Ateb y Galw: Y cerddor Lewys Wyn
- Cyhoeddwyd
Y cerddor Lewys Wyn sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Ifan Emlyn Jones yr wythnos diwethaf.
Mae Lewys Wyn yn gerddor sy'n adnabyddus fel canwr a gitarydd Yr Eira ac yn fwy diweddar yn rhyddhau senglau misol o dan yr enw Sywel Nyw. Mae'n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i'r Urdd. Mae Lewys yn mwynhau ysgrifennu cerddoriaeth a dilyn tîm Cymru ar dripiau oddi-cartref.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cwestiwn da. Dwi'n meddwl fod troad y mileniwm ymysg y cyntaf. Parti mawr yn tŷ, a finna dal hefo'r dwmi.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Adra ym Mangor - lleoliad a chwmni da. Teras Nos Da, Caerdydd - beer garden gora'r byd.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Jyst yn cyfleu perthynas dau frawd a chwaer yn berffaith. Mwy na thebyg mi oedda' ni newydd gal uffar o ffrae.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Styfnig, penderfynol, caredig.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Fel arfer meddwl am anffawd rhai o'm ffrindiau. Ma' meddwl am fêt i fi'n disgyn mewn i bwll nofio mewn nightclub yn Belgrade o hyd yn dod â gwên i'r wyneb. Dwi eto i ddallt pam o'dd 'na bwll nofio yn y clwb hefyd.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ambell gig i gynulleidfa wag. Dwi'n cofio gneud un gig yn Hendre Hall Bangor lle dim ond Mam a Dad oedd yna. Hwyl i'w gael.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Priodas fy nghyfnither ryw wsos yn ôl. Cyfuniad o gwrw a speeches da.
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Gormod i'w restru ma' siŵr.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Obsessed hefo podlediad Socially Distant Sports Bar ar hyn o bryd, hiwmor sydd ar yr union r'un wavelength â fy hiwmor i.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
T in the Park 2015, cyfarfod Pete Doherty cyn dwyn ei rider o'i gyd.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Llewelyn Morris Humphreys 'Murray The Hump', right hand man Al Capone. Dwi'n siŵr 'sa gena fo straeon diddorol i'w adrodd.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Ma' gena'i datw ar fy nhin ac ar fy mraich.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Gofyn i Elon Musk os eith o â fi i blaned arall.
Beth ti'n edrych mlaen at wneud mwya' unwaith fydd pandemig Covid wedi dod i ben?
Ordro peint wrth y bar yn lle drwy ap.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Jurgen Klopp. A jyst gneud gymaint o damage â phosib i glwb pêl-droed Lerpwl.