Ateb y Galw: Hywel Griffiths

  • Cyhoeddwyd
Hywel GriffithsFfynhonnell y llun, Hywel Griffiths

Hywel Griffiths sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Eurig Salisbury yr wythnos diwethaf.

Darlithydd Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Hywel yn ei waith o ddydd i ddydd. Mae hefyd yn fardd ac fe enillodd Gadair Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau yn 2015. Mae'n byw yn Aberystwyth gyda'i deulu.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fy nhad-cu (ar ochr Mam), neu Dat, fel y bydden ni'n ei alw, yn cario fi rownd clos ei ffarm, yn mynd o sied i sied yn edrych ar yr anifeiliaid. Min nos oedd hi, felly mae'n siwr ei bod hi'n amser gwely arnai a Dat yn trio fy mlino. Roedd fy mrawd a mi'n treulio llawer iawn o amser ar y ffarm lle'r oedd ochr Mam o'r teulu'n byw, ac wrth ein boddau yno.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Anodd iawn dewis un ond siwr o fod y parti syrpreis drefnodd Alaw fy ngwraig i ddathlu ennill y Goron yn Steddfod Caerdydd, 2008. Dwi'n cofio cerdded i mewn i dop y Cwps yn Aber a gweld teulu a ffrindie wedi dod ynghyd a chael tipyn o sioc! Roedd gig gan Bob Delyn a'r Ebillion i ddilyn a dawnsio a mwydro a mwynhau.

Ffynhonnell y llun, Hywel Griffiths

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Bardd. Daearyddwr. Crwydryn.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae caeau'r ffarm lle cefais fy magu ar ochr bryn sy'n edrych i lawr dros y dyffryn llydan rhwng Caerfyrddin a San Clêr. O'r tir uchaf ar y ffarm - cae o'r enw Parc y Llethr - mae modd gweld y Preseli tua'r gorllewin a Bannau Sir Gâr tua'r dwyrain, a rhwng y ddau mae Sir Gar yn wyrdd i gyd. Bron iawn wrth neidio'n uchel y gallwn weld dros Afon Tywi tua'r de i gyfeiriad Crwbin! Dwi'n cofio clywed Dad yn esbonio wrth ffrind o bant y fath amrywiaeth a chyfoeth o dafodieithoedd a thraddodiadau gwahanol oedd modd eu gweld o'n cwmpas ni mewn ardal mor fach. Mae angen croesi nant i gyrraedd Parc y Llethr ac mae hen goedwig o'r enw Fforest Uchaf gerllaw - perffaith!

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Roedd criw ohonyn ni'n aros gyda ffrind yng Nghaerdydd un tro (hyd heddiw dwi ddim yn siwr lle yn union! Rhywle yn ardal Cathays dwi'n meddwl) - roedd pawb arall wedi gallu cyrraedd nol i'r tŷ, ond mi o'n i'n crwydro mewn cylchoedd o gwmpas y strydoedd a oedd i gyd yn edrych yr un peth. Cael tacsi wedyn - rhoi'r cyfeiriad i'r gyrrwr a hwnnw'n dweud sawl tro bod y tŷ rownd y gornel - rhyw ddau funud o gerdded ar y mwyaf. Erbyn hynny ro'n i wedi cael llond bol o gerdded, felly dyma fi'n pledio ar y gyrrwr i fynd a fi. Cododd bumpunt arnai dwi'n meddwl.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Mi fyswn i wrth fy modd yn cael paned gyda Stephen King. Dwi wedi dod yn edmygydd mawr iawn o'i waith dros y blynyddoedd diwethaf - ei glasuron fel It, The Stand, Pet Semetary, a Salem's Lot, a'r llyfre mwy diweddar fel The Outsider. Dwi wrth fy modd gyda'i gyfrol lled hunangofiannol On Writing hefyd. Mae'n swnio fel boi iawn, a'i draed ar y ddaear, a dwi'n siwr y byddai'n gwmni da. Mi fysen i'n ei holi'n dwll am sut i sgwennu nofelau!

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr awdur Stephen King, rhywun hoffai Hywel gael sgwrs gyda dros baned

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Hyd yma dwi ddim yn tueddu i grïo pan fo pethe mawr bywyd yn digwydd. Mi fyddai'n crïo'n amlach ar bethe dydd i ddydd, wrth wrando ar gân, neu feddwl am rywbeth mae'r plant wedi ei ddweud neu ei wneud. Dwi'n meddwl mod i wedi crïo ychydig wrth wylio penodau cyntaf y ddrama ddiweddar Anne, am Anne Williams, a gollodd ei mab yn Hillsborough ac a fu'n arwain yr ymgyrch dros gyfiawnder wedyn.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Roedd Mam yn cynnal Aelwyd yr Urdd yn Ysgol Gynradd Llangynog pan o'n i'n ddisgybl yno, ac rwy'n cofio imi gamfihafio ychydig mwy na'r arfer un noson - manteisio ar y ffaith mai Mam oedd wrth y llyw mae'n debyg, ac nid yr athrawon arferol. Ces i stwr fy mywyd yn y gwasanaeth y bore wedyn gan y brifathrawes, o flaen yr ysgol gyfan (rhyw 60 o blant). Sai'n credu mod i erioed wedi teimlo'r fath gywilydd ers hynny - syndod i fy ffrindiau dwi'n siwr!

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Sawl un. Gadael cwpanau coffi o gwmpas y lle yn un ohonynt. Darllen ar y ffôn cyn mynd i gysgu yn un arall.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Dwi'n hoff iawn o'r llun yma o Alaw a finne yn y Steddfod Gudd yng Nghanolfan y Celfyddydau yn 2021. Roedden ni newydd adnewyddu ein haddunedau priodas y diwrnod hwnnw (ar ôl deg mlynedd) ac roedd pobl yn dod at ei gilydd unwaith eto, o'r diwedd, mewn gig Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Hywel Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Hywel gyda'i wraig Alaw yn yr Eisteddfod Gudd yn 2021

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

The Lord of the Rings yw fy hoff lyfr - dwi wedi ei ddarllen a'i ailddarllen droeon a dyw'r ymdeimlad o ddianc i ganol stori, a byd arall, ddim wedi pylu o gwbl. Dwi ddim mor hoff o'r ffilmiau, ond dy'n nhw ddim yn ddrwg chwaith!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Y gig cynta imi fynd iddo oedd Meat Loaf yn y CIA yng Nghaerdydd ddechre'r nawdegau.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

James Dean Bradfield. Dwi'n ffan mawr iawn o'r Manics, ac mi fuaswn wrth fy modd yn gwybod sut deimlad yw gallu canu'r gitar cystal â fe.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

James Dean Bradfield o'r Manic Street Preachers, rhywun hoffai Hywel dreulio diwrnod yn ei 'sgidiau

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd i barc trampoline gyda'r teulu. Aethon ni unwaith, a dyma fi'n taflu fy hun (yn llythrennol) i'r hwyl a chael diwrnod gret. Yn anffodus doeddwn i ddim yn gallu cerdded yn iawn am rhyw bythefnos wedyn oherwydd poen cefn. Fyse hynna ddim yn broblem ar fy niwrnod ola' na fydde? Wedyn rhoi Lleucu a Morgan i'w gwelyau, mynd a Sami'r ci am dro, a chael cyri poeth takeaway o flaen y teledu gydag Alaw. Darllen The Lord of the Rings cyn cysgu (nid ar y ffôn).

Ffynhonnell y llun, Hywel Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Hywel gyda'i deulu

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Elinor Gwynn

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw