Covid-19: 48 yn rhagor o farwolaethau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae 48 yn rhagor o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 wedi cael eu cofnodi yng Nghymru, yn ôl y ffigyrau wythnosol diweddaraf.
Daw ffigyrau'r Swyddfa Ystadegol Gwladol (ONS) ddwy flynedd ers cofnodi'r farwolaeth gyntaf yng Nghymru yn sgil yr haint.
Mae nifer y marwolaethau wedi bod yn weddol gyson dros y mis diwethaf, ond fe roedden nhw dros dair gwaith yn uwch yn yr un wythnos yn 2021.
Mae hyn yn golygu bod nifer y marwolaethau yn ymwneud â Covid bellach wedi cyrraedd 9,779, yn ôl y dull yma o gofnodi.
Ni chafodd marwolaethau eu cofnodi yn Sir y Fflint, Sir Benfro, na Wrecsam yn yr wythnos ddiweddaraf, hyd at 4 Mawrth.
Roedd nifer y marwolaethau o bob achos 9% yn uwch na'r lefel arferol.
Mae nifer y marwolaethau ychwanegol o bob achos ers dechrau'r pandemig 6,100 yn uwch na'r lefel disgwyliedig.
Trywydd y pandemig
Cafodd yr achos gyntaf o Covid-19 yng Nghymru ei darganfod mewn ysbyty yn Abertawe ym mis Chwefror 2020, mewn claf oedd wedi dal yr haint yn yr Eidal.
Cafodd y farwolaeth gyntaf oedd yn ymwneud â Covid ei chofnodi ar 15 Mawrth 2020, pan fu farw claf 68 oed yn Ysbyty Maelor, Wrecsam.
Cafodd tua 2,500 o farwolaethau eu cofnodi yn ystod ton gyntaf y pandemig lle'r oedd sôn am Covid ar y dystysgrif farwolaeth.
Fe ddaeth yr ail don yn ystod gaeaf 2020-2021, ac am bedwar mis, Covid oedd prif achos marwolaethau Cymru.
Fe wnaeth y don gyrraedd ei brig ar 11 Ionawr 2021, pan gafodd 83 o farwolaethau eu cofnodi o fewn 24 awr - y diwrnod gwaethaf o ran marwolaethau yn ystod y pandemig yng Nghymru.
Dechreuodd y drydedd don tua diwedd haf 2021 gyda'r amrywiolyn Delta, ond fe wnaeth y rhaglen frechu leihau'r effaith ar ysbytai.
Er i amrywiolyn Omicron gynyddu nifer yr achosion yng Nghymru yn sylweddol, gwelodd Nadolig 2021 llai o salwch difrifol a marwolaethau na'r flwyddyn gynt.
Mae'r mwyafrif o gleifion mewn ysbytai sydd yn profi'n bositif am Covid yn cael eu trin am gyflyrau eraill, ac mae'r nifer sydd angen gofal brys yn gymharol isel.
Mae hyn yn golygu mai brig y don bresennol oedd 20 o farwolaethau dyddiol, a hynny ym mis Medi a mis Hydref.
Roedd yna 710 o farwolaethau yn ymwneud â Covid hyd at ddiwedd mis Chwefror, o'i gymharu â 3,723 yn ystod yr un cyfnod y gaeaf diwethaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022