Dadorchuddio cerflun yr awdures o'r cymoedd, Elaine Morgan

  • Cyhoeddwyd
Elaine Morgan

Mae cerflun o awdures o'r cymoedd fu'n arloesi ym myd teledu ac ym maes gwyddoniaeth wedi ei ddadorchuddio ddydd Gwener.

Y cerflun efydd o Elaine Morgan yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, yw'r ail o bum cerflun o fenywod go iawn yng Nghymru sy'n rhan o ymgyrch y Grŵp Monumental Welsh Women.

Cafodd y cyntaf - o Betty Campbell - ei ddadorchuddio ynghanol Caerdydd fis Medi 2021.

Daeth Elaine Morgan i amlygrwydd fel awdures, gan sgriptio rhaglenni ar y teledu fel 'How Green Was My Valley' a 'The Life and Times of David Lloyd George'.

Bu hefyd yn cyfrannu penodau i'r gyfres boblogaidd 'Dr Finlay's Casebook' yn y 60au.

Ffynhonnell y llun, Gareth Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Elaine Morgan wobr arbennig gan Bafta Cymru yn 2002

Mae wedi'i disgrifio fel yr awdur mwyaf pwysig o Gymru yn y byd teledu yn yr 20fed ganrif.

Roedd hi hefyd yn awdur sawl cyfrol ddylanwadol ym maes gwyddoniaeth, gan gynnwys 'The Descent of Woman' oedd yn cynnig damcaniaeth newydd o esblygiad dynol.

Roedd hi'n dadlau y dylai'r drafodaeth ystyried lle menywod yn ogystal â'r ddelwedd draddodiadol o'r heliwr gwrywaidd.

Ymhlith ei chyfrolau eraill roedd 'The Aquatic Ape Hypothesis' a 'The Naked Darwinist'.

Disgrifiad,

Emma Price gomisiynodd yr artist Emma Rogers i greu'r cerflun er cof am Elaine Morgan.

Cafodd ei geni yn Nhrehopcyn ger Pontypridd ym 1920. Enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Rhydychen, ac ar ôl cyrraedd yno, bu'n sôn sut yr oedd pobl yn tybio mai gwneud cais am swydd glanhawraig oedd hi yn hytrach nag yn fyfyriwr, oherwydd ei hacen o gymoedd y de.

Bu'n ysgrifennu am flynyddoedd lawer, gan gyfrannu colofn reolaidd i bapur y Western Mail dan y teitl 'The Pensioner' tan ei bod hi yn ei 90au.

Pan oedd yn 89 oed fe gyflwynodd sgwrs am ei theori esblygiadol yn y gyfres 'Ted Talk', gafodd ei gwylio gan dros filiwn o bobl ar y we.

Fe fu'n byw am flynyddoedd lawer yn Aberpennar, gan gyfrannu at ymgyrchoedd CND yn lleol, ac yn dadlau dros addysg Gymraeg yng Nghwm Cynon. Bu farw yn 2013, yn 92 oed.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Derbyniodd ryddfraint gan Gyngor Rhondda Cynon Taf yn 2013 mewn seremoni arbennig

Dywedodd Gareth Morgan, mab Elaine Morgan, y byddai'n "falch iawn o ymgyrch cerfluniau i Gewri Benywaidd Cymru".

"Byddai hi wrth ei bodd yn dathlu'r holl fenywod rhagorol o Gymru," dywedodd.

"Yn 2013 es i gyda hi i seremoni ble derbyniodd hi Ryddfraint gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

"Roedd derbyn yr anrhydedd yma a'i chariad at ei mamwlad yn fwy pwysig iddi na'r holl wobrau rhyngwladol y derbyniodd hi, felly diolch yn fawr i bawb sydd wedi gweithio'n galed er mwyn sicrhau llwyddiant yr ymgyrch yma."

-

Ar ôl gweld y cerflun, ychwanegodd Mr Morgan: "Mae'n rhywbeth gwych yn fy llygaid i... dydw i ddim wedi erioed gweld dim byd tebyg iddo.

"Roedd Aberpennar yn golygu lot iddi hi, oedd ganddi hi gyfle i symud i Lundain nifer o weithiau, ond doedd hi ddim am adael y cwm, gadael Aberpennar, gadael de Cymru - dyma lle oedd ei bywyd hi, roedd hi'n hapus iawn yma."

Roedd y darlledwr Roy Noble yn ei hadnabod, a bu'n siarad yn ei hangladd.

"Odd hi'n fenyw unigryw… odd hi'n anhygoel a dweud y gwir," meddai.

"O'n i'n dod 'mlaen yn net gyda'i achos o'dd hi'n ddwfn yn y cymoedd."

Ffynhonnell y llun, Monumental Welsh Women
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Emma Rogers ei dewis o restr fer o gerflunwyr benywaidd

Mae'r cerflun wedi'i osod y tu fas i ganolfan feddygol newydd Tŷ Calon Lân, ac mae wedi'i chynllunio gan y cerflunydd Emma Rogers - gafodd ei dewis o restr fer o gerflunwyr benywaidd rhyngwladol.

Mae ei gweithiau eraill yn cynnwys cerflun o Cilla Black yn Lerpwl.

Dywedodd Emma Rogers mai ei nod oedd i gwmpasu gyrfa Elaine Morgan trwy gyfrwng y cerflun,

"Yn amlwg roedd hi'n enwog am ei theorïau ynglŷn â'r epa dyfrol, felly mae 'na elfennau yn ymwneud a'r môr ac anifeiliaid.

"Dwi eisiau i bobl ddarganfod pethau yn y cerflun... po fwya' ych chi'n edrych, po fwyaf ych chi'n ei weld..

Mae na eiriau ynddo, mae na sgriptiau enwog ganddi... dwi wedi ceisio dod o hyd i ffordd i gynnwys yr holl elfennau - yn amlwg fyddai ddim yn gallu cynnwys ei gyrfa gyfan, ond gobeithio bydd y teulu, a phobl Cymru yn hapus gyda'r hyn dwi wedi'i greu."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cerflun Betty Campbell ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd y llynedd

Yn ogystal â cherfluniau Betty Campbell ac Elaine Morgan, bwriad ymgyrch Monumental Welsh Women yw codi cofebau i dair menyw amlwg arall, gyda'r nesa i'w dadorchuddio yn cofnodi cyfraniad Sarah Jane Rees neu Cranogwen yn Llangrannog, Ceredigion.

Mae'r gwaith o godi arian ar gyfer y cerflun hwnnw bellach wedi cyrraedd y nod, meddai Carys Ifan sy'n rhan o dim cerflun cymunedol Cranogwen

"Ni wedi medru comisiynnu Seb Boyson i neud y cerflun yma i ni," dywedodd.

"Mae Seb yn byw yn Llangrannog, a buon ni'n trafod gyda'r Athro Jane Aaron, sydd wrthi'n ysgrifennu bywgraffiad i Cranogwen, a n'ath hi ddweud byse Cranogwen yn falch i weld rhywun sy'n byw yn y pentre, sy'n adnabod gorwel Llangrannog yn creu hwnna.

"O'dd dim ots ble o'dd Cranogwen yn mynd, odd hi wastad yn dod nôl i fan hyn."

Dywedodd sylfaenydd grŵp Monumental Welsh Women, Helen Molyneux, eu bod nhw wrth eu bodd â'r ymateb i'w hymgyrch.

"Dwi'n credu pan ddechreuon ni'r prosiect, roedden ni'n anelu am gael un cerflun, ond mae'r ymateb wedi bod anhygoel - mae pobl wir yn gwerthfawrogi dysgu hanes y menywod hyn, ac yn falch bod eu cyfraniadau yn cael eu nodi a'u dathlu.

"Dwi'n gobeithio bydden nhw'n ysbrydoli eraill - os ydy merched yn Aberpennar yn cerdded heibio cerflun Elaine Morgan, gobeithio bydden nhw'n ei weld e ac yn meddwl 'fe gyflawnodd hi gymaint'.. a bydd yn ysbrydoliaeth iddyn nhw."

Bwriad Monumental Welsh Women yw codi pum cerflun o bum menyw dros gyfnod o bum mlynedd, gyda Cranogwen yn 2023; Arglwyddes Rhondda yn 2024 ac Elizabeth Andrews yn 2025.

Pynciau cysylltiedig