Prif weithredwr Golwg, Siân Powell yn gadael ei swydd
- Cyhoeddwyd

Dywed Siân Powell ei bod yn rhoi gorau i'w swydd er mwyn canolbwyntio ar ei theulu ifanc
Mae Prif Weithredwr Cwmni Golwg wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd er mwyn canolbwyntio ar ei theulu ifanc.
Mewn datganiad ar ei chyfrif Twitter, dolen allanol dywedodd Siân Powell bod "y cyfnod diwethaf wedi dod â sawl her ond yn bersonol yr un mwyaf i mi yw sicrhau balans rhwng fy swydd a theulu ifanc, felly ers cael trydydd plentyn dwi wedi penderfynu camu lawr o fy rôl i ganolbwyntio ar amser teulu".
Ychwanegodd ei bod wedi bod yn fraint bod yn rhan o dîm Golwg a'i bod yn "falch o fod wedi chwarae rôl am gyfnod yn hanes y cwmni".
"Mewn cyfnod heriol dwi'n falch o'r hyn 'da ni wedi'i gyflawni - o lansio Golwg+ i wefan newydd @Golwg360 a'r holl ddatblygiadau gyda @Bro_360," meddai.
Owain Schiavone fydd yn ei holynu dros dro nes y bydd rhywun yn cael ei benodi yn barhaol.
Ym mis Ionawr fe adawodd Garmon Ceiro ei swydd fel golygydd cylchgrawn Golwg a gwefan newyddion Golwg 360.
Fe ddechreuodd Siân Powell ar ei swydd yn Awst 2019 gan olynu Dylan Iorwerth a sefydlodd y cwmni yn 1988.

Mae gan Ms Powell, sydd o Ynys Môn yn wreiddiol, gefndir o ddarlithio mewn newyddiaduraeth a chynnal busnes ei hun fel ymgynghorydd ym maes cyfathrebu.
Adeg ei phenodi dywedodd Ms Powell: "Mae'r cyfle hwn i arwain Golwg yn fraint.
"Dwi'n edrych ymlaen at ymuno â'r tîm talentog a chreadigol wrth i ni weithio i gryfhau newyddiaduraeth Cymru."
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018