Dadorchuddio cerflun i brifathrawes ddu gynta' Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cerflun i gofio'r brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru wedi cael ei ddadorchuddio ynghanol Caerdydd ddydd Mercher.
Cafodd enw Betty Campbell ei ddewis yn dilyn pleidlais gyhoeddus ddwy flynedd yn ôl.
Bydd gwaith y cerflunydd o Sheffield, Eve Shepherd, nawr yn sefyll yn Sgwâr Canolog y brifddinas.
Roedd Betty Campbell wedi'i geni a'i magu yn ardal y dociau, ac fe arhosodd yn Nhrebiwt trwy gydol ei hoes.
Goresgyn heriau
Roedd wedi rhoi ei bryd ar fod yn athrawes, er gwaethaf rhybudd gafodd hi tra roedd hi'n ddisgybl 15 oed y dylai anghofio'r freuddwyd honno.
Dywedodd i'r sylwadau ei brifo, oherwydd ei bod hi'n sylweddoli mai'r hyn oedd ei phrifathrawes yn ei ddweud mewn gwirionedd oedd nad oedd disgwyl i ferch ddu fynd yn bell ym maes dysgu.
Ond fe lwyddodd gyrfa Betty Campbell - a fu farw yn 2017 yn 82 oed - i fynd ymhell - er iddi aros yn ei milltir sgwâr.
Ar ôl cyfnod yn dysgu yn Nhredelerch, fe ddychwelodd i ardal y dociau a dod yn athrawes, ac yna'n brifathrawes, ei hysgol leol - Ysgol Gynradd Mount Stuart.
Yn ystod ei chyfnod yno, bu'n hyrwyddo treftadaeth amlddiwylliannol Cymru, gan fynnu'r gorau i'r disgyblion.
"O'dd popeth rownd y ffaith fod y plant yma gystal ag unrhyw blentyn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, a gallen nhw 'neud yn dda dim ond iddyn nhw weithio'n galed," meddai Yvonne Scott, fu'n gweithio yn yr ysgol gyda Betty Campbell am 15 mlynedd.
Yn ogystal â'i gwaith ym myd addysg, bu Betty Campbell yn aelod o'r bwrdd cysylltiadau hil rhwng 1972 a 1976, yn aelod o Gyngor Darlledu Cymru ar ddechrau'r 1980au, ac yn aelod o bwyllgor cynghori'r Swyddfa Gartref ar hil.
Yn ôl Yvonne Scott, roedd gweithio gyda hi yn yr ysgol yn gyffrous.
"O'ch chi byth yn gwybod yn iawn beth oedd yn mynd i ddigwydd nesa' neu pwy oedd yn mynd i droi lan yn yr ysgol," meddai.
"O'ch chi'n mynd mewn a phopeth wedi sorto mas gyda chi, a bydde hi'n dweud yn sydyn 'O mae Neil Kinnock 'ma heddiw', neu 'allwch chi fynd ar y bws rownd y Bae, mae Harry Secombe yn dod, so ni'n mynd i fod fel y backdrop.
"Gaethon ni'r Tywysog Charles i'r ysgol, daeth Y Frenhines.... o'ch chi byth yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd!"
Cafodd pleidlais gyhoeddus ei chynnal yn 2019 i ddewis pa fenyw ddylai gael ei hanfarwoli gan gerflun yn y brifddinas.
Cafodd yr ymgyrch ei threfnu gan grŵp o'r enw Merched Mawreddog Cymru (Monumental Welsh Women) a'i darlledu gan BBC Cymru.
Betty Campbell ddaeth i'r brig o restr fer o bump.
"Mae rhai pobl yn sôn am Black Lives Matter," meddai'r Athro Laura McAllister o'r ymgyrch.
"Ond mae'n rhaid cofio bod y gystadleuaeth wedi digwydd cyn hynny, felly mae'n dangos rhywbeth pwysig i ni - bod pobl yng Nghymru yn gwerthfawrogi ein hanes amrywiol ni.
"Nid jyst hanes dynion - neu hanes dynion gwyn - yw hanes Cymru, ond hanes pobl sy'n dod o gefndiroedd fel Betty Campbell."
Gobaith ymgyrch Merched Mawreddog Cymru yw y bydd y pedair menyw arall oedd ar restr fer y bleidlais ddwy flynedd yn ôl hefyd yn cael eu cofio gyda cherfluniau.
Eu nod yw codi pum cerflun o bump menyw Gymreig mewn pum mlynedd.
Yr enwau eraill ar y rhestr fer oedd Cranogwen, Elizabeth Andrews, Elaine Morgan ac Arglwyddes Rhondda.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2019