Morlyn Mostyn yn hollti barn yn y gogledd-ddwyrain

  • Cyhoeddwyd
Morlyn MostynFfynhonnell y llun, Porthladd Mostyn
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad artist o stu y byddai'r lagŵn yn edrych pe bai'n cael ei wireddu

Fyddai adeiladu morlyn llanw cyntaf Cymru ar hyd rhan o aber Afon Dyfrdwy yn Sir y Fflint yn gam allweddol tuag at ddyfodol mwy "gwyrdd" wrth iddo gynhyrchu ynni trwy ffynonellau dibynadwy ac adnewyddadwy?

Neu a fyddai'n drychineb amgylcheddol allai arwain at ddinistrio gwarchodfa natur sy'n gartref i nifer o rywogaethau o adar?

Wel, mae'n dibynnu gyda phwy ydych chi'n trafod y syniad.

'Ynni gogledd Cymru'

I'r rheiny sy'n cefnogi'r cynigion am y lagŵn llanw gwerth £600m, aber Afon Dyfrdwy ydy'r lleoliad perffaith ar gyfer cynhyrchu digon o drydan i tua 82,000 o gartrefi.

Y syniad yw adeiladu wal 6.7 cilometr o hyd er mwyn creu'r morlyn, fyddai bron i filltir o'r arfordir rhwng Porthladd Mostyn a goleudy Y Parlwr Du.

Byddai tyrbinau'n cael eu hadeiladu yn y wal o dan y dŵr, gyda'r llanw yn cynhyrchu 300 awr gigawat o drydan bob blwyddyn. Gobaith y datblygwyr yw y bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn 2027.

"Fe fydd ar ein stepen drws yng ngogledd Cymru - ynni gogledd Cymru fyddai hwn," meddai Jim O'Toole, rheolwr-gyfarwyddwr Porthladd Mostyn a'i is-gwmni Mostyn SeaPower, sydd y tu ôl i'r cynllun.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jim O'Toole y byddai'r lagŵn hefyd yn amddiffynfa ychwanegol yn erbyn llifogydd yn yr ardal

Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud fod aber Afon Dyfrdwy yn lleoliad sy'n rhy bwysig i fywyd gwyllt ar gyfer prosiect o'r fath, gydag ystod eang o adar, pysgod a mamaliaid yn ffynnu yno.

"Mae aber Afon Dyfrdwy yn un o'r safleoedd mwyaf gwarchodedig yn y byd," meddai Adrian Lloyd Jones o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru - un o nifer o sefydliadau sy'n rhan o Grŵp Cadwraeth Aber Afon Dyfrdwy.

"Mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae'n Ardal Gadwraeth Arbennig - y lefel uchaf o ran gwarchod lleoliadau yn Ewrop." meddai.

"Mae hefyd yn Ardal Warchodedig Arbennig, dan y Cyfarwyddyd Adar ac yn Safle Ramsar - dynodiad rhyngwladol ar gyfer gwlyptiroedd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adrian Lloyd Jones y byddai'n anodd rhagweld effeithiau "rhoi rhywbeth mor fawr mewn cynefin mor ddeinamig"

Mae Mostyn SeaPower nawr ar fin cwblhau'r gwaith ar ddyluniad a chostau'r cynllun, fyddai, medden nhw, yn creu 300 o swyddi adeiladu a 35 swydd yn ystod y 100 mlynedd y byddai'n weithredol.

Ond mae'r cwmni hefyd yn pwysleisio eu bod wedi trafod gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o'r dechrau, ac maen nhw wrthi'n cynnal ail adolygiad ecolegol o'r safle ar hyn o bryd.

"Mae'n iawn fod CNC yn gofyn i ni wneud y pethau hyn, ac ry'n ni'n credu, o'r hyn ry'n ni'n gwybod eisoes, na fydd effaith sylweddol ar fywyd gwyllt," meddai Mr O'Toole.

Ychwanegodd hefyd y byddai'r lagŵn yn amddiffynfa ychwanegol yn erbyn llifogydd yn yr ardal.

'Pryderon mawr'

Ond dydy Mr Jones ddim wedi'i argyhoeddi y gall astudiaethau amgylcheddol asesu'r effaith y byddai cynllun mor fawr yn ei gael ar fywyd gwyllt.

"Mae gennym bryderon mawr am y datblygiad - bydd rhoi rhywbeth mor fawr mewn cynefin mor ddeinamig yn cael effeithiau fydd yn anodd iawn i'w rhagweld," meddai.

Ffynhonnell y llun, Mat Fascione | Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Y syniad yw adeiladu wal 6.7 cilometr o hyd bron i filltir o'r arfordir rhwng Porthladd Mostyn a goleudy'r Parlwr Du

Does dim dadlau fod angen canfod mwy o ffyrdd o greu ynni adnewyddadwy, a phe bai'r cynllun yn mynd yn ei flaen fe allai fod yn hwb mawr i economi'r gogledd, yn ôl Dr Edward Thomas Jones, darlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Bangor.

Ychwanegodd y byddai hefyd yn rhoi "sicrwydd ynni" i'r ardal, sydd wedi profi'n bwysig yn sgil y galw am ynni oherwydd y sancsiynau ar Rwsia ar hyn o bryd.

"Hefyd, y math o ynni sy'n cael ei greu - mae'n ffynhonnell adnewyddadwy, a bydd hynny'n ddeniadol iawn i lawer o gwmnïau, fyddai efallai eisiau sefydlu eu hunain yng ngogledd Cymru i wneud defnydd o'r ynni hynny," meddai.

'Llefydd gwell nac aber Afon Dyfrdwy'

Er yn cydnabod fod angen cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy, dydy Adrian Lloyd Jones ddim yn credu mai'r cynllun yma yw'r ateb.

"Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod gennym ni'r datblygiad cywir yn y lle cywir, ac rwy'n credu fod llefydd gwell i wneud datblygiad fel hwn nac ar aber Afon Dyfrdwy," meddai.

Mae'r datblygwyr yn gobeithio cwblhau'r adroddiadau amgylcheddol erbyn diwedd y flwyddyn, ac felly'n bwriadu cyflwyno'r cais cynllunio ffurfiol y flwyddyn nesaf.

"Gyda'r ffordd y mae'r byd ar y funud, gyda thrydan ac ynni adnewyddadwy, rwy'n credu mai nawr yw'r amser," meddai Jim O'Toole.

Pynciau cysylltiedig