Creithiau cudd epilepsi

  • Cyhoeddwyd
Gavin Andrew Owen
Disgrifiad o’r llun,

Gavin Andrew Owen

Maen nhw'n ddigwyddiadau bob dydd i'r rhan fwyaf o bobl, ond i Gavin Andrew Owen maen nhw'n creu ofn: noson tân gwyllt, gwylio ffilm gyda ffrindiau, garddio, siopa ar y stryd fawr.

Gan ei fod o wedi cael ffit epileptig yn y lleoliadau yma i gyd, mae'r atgofion yn gwneud iddo deimlo'n nerfus bob tro mae o mewn sefyllfaoedd tebyg.

Ac ar ôl dros 30 mlynedd o gael ffitiau, mae'r llefydd sy'n gysylltiedig gydag atgofion annymunol yn tyfu bob blwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Gavin, yn y canol, o gwmpas yr adeg pan gafodd ddiagnosis. Mae gan 1 o bob 100 o bobl ym Mhrydain epilepsi

Dim ond un rhan o'r cyflwr niwrolegol epilepsi ydi'r ffit ei hun, meddai Gavin: "Y peth mwya' horrible am seizures ydi'r pethau dydi pobl ddim yn gweld.

"Pan ti'n dod rownd ar ôl cael un ti'n confused ac mae o'n para am oriau. Ti'n trio actio'n normal wrth siarad efo rhywun sy'n agos ata chdi. Maen nhw'n gofyn cwestiwn i chdi ac fel ti'n mynd i ateb ti'm yn cofio be' 'di'r cwestiwn.

"Neu ti'n edrych ar y person a ti'n gwybod bod nhw'n bobl sy'n agos ata chdi achos y ffordd maen nhw'n edrych arna chdi ac yn siarad efo chdi, ond ti'm yn gwybod pwy ydyn nhw.

"Mae o fel bod gen ti ddementia. Mae o fel bod dy frên yn recoverio tra ti'n effro ac mae hwnna'n horrible - absolutely horrible. Mae o fwy scary na'r actual ffit achos ti'm yn cofio'r ffit. Mae o'n waeth na scrape ar dy ben neu carpet burn o'r ffit ei hun."

Llawdriniaeth

Ac mae o'n siarad fel rhywun sydd wedi cael ei siâr o greithiau corfforol.

Roedd rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ôl datgymalu ei ysgwydd 30 gwaith wrth gael ffitiau. Mae o rŵan yn disgwyl am driniaeth arall ar ôl chwalu'r ysgwydd wedi iddo ddisgyn lawr y grisiau wrth gael ffit arall.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gavin (ar y chwith) yn dweud ei fod yn hoffi gwthio'i hun, ac wedi rhedeg marathons a Ras yr Wyddfa

Ac mae effeithiau'r epilepsi wedi newid ei bersonoliaeth.

Gan nad ydi o'n ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd pan mae'n cael ffit, a'i feddwl yn niwlog am gyfnod cyn ac ar ôl y digwyddiad, mae'n gallu creu gorbryder a gorfeddwl.

'Ti'n gallu mynd yn paranoid'

Os nad ydi o'n gallu cofio rhan o'r diwrnod, rhywbeth ddywedodd ffrind mewn sgwrs er enghraifft, mae'n ail-fyw'r digwyddiad yn ei feddwl dro ar ôl tro i geisio canfod atgof er mwyn gwybod os mai ei feddwl yn crwydro'n naturiol oedd ar fai, neu epilepsi.

Felly ei ffordd o ddelio gyda hyn ydi canolbwyntio'n llwyr drwy'r amser er mwyn gallu cofio'r holl ddiwrnod. Os nad ydi o'n gallu cofio rhywbeth penodol, mae'n gallu bod yn obsesiynol wrth geisio cael atgof o'r digwyddiad.

"Ti'n gallu mynd yn paranoid os ti'm yn cofio rhywbeth, ac yn anxious," meddai. "Mae o wedi newid fy mhersonoliaeth. O'n i'n rili laidback ers talwm tan o'n i tua 16 neu 17.

"Mae pobl yn deud bod fi'n berson intense - ond dyna'r rheswm. Ti byth yn gallu relaxio ac mae'n gallu creu straen, dim jest i fi ond ar y bobl sydd o dy gwmpas di."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae meddygon yn amau bod Gavin, yn y canol gyda'i chwiorydd Sarah a Gemma, wedi bod yn cael petits mals ers yn fabi

Roedd Gavin yn 11 oed pan newidiodd ei fywyd. Fel plentyn roedd wrth ei fodd gydag awyrennau ac yn gwybod pob ystadegyn am "unrhywbeth oedd yn fflio", roedd am fod yn beilot.

Daeth y freuddwyd i ben pan ddechreuodd gael ffitiau, dwy ffit fawr (grand mal) y flwyddyn a tua 100 petits mals y dydd, sef ffitiau bychan sy'n para am ychydig eiliadau a weithiau heb symptomau amlwg.

Byw gyda risg

Ar ôl cael diagnosis epilepsi, y neges barhaus oedd bod cyffuriau am arbed unrhyw effaith mawr ar ei fywyd. Ond roedd y rhestr o'r hyn allai nawr fod yn berygl iddo yn dweud stori gwbl wahanol: croesi'r stryd, cael bath, dringo coed, reidio beic - hyd yn oed gwneud paned.

Wrth fynd yn hŷn a chael annibyniaeth roedd heriau eraill yn ei wynebu.

"Pan ti'n mynd yn hŷn a ma' mêts chdi'n dechrau dreifio a sôn am symud i ffwrdd, ti'n sylweddoli bod rhai pethau ddim am fod mor hawdd ag oedd pobl yn deud," meddai.

"Dwi'n cofio cael bath am y tro cynta' ar ôl diagnosis - pan o'n i'n hŷn ac wedi symud mewn i fflat oedd ddim efo shower. Ro'n i'n clymu chain y plwg yn dynn, dynn i fawd troed fi, fel bod y bawd reit wrth ymyl y plwg, felly os o'n i'n symud fy nhroed wrth gael ffit fasa'r plwg yn dod allan a faswn i ddim yn boddi.

"Ar y dechrau faswn i ddim yn rhoi lot o ddŵr yn y bath chwaith. O'n i'n byw fel yna am tua chwe mis."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Gavin yn 18 oed, gyda'i chwiorydd Sarah a Gemma

Mae Gavin, sy'n byw ym Montnewydd, yn dweud ei stori wrth Cymru Fyw ar drothwy Diwrnod Porffor, 26 Mawrth, sy'n codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr. Mae galw am fwy o ymchwil a chyffuriau mwy effeithiol.

Ar ôl tri degawd o gymryd gwahanol feddyginiaethau mae Gavin wedi penderfynu rhoi'r gorau iddyn nhw a cheisio rheoli ei gyflwr drwy fyw yn iach, peidio gorflino ac osgoi gormod o straen. Mae'n dweud bod y cyffuriau yn gwneud i'w feddwl droi'n niwlog, yn gallu niweidio ei iau a doedd o ddim yn meddwl eu bod yn gwella ei gyflwr, fel sy'n wir i 30% o bobl gydag epilepsi.

Tydi o ddim yn argymell neb i ddilyn yr un trywydd ag o, gan bwysleisio mai ei benderfyniad personol o ydi hyn ar ôl blynyddoedd o fyw gyda'r cyflwr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gavin Andrew Owen yn cael un neu ddau grand mal y flwyddyn erbyn hyn, a llawer llai o petits mals na phan oedd yn blentyn

Mae'n dweud ei fod yn benderfynol o beidio gadael i'r cyflwr ei effeithio gormod.

Coginio ydi un o'r gweithgareddau sy'n gallu bod yn beryglus i berson gyda epilepsi oherwydd y risg o losgi. Dyna un o brif ddiddordebau Gavin a saith mlynedd yn ôl fe ddechreuodd redeg siop siocled yng Nghaernarfon, ac mae ar fin ehangu.

Gyda chyfrifoldebau eraill erbyn hyn ac yntau'n dad, mae'n dweud ei fod wedi gorfod ystyried risg ar hyd ei fywyd ac addasu.

Meddai: "Ti'n gorfod gweithio pethau allan dy hun a meddwl, alla i unai poeni amdano fo a dim 'neud dim byd a lapio fy hun mewn bubble wrap neu gael balans rhwng cymryd risg a gwneud rhywbeth dwi eisiau, ond dim cymryd risg gwirion."

Pynciau cysylltiedig