Galw ar gymdeithas dai i ailystyried datblygiad Eglwyswrw
- Cyhoeddwyd
Mae yna bwysau cynyddol ar Gymdeithas Tai Wales and West i ailystyried cynlluniau dadleuol i godi 23 o gartrefi newydd fydd yn cael eu gosod ar rent ym mhentref Eglwyswrw yn Sir Benfro.
Yn ystod cyfnod clo coronafeirws, mae'r gymdeithas wedi cynnal ymgynghoriad sydd erbyn hyn wedi cau, ond doedd hi ddim yn bosib i gynnal cyfarfod cyhoeddus oherwydd cyfyngiadau Covid-19.
Bwriad Tai Wales and West yw codi pedwar o fflatiau ag un ystafell wely, tri byngalo ag un ystafell wely, chwech o dai gyda dwy ystafell wely, chwe byngalo gyda dwy ystafell wely, a phedwar o dai gyda thair ystafell wely.
Y bwriad yw eu hadeiladu ger Ysgol Gynradd Eglwyswrw, wrth Heol yr Eglwys, a'u gosod ar rent dan reolaeth Tai Wales and West.
Mae nifer ym mhentref Eglwyswrw yn bryderus nad oes digon o fewnbwn lleol wedi bod i'r cynlluniau. Sarah-Jane Absalom yw Is-gadeirydd Cyngor Cymuned Eglwyswrw:
"Mae'r datblygiad yn uwch na'r oedd yr LDP [y Cynllun Datblygu Unedol] yn amlinellu," meddai. "Mae'r nifer wedi codi o 17 annedd i 23.
"Y prif bryder yw'r ffaith fod y datblygiad ddim yn un safon cymysg. Does dim plotiau rhan berchnogaeth a dim plotiau i'w prynu.
"Yn Eglwyswrw, mae lot o bobl ifanc eisiau aros yn y pentref. Mae lot o deuluoedd eisiau aros yn eu pentref nhw. Does dim llawer o gefnogaeth i'w helpu nhw."
Ychwanegodd: "Mae'n bwysig i weld datblygiad ond mae'n rhaid sicrhau fod pwyllgor gwaith i weithio yn agos iawn gyda'r gymdeithas tai neu pwy bynnag i sicrhau fod pobl leol yn cael y sylw maen nhw'n haeddu."
Mae'r Cynghorydd Cris Tomos, y cynghorydd sir dros yr ardal, yn derbyn bod yna alw am dai fforddiadwy, ond maen galw am fwy o fewnbwn lleol.
"Dwi wedi cael nifer o bobl yn cysylltu yn pryderu mai tai cymdeithasol fydd rhain, ac yn bendant, dyw pobl leol ddim yn credu bod yna alw," meddai. "Mae angen tai fforddiadwy a phlotiau i bobl ifanc yn eu hardal, ond dyw'r cais fel y mae ddim yn briodol.
"Mae pobl am weld newid yn y ffordd mae cynllunio yn gweithio, ble mae pobl gyda mwy o ddweud.
"Rwy'n rhoi cymorth i'r gymuned i greu ymddiriedolaeth tai fel y gall pobl lleol ddylanwadu. Mae yna wahaniaeth rhwng tai fforddiadwy a thai cymdeithasol, ble maen nhw'n dod â phobl mewn o'r tu allan.
"Mae'n rhaid edrych ar ffordd arall. Mae cael ymddiriedolaeth tai yn golygu mai pobl leol sydd yn penderfynu pwy sydd yn dod mewn i'r tai newydd."
Eglwyswrw - yn ôl ystadegau cyfrifiad 2011 - yw cymuned Gymreiciaf Sir Benfro. Roedd 63% yn siarad Cymraeg yn ôl y cyfrifiad diwethaf.
Dywedodd Bethan Williams, aelod lleol o Gymdeithas yr Iaith: "Mae'r cais rhag gynllunio yn mynd i dipyn o fanylder am ba fath o ddeunyddiau sydd eu hangen i gadw at gymeriad yr ardal ond dim sôn am TAN 20 sydd yn ymwneud â'r Gymraeg.
"Ni'n un o'r cymunedau Cymreiciaf yn Sir Benfro. Ni'n sôn fan hyn am 50 o bobl ychwanegol, does yna ddim sicrwydd mai pobl leol fyddan nhw.
"Mae cymhathu 50 o bobl i bentref Cymraeg yn mynd i fod yn anodd iawn. Ni wedi methu cynnal cyfarfod cyhoeddus a holi cwestiynau."
Adolygiad
Erbyn hyn, mae Cymdeithas Tai Wales and West wedi cadarnhau mewn datganiad y byddan nhw'n gorfod 'cynnal adolygiad o'r broses ymgynghori rhag gynllunio' yn Eglwyswrw oherwydd 'newidiadau deddfwriaethol brys' gafodd eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â'r argyfwng Covid19.
Fe fydd proses ymgynghori newydd yn gorfod cael ei chynnal felly.
Mae Sarah-Jane Absalom yn croesawu'r oedi.
"Newyddion da, newyddion arbennig dda," meddai. "Pan gyrhaeddodd y cynlluniau ar ddechrau mis Ebrill, roedd e tamed bach yn sneaky roeddwn i yn meddwl.
"Mae'n gyfle i ni drafod y mater yn fwy manwl, dwi'n meddwl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2014
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2016