Pryder am effaith datblygiad tai ar y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Pentref

Mae cynllun ar gyfer 23 o gartrefi fforddiadwy newydd mewn pentref bach yn Sir Benfro wedi cael ei basio gan bwyllgor cynllunio'r sir, er gwaethaf pryderon y gymuned leol.

Roedd trigolion Eglwyswrw wedi cwyno bod diffyg ymgynghori ynglŷn â'r datblygiad newydd gan Gymdeithas Tai Wales and West.

Bydd y safle newydd yn cynnwys pedwar fflat un ystafell wely, tri byngalo un ystafell wely, chwe thŷ dwy ystafell wely, chwe byngalo dwy ystafell wely a phedwar tŷ tair ystafell wely a fydd yn cael eu rhentu i'r gymdeithas dai.

Mae'r datblygiad wedi cael caniatâd i gael ei adeiladu y drws nesaf i Ysgol Gynradd Eglwyswrw, ger Heol yr Eglwys ar y B4332.

Effaith ar y Gymraeg

Codwyd pryderon hefyd am yr effaith ar y Gymraeg, mewn pentref sydd â'r gymuned Gymraeg uchaf yn Sir Benfro, lle mae 63% o bobol yn siarad yr iaith.

Fe wnaeth pobl leol gyfeirio hefyd at ddiffyg cyfleusterau yn y pentref i gynnal tai newydd, gyda'r siop agosaf hanner milltir i ffwrdd ar ffordd brysur heb balmant.

Yn ôl Cymdeithas Tai Wales and West roedd angen mawr am dai fforddiadwy yn yr ardal a byddai "datblygiad tai modern, deniadol" yn "gwella'r pentref."

Nodwyd hefyd fod asesiad o effaith y datblygiad ar y Gymraeg yn lleol mewn gwirionedd wedi dweud y byddai'n cael effaith gadarnhaol.

Pynciau cysylltiedig