Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 4-2 Boreham Wood

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam wedi cadw'u lle yn y trydydd safle ar ôl curo Boreham Wood o 4-2 nos Fawrth.

Ollie Palmer sgoriodd y gôl cyntaf wedi pymtheg munud, ond taro'n ôl wnaeth y gwrthwynebwyr gyda Scott Boden yn taro cefn y rhwyd wedi 38 o funudau.

Y sgôr ar yr hanner yn 1-1.

Wedi 61 munud, Aaron Hayden lwyddodd gydag ail gôl y tîm cartref a funudau'n ddiweddarach, gôl arall i Wrecsam gan James Jones.

Ceisio dal i fyny wnaeth Boreham Wood gyda Tyrone Marsh yn sgorio wedi 68 munud, ond llwyddodd Wrecsam i ymestyn y bwlch ar y sgorfwrdd gyda gôl gan Paul Mullin wedi 70 o funudau.

Y sgôr terfynol yn 4-2 i Wrecsam.