Chwe Gwlad 2022: Faletau ac Adams yn ôl i herio Lloegr

  • Cyhoeddwyd
FaletauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Faletau wedi ennill 86 o gapiau dros ei wlad

Bydd Taulupe Faletau a Josh Adams yn dechrau i Gymru yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn ar ôl gwella o'u hanafiadau.

Faletau ac Adams ydy'r unig ddau newid i'r tîm a gurodd yr Alban, gan gymryd lle Jac Morgan a Louis Rees-Zammit.

Mae Morgan yn symud i'r fainc, ond fel y disgwyl mae Rees-Zammit wedi'i adael allan yn gyfan gwbl.

Bydd yr asgellwr Alex Cuthbert yn ennill ei 50fed cap dros ei wlad yn Twickenham.

Mae'r wythwr Faletau, 31, wedi chwarae dwy gêm i Gaerfaddon ar ôl seibiant o saith mis gydag anaf i'w bigwrn.

Methodd Adams y fuddugoliaeth gartref dros yr Alban oherwydd problem gyda chefn ei goes.

Cafodd asgellwr Caerdydd ei ddewis fel canolwr ar gyfer y golled agoriadol yn Iwerddon ond mae'n ôl yn ei safle naturiol yn Twickenham.

Owen Watkin a Nick Tompkins sy'n dechrau eto fel canolwyr gyda Jonathan Davies ymysg yr eilyddion a Dan Biggar yn gapten unwaith eto.

Disgrifiad o’r llun,

Tîm Cymru i wynebu Lloegr ddydd Sadwrn

Yn y cyfamser, bydd Harry Randall - sydd wedi cynrychioli tîm ieuenctid Cymru - yn dechrau yn safle'r mewnwr i Loegr.

Mae Courtney Lawes yn dychwelyd ac wedi'i enwi'n gapten, ond mae Manu Tuilagi allan gydag anaf er iddo gael ei enwi yn y tîm fore Iau.

Bydd Lloegr yn dewis pwy fydd yn bartner i Henry Slade yng nghanol cae - sy'n debygol o fod yn un ai Joe Marchant neu Elliot Daly - ar ôl iddyn nhw gyrraedd Twickenham brynhawn Sadwrn.

Tîm Lloegr i wynebu Cymru: Steward; Malins, Slade, Marchant/Daly, Nowell; Smith, Randall; Genge, Cowan-Dickie, Sinckler, Ewels, Itoje, Lawes (capt), Curry, Dombrandt.

Eilyddion: George, Marler, Stuart, Isiekwe, Simmonds, Youngs, Ford, Daly.

Pynciau cysylltiedig