Dydd Mawrth Ynyd, crempog bob munud
- Cyhoeddwyd
Dydd Mawrth Ynyd yw'r diwrnod traddodiadol i wledda ar grempogau, ac mae'r hen ddywediad "Dydd Mawrth Ynyd, crempog bob munud" yn wir i ran helaeth ohonon ni.
Mardi Gras (Dydd Mawrth Tew) yw'r enw ar y diwrnod mewn llawer o wledydd Catholig gan mai'r arferiad oedd i fwyta pob math o fwydydd a danteithion cyn dechrau ymprydio, a oedd yn rhan o'r Grawys, y 40 diwrnod cyn y Pasg. Mae gwreiddiau dathliadau Mardi Gras Rio de Janeiro yn nyfnderoedd Dydd Mawrth Ynyd.
Yng Nghymru mae'n hen ŵyl ddaeth yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol pan oedd Cymru'n wlad babyddol.
Gan fod cyfnod hir o ymprydio o'u blaen, roedd pobl yn arfer bwyta'r olaf o stôr menyn a saim yn y tŷ trwy wneud crempogau. Roedd y tlodion yn arfer 'blawta' a 'blonega', sef hel blawd a braster i wneud crempogau.
Mewn rhannau o'r wlad hyd at ddechrau'r 20fed ganrif byddai plant yn mynd o dŷ i dŷ i ofyn am grempogau: tebyg iawn i'r traddodiad o hel Calennig adeg y Calan.
Roedd arferion eraill ar Ddydd Mawrth Ynyd yn cynnwys ymladd ceiliogod a chwarae math o bêl-droed gyntefig. Un o'r rhain oedd y Cnapan oedd yn boblogaidd yn ne Cymru ar y pryd. Yn ardal Arberth, Sir Benfro, byddai merched yn dod â basgedi llawn o grempogau i'w rhoi i'r chwaraewyr niferus.
Cysylltodd Cymru Fyw â'r cogyddion Elliw Gwawr, Gareth Richards a Beca Lyne-Pirkis er mwyn cael ambell i syniad gwahanol am sut i ddathlu Diwrnod Crempog mewn steil.