Tancer olew arall o Rwsia wedi'i dargyfeirio o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae ail long oedd yn cludo tanwydd o Rwsia wedi ei dargyfeirio o Aberdaugleddau yn Sir Benfro.
Roedd tancer Yr Archelaos ar ei ffordd i'r porthladd yn ne'r sir ar ôl cael ei lenwi â disel yn Primorsk, Rwsia.
Roedd disgwyl i ddisel Puma Energy gael ei drosglwyddo i Gymru ddydd Mawrth ar ôl galw yn Le Havre, Ffrainc.
Ond, dywedodd y cwmni na fyddai'r tancer yn galw yn Sir Benfro bellach ac y byddai'n chwilio am ffynonellau disel arall ar gyfer y DU.
Mae gwleidyddion o Gymru eisoes wedi galw am beidio rhoi caniatâd i longau o Rwsia gludo nwyddau i borthladdoedd yma oherwydd ymosodiad Rwsia ar Wcráin.
Daeth hyn ar ôl i long arall gael ei ddargyfeirio o Gymru - oedd hefyd yn dod o Primorsk, Rwsia - yr wythnos ddiwethaf.
Ychwanegodd Puma Energy ei fod yn condemnio'r rhyfel a thrais yn Wcráin.
"Roedd Yr Archelaos wedi'i gyfeirio i Aberdaugleddau er mwyn aros am orchmynion wrth i ni ystyried y sefyllfa ar lawr gwlad ar hyd porthladdoedd y DU," meddai llefarydd ar ran y cwmni.
"O ystyried y datblygiadau diweddar, ni fydd y llong yn galw yn Aberdaugleddau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2022