Celf Crempog ar Ddydd Gŵyl Dewi

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gwyliwch yr artist Nathan Wyburn yn gwneud portread o arwr Cymreig ar grempog!

Pan mae dydd Mawrth crempog a Dydd Gŵyl Dewi yn glanio ar yr un diwrnod, beth mae rhywun yn ei wneud i nodi'r achlysur?

Comisiynodd Cymru Fyw yr artist Nathan Wyburn i wneud portread o arwr Cymreig ar ffurf crempog.

Mae Nathan Wyburn yn arlunydd sydd wedi creu tipyn o enw i'w hun dros y blynyddoedd diwethaf, gyda sêr o'r byd pop a Hollywood ymysg y rhai sy'n edmygu ei waith.

Mae'r artist 32 oed o Lyn Ebwy yn creu gwaith gan ddefnyddio dulliau anarferol, a gyda deunydd anghyffredin fel glo, Marmite a gwaed ffug.

Daeth Nathan i enwogrwydd gyntaf yn 2011 pan gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain's Got Talent, ac ers hynny mae ei yrfa wedi mynd o nerth i nerth.

Ond y tro hwn, mae o wedi defnyddio rhai o'n hoff gynhwysion i'w taenu dros grempog i wneud portread. Allwch chi ddyfalu pwy ydy o?

Pynciau cysylltiedig