Mabwysiadu gorfodol: 'Mam yn haeddu ymddiheuriad'

  • Cyhoeddwyd
Anne, yn 7 oedFfynhonnell y llun, Anne Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Anne ei mabwysiadu ond mae'n dweud na ddatblygodd berthynas agos gyda'i mam fabwysiadol

Mae menyw gafodd ei mabwysiadu yn fabi yn y 1950au eisiau cydnabyddiaeth bod merched hŷn yn ogystal â "mamau ifanc" wedi dioddef oherwydd mabwysiadu gorfodol.

Rhoddodd Katie Green enedigaeth i Anne Jones yn 36 oed y tu allan i briodas, a doedd "dim dewis" ganddi ond ffarwelio â hi oherwydd "cywilydd" a dim cymorth ariannol.

Mae Anne yn rhan o ymgyrch sy'n mynnu ymddiheuriad ffurfiol gan y llywodraeth am yr "anghyfiawnder".

Mynegodd Llywodraeth Cymru "gydymdeimlad dwysaf" i'r rhai yr effeithiwyd arnynt.

Amcangyfrifir bod 250,000 o fenywod, y rhan fwyaf yn ddi-briod ac o dan 24 oed, wedi'u heffeithio gan fabwysiadu gorfodol ym Mhrydain yn y 1950au, 1960au a'r 1970au.

"Rwy'n teimlo bod pwyslais mawr ar famau ifanc, di-briod a gafodd eu cymryd i ffwrdd a'u rhoi mewn cartrefi mamau a babanod ac ati ac mae hynny'n arswydus," meddai Anne.

"Ond roedd yna bobl eraill fel fy mam a oedd mewn sefyllfa hollol wahanol.

"Dydw i ddim eisiau i famau hŷn gael eu hanghofio."

Dywedodd Anne fod ei phlentyndod yn anhapus gan bod ei mam fabwysiadol wedi gwneud iddi deimlo "na allai wneud unrhyw beth yn iawn".

Ffynhonnell y llun, Anne Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Katie Green yn 36 oed pan aned Anne, ond bu'n rhaid iddi ffarwelio â hi

Roedd hi bob amser yn meddwl tybed pwy a ble oedd ei mam enedigol ac a allai ei bywyd fod wedi bod yn wahanol.

Pan glywodd ym 1977 fod newid yn y gyfraith yn golygu y gallai ddod o hyd i enw ei mam enedigol, manteisiodd ar y cyfle.

Katie Green oedd ei mam ac roedd ei chyfeiriad yng Nghaernarfon, 30 milltir i ffwrdd o'r man lle cafodd Anne ei magu yn Llandudno.

Ond cyn iddi ymweld, darganfu ei gweithiwr cymdeithasol fod ei mam wedi marw yn 1973, rhywbeth sy'n "dal i frifo".

Pan gurodd ar y drws yng Nghaernarfon, cyfarfu â'i modryb Blodwen, chwaer Katie, sy'n dal i fyw yno.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Anne ei bod yn bwysig i'r ymchwiliad ddeall bod mabwysiadu gorfodol hefyd yn effeithio ar fenywod hŷn

Dywedodd Blodwen wrth Anne fod Katie yn teimlo ei bod yn cael ei gorfodi i roi'r gorau i'w merch fach.

"Doedd neb wedi camu i'r adwy a dweud 'fe allwn ni wneud hyn i chi' neu 'mae'r budd-dal hwn y gallwch ei gael, bydd y wladwriaeth yn eich helpu', dim byd."

Dywedodd Blodwen hefyd wrth Anne fod ganddi frawd hŷn o'r enw Ken a oedd hefyd wedi'i eni y tu allan i briodas.

Llwyddodd Katie i gadw Ken pan gafodd ei eni ym 1938 gan ei bod hi'n byw gyda'i rhieni ac felly roedd ganddi gefnogaeth.

Ond, erbyn 1951, roedd ei rhieni wedi marw felly pan roedd Katie yn feichiog eto gan yr un gŵr priod, roedd y sefyllfa'n wahanol.

Dywedodd Anne: "Roedd ganddi un plentyn anghyfreithlon yn barod ac roedd yn cael ei hystyried yn fenyw wedi ei llorio."

Ffynhonnell y llun, Anne Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cadwyd brawd hŷn Anne, Ken, gan eu mam gan ei bod yn byw gyda'i rhieni pan gafodd ei eni

Ychwanegodd Anne nad oedd Blodwen wir eisiau trafod y mabwysiadu a chafodd y teimlad ei bod yn teimlo "ychydig yn euog".

"Roedd hi bob amser yn dweud ei bod yn difaru, nad oeddent am iddo ddigwydd," meddai Anne.

'Mae fy merch yn 21 heddiw'

Yr unig wybodaeth ffurfiol sydd gan Anne yw'r ffeithiau sylfaenol ar ei thystysgrif geni a'i thystysgrif mabwysiadu a roddwyd iddi ym 1977.

Ers hynny nid yw wedi gallu dod o hyd i ragor o wybodaeth am ei mabwysiadu er gwaethaf cysylltu â sawl sefydliad ac nid oes ganddi "unrhyw syniad o gwbl" pwy drefnodd hynny.

Ffynhonnell y llun, Anne Jones
Disgrifiad o’r llun,

Katie Green (dde) a'i chwaer Blodwen yn y 1950au

Rhywbeth emosiynol iawn iddi yw'r cof am ei phen-blwydd yn 21 oed: "Y cyfan y gallwn i feddwl amdano oedd rhywle mae dynes sy'n gwybod bod ei babi yn 21 heddiw, roedd yn ymddangos mor anghywir."

Flynyddoedd yn ddiweddarach darganfu gan ffrind i'w mam fod Katie ar fore pen-blwydd 21ain oed Anne, wedi torri lawr i grio yn y stryd ar ei ffordd i'r gwaith gan ddweud "mae fy merch fach yn 21 heddiw".

Mae Anne yn teimlo bod "anghyfiawnder" wedi'i wneud i Katie, tra bod y "cyfrinachedd a'r celwyddau" a oedd yn amgylchynu ei mabwysiadu wedi arwain at ganlyniadau negyddol iddi gan fod ei "holl ymdeimlad o hunaniaeth" wedi'i golli.

Mae Anne bellach yn un o lawer o famau a phobl a fabwysiadwyd sy'n galw am ymddiheuriad ffurfiol dros fabwysiadu gorfodol hanesyddol.

"Mae'n ymwneud â chyfrinachedd ac mae'n ymwneud â chywilydd," meddai Anne.

"Rwy'n teimlo bod yna wahaniaethu sydd heb gael sylw. Y rhieni oedd yn rhoi'r gorau i'r plant, cafodd eu holl hawliau eu hepgor."

Mae cydbwyllgor San Steffan ar hawliau dynol yn ymchwilio i'r ffactorau a arweiniodd at famau di-briod rhwng 1949 a 1976 yn "cael eu gorfodi" i roi'r gorau i'w plant.

Mae'r pwyllgor yn credu y gallai'r rhain gynnwys "stigma cymdeithasol", lefelau annigonol o gymorth lles, diffyg gwybodaeth am ble i gael cymorth a phwysau gan "deulu, grwpiau cyfoedion, ymarferwyr meddygol, a sefydliadau cymdeithasol neu grefyddol eraill".

Ffynhonnell y llun, Anne Jones
Disgrifiad o’r llun,

Anne Jones yn fabi

Mae'r Mudiad dros Ymddiheuriad Mabwysiadu (MAA) eisiau ymddiheuriad ffurfiol gan lywodraethau'r DU a Chymru, yn debyg i'r un a wnaed gan lywodraeth Awstralia yn 2013.

Roedd menywod a oedd yn feichiog y tu allan i briodas yn aml yn cael eu hanfon i "gartrefi mamau a babanod" i roi genedigaeth.

Mae ymchwil MAA wedi darganfod bod 24 o'r rhain yng Nghymru, yn cael eu rhedeg yn bennaf gan sefydliadau crefyddol.

Mae Diana Defries o MAA wedi annog gweinidogion Cymru i edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn Awstralia ac ar gamau y mae llywodraeth yr Alban yn eu cymryd.

"Bydd yr un materion yn bresennol, bydd yr un materion yn crynhoi y tu ôl i ddrysau caeedig ac mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod bod hyn wedi digwydd, mae angen iddynt gydnabod y bydd menywod a'u plant sy'n oedolion yn dioddef.

"A bod angen gwneud rhywbeth i ddangos ei fod yn anghyfiawnder ac i ymddiheuro i'r merched yma."

Galwodd Ms Defries am roi "mesurau pendant", fel gwasanaethau cwnsela a chymorth i bobl ddod yn ôl at eu perthnasau, ochr yn ochr ag ymddiheuriad.

Ffynhonnell y llun, Anne Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anne Jones fod materion "wedi eu cymryd yn gyfan gwbl allan o ddwylo" ei mam Katie Green

Dywedodd Llywodraeth Cymru, er bod mabwysiadu gorfodol wedi digwydd cyn i Gymru gael ei llywodraeth ei hun, ei bod yn cydnabod bod yna bobl "sy'n cael eu heffeithio a bod eu teimladau o golled, galar, dicter a phoen yn parhau".

"Ni allwn newid yr hyn sydd wedi digwydd a deall y dioddefaint yr aeth nifer o deuluoedd drwyddo," ychwanegodd llefarydd.

"Rydym am fynegi ein cydymdeimlad dwysaf â phawb yr effeithiwyd arnynt gan fabwysiadu gorfodol hanesyddol a rhoi ein sicrwydd bod deddfwriaeth ac arferion mabwysiadu wedi'u cryfhau'n sylweddol i atal hyn rhag digwydd eto."

  • Wales Live, BBC One Cymru, 22:30 ar 2 Mawrth neu ar iPlayer