Cymru'n codi £6.5m i apêl ddyngarol Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Gwylnos ar risiau'r Senedd ddydd Sul 6 Mawrth
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn dangos undod ag Wcráin ar risiau'r Senedd yng Nghaerdydd brynhawn Sul

Mae Cymru wedi cyfrannu bron i £6.5m yn y pedwar diwrnod cyntaf ers lansiad Apêl Ddyngarol Wcráin y pwyllgor argyfyngau DEC.

Bydd yr arian - sy'n cynnwys rhodd o £4m gan Lywodraeth Cymru - yn cael ei ddefnyddio i brynu cyflenwadau fel citiau meddygol, pebyll, blancedi, a pharseli bwyd brys.

Daw'r ymgyrch i gasglu arian yn sgil ymosodiadau ffyrnig gan Rwsia ar Wcráin, gydag 1.5m o bobl yn ffoi o'r wlad mewn dyddiau.

"Mae'r don anhygoel o gefnogaeth tuag at bobl sy'n ffoi o'r gwrthdaro wedi golygu ein bod ni wedi gallu dechrau gwario arian yn syth bin a helpu mwy o bobl," meddai Melanie Simmonds, Cadeirydd DEC Cymru.

Mae'r Urdd yn dweud eu bod nhw mewn trafodaethau gydag awdurdodau perthnasol am gartrefu ffoaduriaid o Wcráin - fel y gwnaethon nhw gyda phobl o Afghanistan.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Melanie Simmonds fod ymateb pobl Cymru wedi bod yn "anhygoel"

Mae hyd at 500 o wirfoddolwyr wedi bod yn helpu i gludo mynydd o nwyddau a roddwyd i warysau yn Wrecsam.

Ond mae elusennau ar lawr gwlad bellach yn "annog pobl i ddangos eu cefnogaeth trwy roddion ariannol yn hytrach na thrwy roi nwyddau sydd, er yn ystyrlon, yn aml ddim yn cyfateb i anghenion pobl ac sy'n ddrud i'w cludo".

Dywedodd pennaeth Oxfam Cymru, Sarah Rees ei bod yn "hynod ddiolchgar i bobl Cymru sydd wedi rhoi cymaint yn barod".

"Mae'n swm gwych o arian sydd yn mynd i fod yn helpu bobl sydd ei angen," meddai wrth BBC Radio Wales Breakfast.

'Pawb gyda'i gilydd'

Mae'r Ganolfan Cefnogi Integreiddio Pwyliaid yn Wrecsam wedi bod yn casglu nwyddau a roddwyd o gyn belled i ffwrdd â Llundain, Ynys Manaw a'r Alban yn dilyn apêl ar Facebook.

Dywedodd y cyfarwyddwr Anna Buckley eu bod yn gweithio gyda llywodraeth Gwlad Pwyl ar sut i anfon yr holl roddion i ffin Wcrain - mewn lori ac o bosib trwy gludo nwyddau awyr.

"Mae gennym ni Rwsiaid a ddaeth i'n helpu ni, Ukrainians a ddaeth i'n helpu ni, felly pawb gyda'i gilydd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd gwirfoddolwyr yn Wrecsam y penwythnos yn didoli eitemau a roddwyd i bobl Wcráin

Mae ffrindiau o Sir Ddinbych wedi mynd ati i brynu cerbyd 4x4 yn arbennig i fynd â nwyddau yn uniongyrchol i ffin Wcráin yn ddiweddarach yn yr wythnos.

"'De ni'n gobeithio gadael bore dydd Gwener a gadael y cerbyd jysd tu fewn i Wcráin hwyr nos Sadwrn a trio ffeindio ffor' yn ôl wedyn i Krakow a hedfan adra erbyn dydd Sul," meddai Llŷr Jones - a fydd yn un o'r gyrwyr - wrth Dros Frecwast.

"O'n i'n gwylio be o'dd yn digwydd ar Twitter ffermwr [yn Wcráin] a oedden nhw'n d'eud bod nhw angan cerbyda' 4x4 i helpu a wedyn dyma Elen yn ffonio i dd'eud bod arian ar ôl o'r hen elusen."

Disgrifiad,

Mae Llŷr Jones yn bwriadu gyrru i ddwyrain Ewrop i helpu pobl Wcráin ddiwedd yr wythnos

Roedd ei ffrind Elen Lloyd yn un o'r rhai sefydlodd elusen tua 15 o flynyddoedd yn ôl i helpu plant yn Affrica yn bennaf.

Ond erbyn hyn dywed fod yr arian dros ben wedi ei roi tuag at brynu'r 4x4 a fydd yn cynorthwyo'r ymateb dyngarol yn nwyrain Ewrop.

"Does 'na neb arall yn y byd ei angen o fwy na Wcráin ar hyn o bryd," meddai Elen Lloyd.

Pynciau cysylltiedig