Y Gynghrair Genedlaethol: Wealdstone 1-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Wrecsam i sgorio dwy gôl yn y munudau olaf i ennill oddi cartref yn Wealdstone brynhawn Sadwrn.
Bu'n rhaid disgwyl 70 i'r gêm fywiogi, wrth i'r golwg Rob Lainton droseddu yn erbyn Rhys Browne i roi cic o'r smotyn i'r tîm cartref.
Llwyddodd Browne i'w rhwydo, ond daeth llygedyn o obaith i'r ymwelwyr gyda 10 munud yn weddill wrth i Jack Cook gael ei ail gerdyn melyn a'i yrru o'r maes i Wealdstone.
Fe wnaeth Wrecsam gymryd mantais, gyda Jordan Davies yn sgorio gydag ergyd wych i gornel ucha'r rhwyd gyda dau funud yn weddill o'r 90.
Ond yna, pum munud i mewn i'r amser a ychwanegwyd ar gyfer anafiadau, fe rwydodd Reece Hall-Johnson er mwyn sicrhau'r triphwynt i'r Cymry.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn aros yn y seithfed safle yn y Gynghrair Genedlaethol.