Modd rhoi gwallt affro i elusen drwy dechneg newydd
- Cyhoeddwyd
"Mae'n teimlo'n ysgafn iawn ar fy mhen! Dwi'n gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli pobl i roi arian a rhoi eu gwallt."
Roedd Poppy wedi treulio dros hanner ei hoes yn tyfu'i gwallt - a hynny ar gyfer yr ymweliad yma â'r siop trin gwallt.
Ers iddi fod yn bump oed, roedd Poppy wedi bod eisiau rhoi ei gwallt i elusen.
Dywedwyd wrthi o'r blaen na allai gwneuthurwyr wigiau weithio gyda gwallt affro oherwydd ei fod yn rhy fregus.
Ond dywedodd ei bod "wrth ei bodd" a hynny wedi i dechneg newydd olygu ei bod yn gallu cyfrannu o'r diwedd i Little Princess Trust.
'Rhan fawr o hunaniaeth'
Yn ôl Poppy, sy'n 11 oed ac yn byw yn Rhondda Cynon Taf, roedd hi eisiau "helpu a bod yn hael".
"Mae'n bwysig rhoi gwallt affro oherwydd mae'n rhan fawr o hunaniaeth pobl," ychwanegodd.
Nid dim ond tyfu ei gwallt mae Poppy wedi bod yn ei wneud. Mae Poppy a'i rhieni wedi bod yn codi arian i'r elusen - dros £2,750 hyd yn hyn.
Mae'r Little Princess Trust yn darparu wigiau i blant sydd wedi colli gwallt tra'n cael triniaeth canser neu am resymau eraill.
Gall clymu wig unigol â llaw gymryd rhwng 30 a 60 awr - ac weithiau bydd angen hyd at 12 neu 14 o roddion gwallt unigol.
Cyn hynny, roedd yr elusen yn gwneud wigiau steil affro o wallt syth Ewropeaidd wedi'i steilio'n gyrliau tynn.
Roeddwn nhw wedi methu dod o hyd i wneuthurwr wigiau a allai weithio gyda rhoddion affro. Yn y broses arferol o wneud wigiau, byddai gwallt affro yn torri'n hawdd.
Ond yn 2021, ar ôl gweithio gyda'r gwneuthurwyr wigiau o Lundain, Raoul, datblygwyd dull 'wefting', sy'n golygu y gall yr elusen nawr dderbyn gwallt affro.
'Gweithred anhunanol o garedigrwydd'
"Roedden ni eisiau rhoi'r dewis ychwanegol yna a sicrhau ein bod ni'n gallu rhoi wig o wallt affro - gwallt affro iawn," meddai Prif Weithredwr y Little Princess Trust, Phil Brace.
"Mae bob amser yn chwerwfelys oherwydd byddai'n well gennym beidio â gorfod cyflenwi'r wigiau hyn o gwbl.
"Mae yna ddigon o heriau gyda cholli gwallt i berson ifanc, heb orfod poeni a ydyn nhw'n cael y wig maen nhw ei eisiau."
Ychwanegodd eu bod wedi apelio'n ddiweddar am fwy o roddion gwallt affro gan ddisgrifio rhodd Poppy fel "gweithred anhunanol o garedigrwydd."
Gan ddiolch iddi nid yn unig am ei chyfraniad gwallt ond hefyd am ei hymdrechion codi arian, eglurodd mai nhw yw'r unig elusen sy'n darparu'r gwasanaeth yma i bobl ifanc yn y DU a'u bod yn gwbl ddibynnol ar waith gwirfoddolwyr sy'n codi arian a rhoddwyr.
"Rydyn ni'n ddyledus ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn, iawn."
Roedd clywed y newyddion y gallai Poppy roi ei gwallt o'r diwedd yn "arbennig iawn", yn ôl ei mam, Beki Lee-Burrowes.
"Mae gwybod bod plentyn sy'n dioddef o ganser, sy'n cael amser erchyll yn ei fywyd; iddyn nhw gael mynediad at wallt sy'n eu cynrychioli nhw a'u hunaniaeth… mae bod yn rhan o hynny'n bwysig iawn i ni," meddai.
"Mae hi'n bendant yn 'hair-o'!"
Dywedodd ei mam, Jessica Lee-Burrowes ei bod yn gobeithio y byddai stori ei merch yn arwain at fwy o bobl yn rhoi gwallt.
"Mae'n teimlo mor llethol ac rydyn ni mor falch ohoni a'r ffaith ei bod wedi cadw ato."
Ond nid dyma ddiwedd y daith i Poppy. Dywedodd ei bod yn barod i dyfu ei gwallt a rhoi eto.
"Alla i ddim aros i wneud hyn eto yn y dyfodol," meddai.
"Rwy'n falch iawn o'r hyn wnes i heddiw ac rwy'n gyffrous iawn!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022