Gwerthu ffatri Rehau ym Môn i greu unedau busnes

  • Cyhoeddwyd
Rehau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ffatri'n cyflogi 104 o bobl pan gyhoeddodd y byddai'n cau

Mae ffatri a roddodd swyddi i bobl Môn am bron i 50 mlynedd wedi cael ei gwerthu.

Caeodd drysau ffatri Rehau yn Amlwch am y tro olaf yn 2019 pan gollodd dros 100 o bobl eu swyddi yno.

Bryd hynny cyhoeddodd cwmni Rehau, o'r Almaen - sy'n cynhyrchu deunydd plastig ar gyfer y diwydiant adeiladu - fod y farchnad ar gyfer eu cynnyrch wedi gostwng 70%.

Mae'r ffatri wedi'i gwerthu i gwmni Pi Real Estate, a'u gobaith yw ei adnewyddu er mwyn creu unedau busnes.

Mae'r cwmni newydd yn chwaer-gwmni i Hurstwood Holdings ym Manceinion, sy'n arbenigo mewn datblygu eiddo.

Dywedodd y cwmni y bydd y safle 60,108 troedfedd sgwâr cael ei adnewyddu i greu swyddfeydd, gweithdai a warws ar gyfer busnesau.

Dywedodd Andy Park, cyfarwyddwr Pi Real Estate bod cau ffatri Rehau "yn golled enfawr i'r ynys" ond eu bod yn bwriadu buddsoddi er mwyn creu adnodd a fydd yn cael "effaith economaidd bositif yn hirdymor" ar yr ardal.

"Wrth weithio gyda'r cyngor, ry'n ni'n bwriadu gwneud buddsoddiad sylweddol i ad-drefnu'r eiddo i ddarparu cyfleuster modern o'r radd flaenaf a fydd hefyd yn cael effaith economaidd bositif hirdymor ar y rhanbarth," meddai.

"Mae Stad Ddiwydiannol Amlwch bellach yn eistedd mewn Ardal Fenter sy'n golygu y bydd meddianwyr newydd yn gallu elwa ar y cymhellion hynny."

Pynciau cysylltiedig