Ffrae am draddodiad cerddorol ymysg telynorion teires

  • Cyhoeddwyd
Cerys HafanaFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

"I fi mae cerddoriaeth gwerin yn gallu newid, ac fe fydd e'n newid," medd Cerys Hafana

Mae cryn ddadlau ymhlith telynorion yn sgil erthygl y mae'r delynores, Cerys Hafana, wedi ei hysgrifennu i bapur newydd The Guardian am ffyrdd gwahanol o ymwneud â cherddoriaeth draddodiadol Gymreig.

Ar y cyfryngau cymdeithasol mae'r cerddor Robin Huw Bowen, sy'n arbenigo ar ganu'r delyn deires, wedi ymosod ar sylwadau Ms Hafana wedi iddi ddweud fod "peryglon glynu'n ormodol at draddodiad".

"Nid 'datblygiad' nac ychwaith 'pobl ifainc' yw craidd traddodiad... dylai fod yn bont rhwng y cenedlaethau, yr ifainc yn dysgu gan yr hen a'r ddau yn rhannu efo'i gilydd, nid jest yn fynegiant arall o yoof cultcha," medd Mr Bowen.

"Mae 'newid' yn gallu lladd traddodiad yn enwedig os yw'r newid hynny yn ormodol," ychwanegodd.

Ond dywedodd y cerddor Cerys Hafana wrth Cymru Fyw fod yr "holl ffraeo 'ma am draddodiad cerddorol, methiant i symud 'mlaen a derbyn dylanwadau newydd yn gwbl niweidiol i'n traddodiad cerddorol gwerinol."

Ffynhonnell y llun, Cerys Hafana
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cerys Hafana fod "byw yn y gorffennol yn golygu peidio derbyn yr hyn sydd wedi newid er gwell"

"Dwi'n falch o'r traddodiad," ychwanegodd Ms Hafana, "a dwi'n hynod o falch bo' fi wedi cael gwersi gan Robin ei hun.

"Bwriad fy erthygl yn The Guardian, yn wir, oedd dangos bod yna gymaint o ffyrdd gwahanol o ymwneud â cherddoriaeth draddodiadol Gymreig - mae hynny'n cynnwys y modern iawn a'r traddodiadol.

"Mae'r delyn yn gallu cael ei gweld fel offeryn sy'n perthyn i gyfnod yr Oes Aur yng Nghymru - pan oedd pawb yn siarad Cymraeg ac wedi'u geni yng Nghymru, pan oedd tirfeddianwyr cyfoethog yn gorfodi eu morwynion i weithio yn eu gwisg genedlaethol er mwyn cadw'r traddodiad.

"Dwi am fod yn rhan o rywbeth sy'n newid, sy'n agored i ddylanwadau newydd gan bobl o lefydd eraill. I fi mae cerddoriaeth werin yn gallu newid ac fe fydd hi'n newid."

'Allwn ni ddim byw yn y gorffennol'

Ychwanegodd fod "byw yn y gorffennol yn golygu peidio derbyn yr hyn sydd wedi newid er gwell".

"Mae gan gerddorion y presennol gymaint i'w gynnig ac mae'n rhaid rhoi lle i ni a'r dylanwadau newydd. Allwn ni ddim byw yn y gorffennol ac mae'r holl ffraeo 'ma yn gwneud drwg i'r delyn deires," meddai Cerys Hafana.

"Mae byd y delyn, telyn deires, cerddoriaeth werin Gymraeg mor fach ac mor ranedig, ac mae o'n drist bod pobl yn mynnu cwympo allan yn lle 'neud bach o ymdrech i ddeall ei gilydd.

"Mae'n o'n siomedig i fi bod rhai pobl wedi dewis darllen be 'sgrifennais fel ymosodiad arnyn nhw, pan mewn gwirionedd o'n i'n ceisio dangos a deall y ddwy ochr - achos mae'r ddwy ochr wedi rhoi gymaint i fel cerddor."

Ffynhonnell y llun, Robin Huw Bowen
Disgrifiad o’r llun,

"Yr unig ffordd i barchu traddodiad yw ei ddilyn. Mae troi cefn arno yn ei ladd," medd Robin Huw Bowen

I Robin Huw Bowen mae sylwadau o'r fath yn gallu bod yn bersonol.

Roedd e wedi gobeithio y byddai papur newydd The Guardian yn cyhoeddi ei ymateb, ond gan nad ydynt wedi gwneud hynny fe gyhoeddodd ei sylwadau ar ei gyfrif Facebook.

"Mae'r syniad bod modd ailddarganfod yn gyson, a bod yn agored i bob math o ddylanwadau yn rhywbeth sy'n perthyn i ffasiwn a dim arall, ac i nifer mae'n agwedd cool," meddai.

"Ond i'r rhai ohonom sydd wedi bod yn ceisio canfod a gwarchod yr hyn sy'n weddill o'r traddodiad, mae agwedd o'r fath yn lladd yr hyn ry'n yn geisio ei wneud."

'Dishmoli yn gyhoeddus yng Ngwasg y Sais'

Ychwanegodd: "Rwy'n cytuno bod traddodiad yn newid yn raddol dros gyfnod o amser a bod dylanwadau o dramor a chreadigrwydd personol yn gallu bod yn rhan o'r datblygiad ond pan mae newid sydyn, mae'r traddodiad yn marw.

"Yr unig ffordd i barchu traddodiad yw ei ddilyn. Mae troi cefn arno yn ei ladd.

"Does gen i ddim problem gyda phobl yn creu cerddoriaeth newydd ond pan maen nhw'n galw hynny yn ddatblygiad, a hynny gyda'r awgrym ei fod er gwell, mae hynny yn gamddealltwriaeth ac yn ddiffyg parch.

"Mae gan Cerys Hafana lawer i'w ddysgu am y delyn draddodiadol Gymreig cyn chwilio dramor."

Mewn sylw pellach ar y cyfryngau dywedodd Mr Bowen: "Dwi'n lecio meddwl y byddai i bob amser yn croesawu unrhyw un i'r traddodiad ond peidied neb â disgwyl i mi aros yn dawel os mai ei ddishmoli yn gyhoeddus yng Ngwasg y Sais y gwnân nhw."

Pynciau cysylltiedig