Caniatáu cyfleuster tollau Môn gwerth £45m
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr Môn wedi rhoi sêl bendith i gynllun gwerth £45m i adeiladu cyfleuster tollau yng Nghaergybi.
Ddydd Mercher gafodd cais Llywodraeth y DU i ddatblygu cyn-safle Roadking ar Barc Cybi ei gymeradwyo'n unfrydol gan Bwyllgor Cynllunio'r cyngor.
Yn ôl adran Gyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC), bydd y safle yn creu tua 175 o swyddi ar ôl ei gwblhau.
Byddai hefyd, medd HMRC, yn cyflogi 390 arall yn ystod y cyfnod adeiladu.
Dywedodd yr Aelod Seneddol, Virginia Crosbie fod y cynllun Safle Rheoli Ffiniau yn "ddatganiad o fwriad Lywodraeth y DU i lefelu fyny ardaloedd fel Ynys Môn".
Ond tra'n croesawu'r buddsoddiad, barn Rhun ap Iorwerth, sy'n cynrychioli Môn yn y Senedd, yw "na fydd y swyddi hyn yn gwneud yn iawn am y difrod economaidd a wnaed yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd".
Gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae chwilio hirfaith wedi bod am safle addas i gynnal cyfleuster o'r fath, gyda'r angen wedi codi'i ben yn dilyn ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
Dros ardal o 84,000 metr sgwâr, bydd y ganolfan yn gwirio dogfennau a nwyddau sy'n croesi'r ffin i fewn ac allan o Weriniaeth Iwerddon.
Y gobaith yw prosesu hyd at 346 lori bob 24 awr, neu 40 yr awr.
Mae adran Gyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) am ddefnyddio rhai o'r adeiladau presennol - gyda rhai dros dro eisoes yn darparu peth o'r gwaith ar y safle.
Gyda'r cais cynllunio yn cynnwys estyniadau i'r prif adeilad, bydd hefyd llefydd i lorïau barcio yn ogystal â chyfleusterau ychwanegol ar gyfer staff.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu cyfleuster ar-wahân i wirio anifeiliaid a phlanhigion sy'n dod fewn i Gymru o Iwerddon.
Buddion economaidd
Yn 2020 gafodd cais ar gyfer safle tollau ger maes Sioe Môn, ym Mona, ei wrthod gan y cyngor oherwydd pryderon y byddai lorïau'n gorfod gyrru oddi ar yr A55 a thrwy bentrefi ar yr A5, megis Gwalchmai.
Roedd safle Roadking, a ddefnyddiwyd fel arhosfan lorïau, wedi'i glustnodi'n safle posib cyn i Lywodraeth y DU ollwng y cynlluniau gwreiddiol yn Rhagfyr 2020.
Ond wedi atgyfodi'r syniad misoedd yn ddiweddarach, cyhoeddwyd yng Ngorffennaf 2021 fod HMRC wedi'i brynu yn swyddogol.
Adeiladwyd Roadking yn 2015 fel man aros ac ymlacio i yrwyr lori ac fe wnaeth ei gau yn yr haf arwain at golli 24 o swyddi yn y dref.
Mae Llywodraeth y DU yn nodi elfen economaidd y cynllun newydd, gan addo buddion werth £240m dros gyfnod o ddegawd.
Dadl Brexit
Er hynny, mae Aelod Senedd yr ynys o'r farn fod Brexit yn fwy o ergyd nac o fudd economaidd.
"Dwi'n falch dros bawb fydd yn dod o hyd i waith ar y safle newydd hwn, wrth gwrs, ac fe wnes i lobïo i sicrhau y dylai unrhyw gyfleuster fel hwn fod o fudd i'r ardal leol," meddai Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru.
"Ond o edrych ar y darlun mawr, yn anffodus ni fydd y swyddi hyn yn gwneud yn iawn am y difrod economaidd a wnaed yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys y swyddi sydd dan fygythiad neu'n cael eu colli mewn rhannau eraill o'r economi.
"Mae hyn yn cynnwys rhai mewn perthynas uniongyrchol â'r gostyngiad yn y niferoedd sy'n teithio drwy Borthladd Caergybi.
"Mae'r ffaith bod y cyfleuster hwn i'w leoli ar safle arhosfan lori, a fu'n brysur gynt, yn dweud cyfrolau.
"Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i frwydro am gyfleoedd newydd i borthladd a thref Caergybi ac i Ynys Môn yn ei chyfanrwydd."
Ond mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol, Virginia Crosbie, wedi disgrifio'r datblygiad fel un all "drawsnewid rhagolygon pobl leol".
"Bydd adeilad newydd o'r radd flaenaf yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r rhai sy'n gweithio yno gan eu bod mewn cyfleusterau dros dro ar hyn o bryd," meddai.
"Mae'r datblygiad eisoes wedi gwneud ei farc drwy drawsnewid rhagolygon pobl leol - mae nhw bellach â swyddi diogel yn talu'n dda yn eu tref genedigol.
"Bydd yr adeilad yn sefyll fel datganiad o fwriad Llywodraeth y DU i lefelu fyny ardaloedd fel Ynys Môn sydd wedi dioddef o danfuddsoddi ers blynyddoedd."
Cefnogaeth swyddogion
Dywedodd adroddiad swyddogion Cyngor Môn, oedd yn argymell caniatáu'r cais: "Byddai cyfraniad y cynnig i'r economi leol yn sylweddol, yn enwedig o ystyried y cyfnod heriol a brofir ar hyn o bryd gan ogledd Ynys Môn, o ganlyniad i golli swyddi yn sgil datgomisiynu Gorsaf Bŵer Wylfa, ansicrwydd o ran gorsaf bŵer Wylfa Newydd a fyddai'n cymryd ei lle, ynghyd â'r posibilrwydd o gau busnesau gweithgynhyrchu lleol fel Rehau.
"Bydd unrhyw ganiatâd a roddir gan yr awdurdod yn cynnwys amodau sy'n gofyn am gyflwyno Cynllun Cyflogaeth Leol a Chynllun Cadwyn Gyflenwi Leol i sicrhau y bydd y datblygiad arfaethedig o fudd i'r ardal leol."
Yn siarad yn ystod cyfarfod y cyngor sir, dywedodd Iain Leech o HMRC fod recriwtio eang wedi bod o bobl leol, a byddai'r iaith Gymraeg hefyd yn cael ei hyrwyddo.
Yn wyneb pryderon ynglŷn â sŵn posib o'r safle, ychwanegodd y byddai polisi na fyddai lorïau yn cael aros yn eu hunfan gyda'r injan yn rhedeg.
Cafodd y cais ei gymeradwyo yn unfrydol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2020