Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-0 Kings Lynn
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi codi i'r trydydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl curo King's Lynn 2-0 ar y Cae Ras.
Jordan Davies sgoriodd y gôl gyntaf ar ôl 13 munud, yn gorffen yn grefftus o groesiad Aaron Hayden.
Yna Paul Mullin, unwaith yn rhagor, yn canfod cefn y rhwyd ar ôl 20 munud.
Er iddynt daro'r postyn a chael sawl cyfle da ddechrau'r ail hanner, doedd yna ddim rhagor o goliau i'r tîm cartref.
Golygai'r canlyniad fod Wrecsam yn codi uwchben Boreham Wood i'r trydydd safle.