Bwydydd cynhenid coll Cymru

  • Cyhoeddwyd

Ydych chi erioed wedi bwyta 'llymru'? Beth am 'fara ceirch'? Efallai fod y termau yma'n ddiarth i ni bobl yr unfed ganrif ar hugain, ond dyma oedd rhai o'r bwydydd yr oedd ein cyn neiniau a teidiau yn bwyta.

Bu'r hanesydd bwyd Carwyn Graves yn siarad gydag Aled Hughes ar BBC Radio Cymru am hanes rhai o'r bwydydd traddodiadol Cymreig sydd yn anghofedig erbyn hyn.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin Cymru
Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bara ceirch yn cael ei baratoi gan Mrs Catrin Evans o Llanuwchllyn yn y 1970au.

Bara ceirch

Rydyn ni'n meddwl erbyn hyn am geirch fel rhywbeth Albanaidd ond mae'r traddodiad o ddefnyddio ceirch lawn gryfach yma yng Nghymru ag yw e yn yr Alban neu yn yr Iwerddon. Ac nid yn unig uwd, sydd wrth gwrs yn hollol gynhenid Gymreig, ond amrywiaeth mawr o bethau eraill gydag enwau fel 'sucan' a 'siot' a 'llith'.

'Swn i'n dweud 'bara ceirch', byddech yn meddwl 'ai torth wedi'i wneud gyda ceirch yw hwn?' Wel, nage, be' fyddech chi'n galw'n Saesneg yn oat-cakes.

Tafellau tenau yn edrych yn debycach i fisged, dyna oedd bara ceirch. Roedd pobl yn defnyddio bara ceirch fel bydden ni'n defnyddio tafell ac yn taenu menyn ar ei ben, 'falle caws, 'falle cocos.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cocos

Cocos

Mae'r traddodiad cocos yn dal i fod yn fyw. Mae'r traddodiad yn ardal Aber Llwchwr, Llangennech yn mynd yn ôl i oes y Rhufeiniad. Does dim amheuaeth am hynny.

Yr hyn sy'n nodweddiadol yw bo' nhw'n dal i gynhaeafu gyda llaw hyd heddiw. Mae hynny'n ffordd gynaliadwy dros ben o gynhaeafu ac mae hynny wedi cael ei adnabod yn y blynyddoedd diwethaf 'ma.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Merched yn hel cocos ym Mhenclawdd, 1906

Mae 'na dunelli a thunelli o gocos yn cael eu cynhaeafu yna'n flynyddol. Ewch chi nôl dim ond rhai degawdau mi oedd faniau yn cael eu gyrru allan ar draws de Cymru i werthu cocos lan a lawr y stryd bob wythnos.

Erbyn hyn mae hynny wedi dod i ben. Mae pobl yn dal i fwyta cocos yng Nghymru ond dim rhyw lawer a dim ond y to hŷn ar y cyfan.

Ond mae'r cocos yn dal yn cael eu gyrru i Sbaen. Mae'r Sbaenwyr yn eu gwerthfawrogi nhw! Maen nhw'n gwybod bod nhw'n fwyd maethlon, llawn protein sy'n gallu rhoi blas i sawl saig wahanol.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd yn cael ei adnabod fel 'Cockle Town' diolch i'r traddodiad o hel cocos ar yr aber oedd yn bodoli hyd at y ganrif diwethaf.

Mae cocos ar gael mewn sawl Aber arall ar draws Cymru. 'Lan yn ardal Eifionydd hyd at ganol yr 20fed ganrif roedd menywod y pentrefi yn mynd o gwmpas o ddrws i ddrws gyda bara ceirch ac yn ffrio cocos ac wyau a rhoi'r rheiny wedyn rhwng y ddwy dafell.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Pen mochyn yn cael ei ferwi yn Abercywarth, Sir Feirionydd.

Pen mochyn

Bydden ni'n clywed sôn am rywbeth fel pen mochyn a bydda' pobl yn chwerthin 'O, ych a fi', ac yn meddwl taw bwyd y tlodion oedd e.

Ond rydyn ni'n gwybod fel ffaith bod pen mochyn, yn ôl rhyw rysáit draddodiadol o Eifionydd, yn ffefryn gyda Lloyd George! Ac wrth gwrs mi oedd Lloyd George yn gallu dewis be' bynnag oedd e eisiau i fwyta.

Mae hwnna yn gwneud i ni orfod stopio a meddwl falle bod rhai o'r bwydydd hyn wedi diflannu nid yn gymaint am fod nhw yn ofnadwy, ond yn fwy i wneud gyda ffasiwn mewn gwirionedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd David Lloyd George wrth ei fodd yn bwyta pen mochyn yn ôl y sôn

Sut oedd e'n cael ei baratoi?

Roedd rhaid glanhau'r peth yn gyntaf wrth gwrs. Wedyn oedden nhw'n berwi'r pen gyda mês, clofsen, halen a phupur a pherlysiau am ryw ddwy awr. Yna'n cymryd allan y tafod a phethau fel'na ac wedyn yn cerfio'r cig.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan BBC Cymru Fyw

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan BBC Cymru Fyw
Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Powlen o llymru wedi setio

Llymru

Beth yw llymru? Chi'n rhoi ceirch i sefyll mewn dŵr, ac wedyn bydd y dŵr wrth gwrs yn mynd yn llwydaidd. Os chi'n gadael e i sefyll am nifer o oriau, mi fydd e'n dechrau eplesu.

Chi wedyn yn rhoi hwnnw trwy'r gogor neu rhidyll ac yn berwi'r hylif sy'n mynd trwyddo. Mae gyda chi rhywbeth ar y diwedd sy'n damaid bach yn debyg i semolina.

Bydd rhai pobl yn meddwl 'wel dyna pam ddiflannodd y peth!' ond mae e'n llawn o facteria maethlon i'n corff ni achos bod e wedi eplesu fel keffir neu iogwrt. Roedd yr hen Gymry'n gwybod hyn. Mi oedden nhw'n rhoi llymru i bobl oedd yn teimlo bach yn sâl achos bo nhw'n gwybod, heb wybod y wyddoniaeth, bod e'n fwyd iachusol.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r dywediadau oedd yn bodoli ar lafar

Roedd e ychydig bach fel marmite y Cymry! Roedd llawer o bobl yn casáu llymru achos bod e ddim yn eich llenwi chi. Ond roedd llawer o bobl wrth eu bodd gyda llymru achos mi oedd e'n draddodiad i'w weini yn yr haf adeg y cynhaeaf felly mi oedd 'na gysylltiad o bobl yn cofio cael y llymru ar noswaith braf o Awst.

Roedd Morrisaid Môn yn sôn am y llymru ac yn sôn fel oedd rhai pobl wrth eu bodd ac eraill yn casáu'r peth. Mae 'na draddodiad a diwylliant yn perthyn i'r seigiau ac i'r bwydydd hyn.

'Dyfeisgar'

Mae hyn i gyd yn dangos fod ein hynafiaid ni yn hanesyddol yn ddyfeisgar. Eu bod nhw'n defnyddio'r cynhwysion oedd ar gael iddyn nhw, gan gynnwys pethau oedd yn tyfu'n wyllt.

Mi oedd llawer ohonyn nhw yn dlawd ond mi oedden nhw eisiau bwyta pethau oedd yn ddiddorol ac yn flasus. Ac i raddau helaeth dwi'n meddwl bod e'n deg i ddweud bo' nhw wedi llwyddo.

Mi fydd llyfr newydd Carwyn, Welsh Food Stories, yn cael ei gyhoeddi gan Wasg y Brifysgol ym Mis Mai.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig