Wcráin: 'Poeni am fy nheulu sy'n byw yno'

  • Cyhoeddwyd
Gareth Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Roberts o Drawsfynydd yn treulio hanner y flwyddyn yn Wcráin

Mae dyn sy'n rhannu ei amser rhwng Cymru ac Wcráin yn dweud ei fod yn "bryderus" am ddiogelwch ei deulu yno.

Mae'r DU wedi cyhoeddi cyfres o sancsiynau yn erbyn Rwsia ar ôl i'r wlad orchymyn milwyr i ddau ranbarth o ddwyrain Wcráin sy'n cael eu dal gan wrthryfelwyr.

Mae pum banc wedi cael eu hasedau wedi'u rhewi, ynghyd â thri biliwnydd o Rwsia - a fydd hefyd yn cael eu taro â gwaharddiadau teithio yn y DU.

Dywedodd Boris Johnson fod gweithredoedd Rwsia yn gyfystyr â "goresgyniad o'r newydd" ac awgrymodd y bydd mwy o sancsiynau yn dilyn.

Pwysleisiodd y gallai'r rhain gael eu hymestyn - ond roedd yn wynebu galwadau am weithredu llymach nawr.

Gorchmynnodd Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin filwyr i mewn i ranbarthau Donetsk a Luhansk ddydd Llun, ar ôl cydnabod eu bod yn annibynnol.

Dywedodd yr Arlywydd Putin y byddai'r milwyr yn "cadw heddwch" yn y rhanbarthau ymwahanu - honiad a wrthodwyd gan yr Unol Daleithiau a'i ddisgrifio fel "nonsens".

'Siomedig a phryderus'

Mae Gareth Roberts o Drawsfynydd yn treulio hanner y flwyddyn yn Wcráin ac yno mae ei blant a'i wyrion yn byw.

"Mae'n siomedig iawn be' sy' 'di digwydd - a ma' ymateb llywodraeth Prydain yn siomedig hefyd dwi'n teimlo," meddai wrth raglen y Post Prynhawn.

"Dylia sancsiyna' fod yn llawer cryfach."

Dywedodd nad oedd y sancsiynau sydd yn eu lle ers 2014 wedi cael unrhyw effaith ar Rwsia.

"'Da ni'n bryderus," ychwanegodd. "Dwi wedi gwneud ymholiadau ynglŷn â'r posibilrwydd mewn argyfwng iddyn nhw [ei deulu] ddod yma. Ond yr atab ydy fydd hi ddim."

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Cerbydau arfog Rwsiaidd yn rhanbarth Rostov yn Rwsia, ger ffin Wcráin

Dywedodd dynes o Gorwen sy'n wreiddiol o Crimea bod y sefyllfa yn "frawychus" a'i bod yn "nerfus iawn".

Cafodd rhanbarth Crimea - oedd dan reolaeth Wcráin - ei gipio a'i feddiannu gan Rwsia yn 2014.

Nawr mae Gulzara Jones, 47, yn credu bod "bygythiad go iawn" ac mae'n dweud nad yw'n siŵr "ble mae Putin yn mynd i stopio".

Ar benrhyn Crimea mae mam a chwaer hynaf Mrs Jones yn byw o hyd, ac mae ei theulu'n dweud bod tanciau yn ymgasglu yno.

'Tanciau ar y ffordd'

"Mi wnes i siarad efo fy chwaer fawr bore 'ma ac mi wnaeth hi ddweud ei bod wedi cael ei deffro bore 'ma gan sŵn, ac mi aeth i'r gwaith a gweld tanciau ar y ffordd," meddai.

"Mae'r sefyllfa yn frawychus ar hyn o bryd.

"Mae 'na fygythiad go iawn, mae Wcráin wedi bod yn rhyfela efo Rwsia ers wyth mlynedd. 'Dan ni wedi colli Crimea, a 'dan ni'n colli Donetsk a Luhansk rŵan, be' sy'n digwydd nesaf? Ble mae Putin yn mynd i stopio?"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gorchmynnodd Vladimir Putin filwyr i mewn i ranbarthau Donetsk a Luhansk ddydd Llun

Ar un cyfnod roedd Mrs Jones yn byw yn Kyiv, ac mae ganddi ffrindiau ar draws Wcráin, yn ogystal ag yn Rwsia.

"Mae mam fy ffrind yn byw yn Donetsk. Dywedodd hi ddoe eu bod wedi bomio'r ddinas," meddai.

"Ac mae fy ffrind arall, sy'n byw yn Kyiv, wedi dweud bod ysbytai yn Dnipro yn llawn o bobl sydd wedi eu hanafu, a rhai wedi marw. Mae'r sefyllfa yn nwyrain Wcráin yn edrych yn beryglus iawn ac yn ofnadwy."

Dywedodd nad ydy hi'n credu bod sancsiynau wedi bod yn effeithiol i rwystro symudiadau milwrol Vladimir Putin yn y gorffennol, ond mae ganddi neges i Joe Biden a Boris Johnson.

"Mae'n rhaid iddyn nhw wrando a dangos solidarity efo Wcráin."

Rwsia'n wynebu sancsiynau

Brynhawn Mawrth fe gyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai sancsiynau yn erbyn pump banc Rwsiaidd a thri biliwnydd o'r wlad yn dilyn penderfyniad Putin i anfon milwyr i ddwyran Wcráin.

Yn ôl Boris Johnson, mewn araith yn San Steffan, roedd penderfyniad Rwsia yn "oresgyniad o'r newydd", gan rybuddio'r angen i baratoi am "argyfwng hirfaith".

Gan groesawu penderfyniad Llywodraeth yr Almaen i ollwng cynlluniau am y bibell nwy Nord Stream 2 o Rwsia, rhybuddiodd y bydd mwy o weithredoedd oni bai bod Rwsia'n tynnu'n ôl.

Ond roedd sawl Aelod Seneddol o'r farn nad oedd sancsiynau Llywodraeth y DU yn mynd yn ddigon pell.

Disgrifiwyd Vladimir Putin fel "celwyddgi gwaedlyd" gan aelod Llafur y Rhondda, Chris Bryant.

Ffynhonnell y llun, Parliament TV
Disgrifiad o’r llun,

Tydi'r sancsiynau ddim yn mynd ddigon pell, yn ôl aelod y Rhondda, Chris Bryant

"Fy mhryder yw nad ydym yn mynd yn ddigon pell heddiw, yn 2014 roeddem yn ddi-asgwrn cefn a heb ddangos digon o benderfyniad ar draws y gorllewin," meddai.

"Wnaethon ni ddim cau'r broses o arian budr sy'n dod fewn i'r DU."

Tra dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: "Mae Putin wedi cadarnhau ei fod yn imperialydd didostur sydd ar fin dinistrio sofraniaeth a hunan benderfyniad Wcráin.

"Rhaid i ni daro Putin lle mae'n brifo.

"A fydd Prif Weinidog y DU yn ymrwymo i orchymyn cyfreithiol ar gwmnïau'r DU i ddadfuddsoddi [o Rwsia], ac os nad nawr, pryd?"

Pynciau cysylltiedig