Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-0 Preston

  • Cyhoeddwyd
Brad Potts, Preston North End a Alfie Doughty, CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans agency

Di-sgôr oedd hi yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i'r Adar Gleision herio Preston yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.

Daeth Preston yn agos at gael gôl gan Daniel Johnson ond arbediad gwych gan Alex Smithies i osgoi pwynt ar y sgorfwrdd i'r gwrthwynebwyr.

Cafwyd dau ymdrech hwyr gan Uche Ikpeazu o Gaerdydd ond atal unrhyw gôl wnaeth Preston.

Roedd Caerdydd yn gobeithio ennill y drydedd gêm yn olynol am y tro cyntaf y tymor hwn - ond roedd hi'n brynhawn diflas i'r Adar Gleision.

Mae Caerdydd yn aros yn safle 17 ar y tabl.