Pum munud gyda Ariadne Koursarou

  • Cyhoeddwyd
Ariande Koursarou
Disgrifiad o’r llun,

Ariadne Koursarou

Tydi pobl ifanc heb ei chael hi'n hawdd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. O wynebu cyfnodau clo, addasu i ddysgu o bell a cholli allan ar gymdeithasu, bu rhyddid yn beth prin i bobl ifanc y pandemig.

Mae Ariadne Koursarou o Gaerdydd yn codi cwr y llen ar ei bywyd hi a'i ffrindiau mewn cyfnod o wisgo masgiau, profi a hunanynysu yn y gyfres radio Yn 16 Oed...

Cymru Fyw fu'n sgwrsio gyda Ariadne am ei phorfiadau hi a sut mae hi'n addasu i fywyd wrth i'r wlad ailagor.

Dyweda ychydig amdanat ti dy hun.

Rwy'n 17 mlwydd oed ac yn byw yng Nghaerdydd. Rwyf yn fy mlwyddyn olaf yn Ysgol Glantaf. Rwyf yn astudio Drama, Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Crefyddol a fy ngobaith yw astudio drama yn y brifysgol. Cwpl o ffeithiau diddorol amdana i yw bod teulu fy nhad yn dod o Cyprus (rydw i yn siarad Groegaidd) ac mae gen i efaill o'r enw Olympia!

Ffynhonnell y llun, Ariadne Koursarou
Disgrifiad o’r llun,

Ariadne a'i hefaill Olympia

Rwyt ti yn dy flwyddyn olaf yn Ysgol Glantaf. Yn ystod y ddwy flynedd o bandemig, rwyt ti wedi troi o fod yn berson ifanc 16 oed i fod yn oedolyn. Sut wyt ti'n teimlo am hynny?

Rwyf wedi dod yn oedolyn ifanc yn ystod y pandemig ac rwy'n teimlo fy mod wedi dysgu llawer am ein cymdeithas. Rwyf wedi dod yn fwy ymwybodol am sefyllfaoedd byd-eang sydd wedi fy helpu i aeddfedu fel person.

Yn y gyfres rwyt ti'n ei gyflwyno, Yn 16 Oed... rwyt ti'n cyfweld â rhai o dy ffrindiau yng Nghaerdydd am eu profiadau nhw o'r pandemig. Beth wnest ti ei ddysgu am effaith y pandemig ar dy ffrindiau wrth eu cyfweld nhw?

Wrth gyfweld â fy ffrindiau, sylweddolais fod bywydau cymdeithasol ac addysg pobl ifanc wir wedi cael eu heffeithio gan y pandemig. Rydw i a llawer o fy ffrindiau wedi colli mas ar gymdeithasu ac rydym yn teimlo bod ein haddysg wedi cael ei heffeithio yn wael. Rydym ni i gyd yn gobeithio nawr bod pethau am ddychwelyd i ryw normalrwydd!

Ffynhonnell y llun, Ariadne Koursarou
Disgrifiad o’r llun,

Ariadne Koursarou a rhai o'i ffrindiau

Wyt ti wedi gallu mwynhau hwyl a rhyddid fel person ifanc dros y ddwy flynedd ddiwethaf?

Nac ydw oherwydd rwyf wedi bod yn bryderus am bobl vulnerable rwy'n nabod, ond nawr bod yna frechlyn rwyf yn teimlo'n fwy hyderus i allu mynd allan a mwynhau. Rydw i nawr yn teimlo yn fwy positif am sefyllfa Covid ac rydw i'n gobeithio bydd pethau yn gwella.

Sut mae dy fywyd cymdeithasol erbyn hyn?

Erbyn hyn rwyf yn mynd allan i'r dref gyda theulu a ffrindiau ac rydw i yn teimlo'n saff ac yn hapus gan fy mod yn gwisgo fy mwgwd ac yn diheintio yn rheolaidd. Mae hi wedi bod yn rili neis i allu cymdeithasu gyda ffrindiau eto. Mae'n ddoniol i gofio eistedd dau fetr i ffwrdd yn ein gerddi yn y cyfnod clo cyntaf!

Wyt ti wedi sefyll arholiadau ers i Covid-19 dorri, ac os nad wyt ti, sut wyt ti'n teimlo am sefyll arholiadau dros yr haf eleni?

Roeddwn i fod eistedd fy arholiadau TGAU yn 2020, ond wedyn daeth Covid, ac ers hynny nid wyf wedi sefyll arholiad! Ym mis Rhagfyr (sydd jyst wedi bod) roedd fy arholiadau moc ac rwyf yn gwybod beth i ddisgwyl yn yr haf. Rwyf dal yn teimlo bach yn nerfus ond mae gen i gefnogaeth fy athrawon ac rydw i'n teimlo'n fwy hyderus.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ariadne yn ei blwyddyn olaf yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

Mae'r pandemig wedi cael effaith ar iechyd meddwl pobl. Sut wyt ti wedi edrych ar ôl dy iechyd meddwl dy hun?

Yn ystod y cyfnodau clo, pob diwrnod es i am dro gyda fy nheulu ac rwyf dal i wneud heddiw. Rwyf hefyd yn hoffi gwneud ymarfer corff a workouts Joe Wicks oherwydd mae'n fy rhoi mewn meddylfryd da ac rwy'n teimlo yn iach ar ôl eu cyflawni.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Joe Wicks

Beth yw dy deimladau am ddysgu o bell? Wnaeth o weithio i ti neu ydy'n well gen ti dderbyn addysg wyneb yn wyneb?

Nid oeddwn i yn hoff o ddysgu o bell oherwydd rydw i yn berson cymdeithasol a siaradus, ac roeddwn i yn colli dysgu gydag eraill. Hefyd collais gymhelliant i weithio ac nid oedd siawns i mi gael one to one gyda fy athrawon.

Yn y gyfres Yn 16 Oed... mae rhai o dy ffrindiau'n trafod yr effaith gafodd y pandemig ar ddysgu gyrru. Lwyddaist ti i ddysgu gyrru dros y ddwy flynedd ddiwethaf?

Rwyf yng nghanol dysgu gyrru nawr ac rydw i yn gobeithio gwneud fy mhrawf yn y misoedd nesaf.

Sut wyt ti'n teimlo am fyw bywyd fwy 'normal' erbyn hyn?

Rydw i yn edrych ymlaen at ddychwelyd i ryw 'normalrwydd' yn enwedig wrth ystyried mynd i'r brifysgol flwyddyn nesaf.

I glywed rhagor gan Ariadne a phrofiadau ei ffrindiau gwrandewch ar Yn 16 Oed... ar BBC Sounds.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig