Sefyllfa Airbnb Blaenau Ffestiniog y 'tu hwnt i reolaeth'

  • Cyhoeddwyd
Blaenau

Mae'n un o'r llefydd mwya' poblogaidd ym Mhrydain ar gyfer llety Airbnb - ond mae na rybudd hefyd fod y sefyllfa'n mynd "y tu hwnt i reolaeth" ym Mlaenau Ffestiniog.

Dyna ddywedodd Ceri Cunnington, swyddog datblygu hefo Cwmni Bro Ffestiniog, sy'n hybu cydweithio rhwng mentrau cymunedol yr ardal, wrth Newyddion S4C.

Mae yna gynnydd mawr wedi bod yn y galw am dai ym Mlaenau, a chynnydd yn y prisiau o ganlyniad.

Y llynedd fe enillodd Bro'r Chwareli statws treftadaeth byd ond mae na bryder fod prisiau tai y tu hwnt i gyrraedd pobl leol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenlli Evans yn falch ei bod wedi prynu tŷ yn barod

"Ma' gynno fi gartre' - dwi'n teimlo'n hynod ffodus bo' fi wedi gallu 'neud o rai blynyddoedd yn ôl," meddai Gwenlli Evans, merch o Fanod sy'n magu teulu ym Mlaenau.

"Erbyn rŵan f'aswn i ddim yn gallu fforddio. Mae'r prisiau wedi codi 40% yn y flwyddyn diwethaf. Y rung gyntaf ar yr ysgol - mae rheina'n symud yn eitha' sydyn so mae tai dau lofft, gan mai rheina sydd eu hisio ar gyfer tai Airbnbs - mae rheina yn symud yn ffastach 'lly."

Fe ddangosodd arolwg diweddar fod Blaenau bellach ymhlith y llefydd mwyaf poblogaidd yn Mhrydain ar gyfer llety Airbnb.

Ond yn ôl Ceri Cunnington, mae gormod o hynny ym Mro Ffestiniog bellach.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ceri Cunnington fod y syniad o Airbnb yn un da ond mae'r cyfan wedi mynd 'y tu hwnt i reolaeth'

"Mae'r ffaith bod yna dai yn cael eu prynu a'u troi yn Airbnbs yn profi'n broblem sy'n cau pobl lleol allan o'r farchnad dai, er enghraifft, ond mae'r syniad o Airbnb - sef stafell sbâr yn dy dŷ i'w rhannu gyda rhywun sydd eisiau ymweld â dy ardal - yn syniad grêt ond fel ma'r farchnad a chyfalafiaeth a phob dim yn profi mae'n mynd y tu hwnt i reolaeth rŵan.

"'Dan ni wedi ac wrthi'n prynu eiddo ar y stryd fawr - ac oes mae angen arian ond ma' 'na arian yn dod fewn i'r ardal.

"Be 'dan ni angen yw cefnogaeth 'efo adnoddau er mwyn i gymunedau gael gwireddu y syniadau a'r potensial sydd o fewn cymunedau."

Fe anfonodd Airbnb eu hymateb i BBC Cymru - a hwnnw'n un cynhwysfawr.

Fe ddywedon nhw fod y rhan fwya' o bobl sy'n cynnig llety yn eu cartref yn byw yno hefyd ac mae'r arian hwnnw'n hynod o bwysig i rai pobl fel ffynhonnell incwm.

Gan gydnabod bod yna bryderon am y cyflenwad tai mewn rhai ardaloedd, mae Airbnb yn dweud eu bod wedi argymell i Lywodraeth y DU y dylid cael cofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety - rhywbeth maen nhw'n dweud y bydd y llywodraeth yn ei wneud.

Fe allai hynny ei gwneud hi'n rhwyddach i gynghorau lleol wneud penderfyniadau ym maes cynllunio polisi tai.

Mae'r cwmni hefyd yn cyfeirio at ymchwil gan economegwyr Oxford Economics, sy'n amcangyfrif bod defnyddwyr llety Airbnb wedi cyfrannu £107m i economi Cymru yn ystod 2019, gan gynnal 3,600 o swyddi, a bron i 7% o'r holl wariant ym maes twristiaeth.

'Cyngor Gwynedd wedi arwain'

Eisoes mae Cyngor Gwynedd wedi dyblu treth y cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor - sef premiwm o 100%.

Dywedodd llefarydd bod y cyngor "wedi arwain ar yr her o geisio rheoli niferoedd ail gartrefi a llety gwyliau byr dymor".

"Cyflwynwyd adroddiad i Gabinet y Cyngor ym mis Rhagfyr 2020 a oedd yn cynnwys cyfres o argymhellion allai wneud gwahaniaeth ymarferol er mwyn cael gwell rheolaeth o'r sefyllfa ac fe gyflwynwyd rhain i Lywodraeth Cymru."

Ychwanegodd: "Ers hynny, rydym yn falch fod adroddiad a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru gan Dr Simon Brookes yn ymgorffori nifer o'r argymhellion a amlygwyd yng ngwaith ymchwil y Cyngor.

"Bellach, mae'r llywodraeth yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd ar gynigion i ddiwygio rheoliadau a pholisi cynllunio a fyddai'n gallu helpu awdurdodau i reoli ail gartrefi a llety gwyliau byr dymor.

"Byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes allweddol yma i fachu ar y cyfle i gymryd rhan yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sydd ar agor tan 22 Chwefror 2022."

Yn yr ymgynghoriad hwnnw mae'r llywodraeth yn holi a ddylai bod angen caniatâd cynllunio i gynnig llety tymor byr mewn ardaloedd lle mae na brinder tai i bobl yn eu cymunedau.

Eisoes maen nhw'n ystyried effaith ail gartrefi ar y cymunedau hynny ac mae cynllun peilot ar waith yn Nwyfor gyda chymorth Cyngor Gwynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Kayleigh Lovell ei bod yn anodd iddi a'i theulu gael cartref ym Mlaenau Ffestiniog

Fe fyddai Kayleigh Lovell wrth ei bodd yn cael cartref iddi hi a'i theulu ym Mlaenau Ffestiniog.

"Dwi wedi gweld lot o dai ar werth ac mae pob un yn cael ei brynu erbyn i fi sbiad i mewn iddo neu ella' bo nhw'n cael eu rhentio allan - ond ma' nhw gyd i'r holiday makers a dyna sut ma' nhw'n 'neud eu pres nhw.

"I deulu fel fi - mae gen i bedwar o blant - mi fuasai'n help mawr 'sen nhw'n prynu nhw, fel ma' rhai yn 'neud, a rhoi nhw i'r council - rhoi nhw i'r council i'w rhentu allan i deuluoedd fel ni."

Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio nad oes atebion rhwydd ac maent yn nodi nad yw'r ateb mewn un gymuned, o reidrwydd, yn gwneud y tro mewn ardal arall.

I'r rheiny sydd am gyfrannu i'r ymgynghoriad - bydd angen gwneud hynny o fewn y dyddiau nesaf.

Pynciau cysylltiedig