes amser i'w gwastraffu.
"Dylai Llywodraeth Cymru fod yn barod gyda chynllun adfer nawr, yn union fel y dylen nhw fod wedi cael cynllun ar waith cyn y pandemig. Mae mis Ebrill yn rhy hir i aros am fater mor bwysig."
Mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon hefyd wedi galw am gyhoeddi'r cynllun ynghynt, gan ddweud fod "perygl o roi'r cart o flaen y ceffyl heb gyfeiriad strategol gan Lywodraeth Cymru i'r byrddau iechyd".
Effaith Covid i'w weld 'am beth amser'
Tra'n cydnabod effaith enfawr coronafeirws ar y gwasanaeth iechyd, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George nad oedd amseroedd aros yn ddigon da cyn y pandemig chwaith.
"Roedd y rhestr aros eisoes yn fwy nag erioed ddwy flynedd yn ôl, mae nifer y gwelyau wedi cael eu gostwng i ddau draean o'r hyn yr oedden nhw pan ddaeth Llafur i bŵer, ac mae 'na filoedd o swyddi gwag sydd angen eu llenwi," meddai.
Ychwanegodd Conffederasiwn GIG Cymru y bydd effaith y pandemig i'w weld ar y gwasanaeth iechyd "am beth amser".
Mae hyn oherwydd eu bod yn ofni fod pobl wedi bod yn gyndyn i gael cymorth meddygol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Dyma pam fod angen cefnogaeth gyfartal i'r system gyfan, ac mae angen i'r llywodraeth fynegi realiti'r heriau sydd o'n blaenau i'r cyhoedd," meddai'r cyfarwyddwr Darren Hughes.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2022