'Rwy'n poeni'n fawr am fy ffrind yn Wcráin'

  • Cyhoeddwyd
Criw ar bwys afon ar y ffin rhwng Wcráin a RwsiaFfynhonnell y llun, Emrys a Margaret Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Margaret (trydydd o'r chwith) ac Emrys (dde) gyda chyfeillion ar bwys afon ar y ffin rhwng Wcráin a Rwsia

"'Dy'n ni ddim yn ofni. Ry'n ni yn barod i ymladd. Ry'n ni yn unedig."

Mae Margaret Roberts yn emosiynol wrth ddarllen nodyn y mae newydd ei dderbyn gan ffrind agos iddi sydd yn athrawes Saesneg yn Wcráin.

Maen nhw wedi bod yn 'sgrifennu at ei gilydd ac yn ymweld â'i gilydd am dros 30 o flynyddoedd ers cyfarfod mewn gwersyll haf yn Kyiv.

"Rwy' yn poeni yn fawr amdani hi," medde Margaret wrtha'i, "oherwydd mae hi yn byw ar lan Afon Dnieper, ac mae rhai pobol yn dweud efallai mai dyna un llwybr i'r milwyr fydd yn dod i fyny at Kyiv.

"Mae yn anodd iawn iddi - mae hi newydd golli ei gŵr ac mae felly yn galaru, felly rwy' yn poeni yn fawr amdani."

Ffynhonnell y llun, Emrys Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Un o ffrindiau'r cwpl yn y wlad wnaeth baentio'r llun yma o eglwys Wcreinaidd

Dywedodd: "Rwy' newydd gael cysylltiad â hi ar-lein. Mae yn anodd i siarad â bobol ac i ddweud y gwir rwy' yn ofni edrych ar y teledu a gwrando ar y radio oherwydd 'wi yn poeni yn fawr. Rwy' wedi clywed bod ymosodiad wedi bod yn yr ardal yna."

Wrth ymyl Margaret mae Emrys ei gŵr, sy'n pori drwy bentwr o luniau a phapurau yn olrhain y cysylltiad rhwng y teulu o Gaerdydd a theuluoedd yn Wcráin.

Mae'n dweud wrtha'i bod Caerdydd, yn 1959, wedi gefeillio â dinas Luhansk a bu nifer o deithiau cyfnewid rhwng y ddwy ddinas yn y 1960au a'r 1970au.

Fe gafodd cymdeithas gefeillio rhwng y ddwy ddinas ei ffurfio yn swyddogol yn 1981, ond daeth y cysylltiad hwnnw i ben yn 1990.

Fe ymunodd Emrys a Margaret â'r gymdeithas gan bod ei merch yn astudio Rwsieg ar y pryd yn y brifysgol.

"Dros y blynydde", meddai "mae dwsinau o bobol Luhansk wedi ymweld â ni yn ac aros yma ac ry'n ni wedi bod draw yno sawl gwaith.

"Mae y cysylltiad mor gry' fel bod Margaret wedi ei mabwysiadu fel mam-gu gan un teulu yn Luhansk!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Margaret ac Emrys Roberts atgofion melys o'u hymweliadau ag Wcráin

Mae Emrys yn tynnu fy sylw at luniau sy' ganddo o arddangosfa yng Nghaerdydd yn 2015 yn dangos y difrod dychrynllyd gafodd ei achosi i Luhansk yn ystod y rhyfel cartref yn Wcráin.

"Gwlad yr ymylon yw ystyr Wcráin yn yr ieithoedd Slafaidd," medde Emrys ,"ac mae gwahaniaeth 'di bod rhwng y gorllewin a'r dwyrain yn y wlad ers canrifoedd.

"Yn nwyrain y wlad maen nhw wedi byw gyda rhyfel ers blynydde. Rwy' wir yn poeni nawr oherwydd mae Putin wedi mynd dros ben llestri, am wn i."

'Rhaid i ni helpu'

"Bydd eisiau cryn dipyn o help ar Wcráin ar ôl hyn," yn ôl Margaret. "Mae yn anodd gweld be yn union fydd angen oherwydd mae y sefyllfa yn newid mor sydyn.

"Mae Llywodraeth Prydain braidd yn araf yn dweud y byddan nhw'n cymeryd pobol o wlad Wcráin. Allwch chi ddim disgwyl i lefydd fel [Gwlad] Pwyl a Hwngari 'neud hyn ar ben eu hunain.

"Bydd rhaid i ni helpu hefyd. Mae rhaid i ni geisio datrys y broblem a dwi ddim yn siŵr a ydyn ni yn y gorllewin yn mynd o gwmpas hyn yn y modd mwya' defnyddiol.

Disgrifiad o’r llun,

Darn celf arall yng nghartref y cwpl, gan artist stryd yn Kyiv, sy'n atgof o'u profiadau yn Wcráin

"Dwi ddim yn gwybod lle y'n ni mynd i fynd. Mae yn iawn i gasglu yn ariannol, ond mae hynny'n mynd i fod yn araf."

Wrth i fi ofyn iddi beth yw ei hofn gwaethaf am y sefyllfa mae llygaid Margaret yn llenwi.

"Dwi yn ofni bydd llefydd fel Kyiv yn dod dan y lach, ac yn ofni bydd lot o bobol yn cael eu lladd os yw pethe yn parhau fel maen nhw, ac efallai bydd Rwsia yn defnyddio arfau hyd yn oed gwaeth.

"Rwy' yn meddwl bod hi yn beth ofnadwy yn y dyddie yma ein bod ni yn cael rhyfel yma yn hytrach na thrafod yn synhwyrol."

Pynciau cysylltiedig