Holl ASau yn medru cyfarfod yn y Siambr o 1 Mawrth
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfyngiadau pandemig ar Senedd Cymru yn cael eu lleddfu ar 1 Mawrth, gyda phob un o'r 60 aelod yn cael mynychu os ydyn nhw'n dymuno.
Dyma'r tro cyntaf ers mis Mawrth 2020 i'r Senedd fedru cyfarfod yn llawn ym Mae Caerdydd.
Ond gallai rhai aelodau gadw draw o hyd, gyda chyfraniadau o bell yn gallu parhau trwy Zoom.
Mae'r Senedd wedi cyfarfod ar-lein, neu mewn fformat hybrid, ers dechrau'r pandemig.
Mae cyfarfodydd "hybrid" presennol yn gweld nifer fach o Aelodau'r Senedd yn cyfarfod yn gorfforol a'r gweddill yn cymryd rhan trwy gynhadledd fideo.
Dywedodd e-bost at ASau eu bod yn cael eu cynghori'n gryf i wisgo gorchuddion wyneb yn y siambr a chymryd prawf llif unffordd cyn mynychu'n bersonol.
Dywedodd y bydd trefniadau i gyfrannu'n rhithwir yn aros yn eu lle tan o leiaf toriad y Pasg.
Cyfarfodydd rhithwir y Senedd oedd y cyntaf o'u math yn y DU.
Daeth sesiynau hybrid yn Nhŷ'r Cyffredin i ben yr haf diwethaf.
Dywedodd y Senedd fod y cynnig wedi'i gymeradwyo gan y Llywydd Elin Jones, mewn ymgynghoriad ag uwch Aelodau Seneddol ar bwyllgor busnes Senedd Cymru, ar ôl iddo gynnal asesiad risg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2022