Cyhoeddi carfan Cymru C i herio Lloegr yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Cymru CFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y trydydd tro i'r gêm gael ei chynnal

Mae carfan Cymru C wedi'i chyhoeddi er mwyn herio Lloegr C ar Yr Oval yng Nghaernarfon mewn gêm gyfeillgar ar 30 Mawrth.

Mae Cymru C yn dîm o chwaraewyr Cymreig gorau'r Cymru Premier, tra bod carfan Lloegr C yn cael ei dewis o'r Gynghrair Genedlaethol.

Dyma fydd y trydydd tro i'r gêm gael ei chynnal, yn dilyn buddugoliaeth Lloegr o 3-2 yn Y Barri yn 2018, a gêm gyfeillgar 2-2 yn Salford yn 2019.

Cafodd carfan ei dewis yn 2020 hefyd, ond nid oedd modd chwarae'r gêm oherwydd y cyfnod clo cyntaf.

Penybont (pedwar) a'r Seintiau Newydd (tri) yw'r clybiau sydd â'r nifer fwyaf o chwaraewyr yn y garfan eleni.

Mae Mark Jones, rheolwr Cymru C, hefyd wedi dewis dau yr un o'r Bala, Y Barri, Caernarfon a Met Caerdydd, ac un o Aberystwyth, Cei Connah, Y Drenewydd, Y Fflint a Hwlffordd.

Derwyddon Cefn yw'r unig dîm yn y Cymru Premier sydd heb aelod yn y garfan.

Carfan Cymru C

Gôl-geidwaid

Alex Ramsay (Y Bala), Connor Roberts (Y Seintiau Newydd).

Amddiffynwyr

Mael Davies (Penybont), Kane Owen (Penybont), Emlyn Lewis (Met Caerdydd), Dion Donohue (Caernarfon), Danny Davies (Y Seintiau Newydd), Callum Roberts (Y Drenewydd), Jake Phillips (Y Fflint), Lee Jenkins (Aberystwyth).

Canol cae

Lewis Harling (Penybont), Leo Smith (Y Seintiau Newydd), Clayton Green (Y Barri), Darren Thomas (Caernarfon), Aeron Edwards (Cei Connah), Tom Price (Met Caerdydd).

Ymosodwyr

Will Evans (Y Bala), Kayne McLaggon (Y Barri), Nathan Wood (Penybont), Ben Fawcett (Hwlffordd).