Anelu am gydnabyddiaeth ryngwladol i'r genhinen Gymreig

  • Cyhoeddwyd
Cennin Cymreig
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond cynhyrchwyr cennin wedi'i tyfu yng Nghymru fyddai â'r hawl i'w galw yn gennin Cymreig

'Gwisg genhinen yn dy gap a gwisg hi yn dy galon,' ys dywed yr hen ddywediad.

Mae gobaith y gallai cennin sydd wedi'u tyfu yng Nghymru fwynhau'r un dynodiad â'r Pastai Cernyweg a Halen Môn yn fuan.

Byddai Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig yn golygu mai ond cynhyrchwyr cennin wedi'u tyfu yng Nghymru fyddai â'r hawl i'w galw yn gennin Cymreig.

Os yn llwyddiannus, byddai'n dilyn yr un trywydd â chig oen ac eidion Cymreig, sydd eisoes wedi'u gwarchod.

'Cyfle da iawn'

Ffynhonnell y llun, PUFFINPRODUCE
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y ffermwr John Addams-Williams bod yna flas ac ymddangosiad unigryw i gennin Cymru

Cwmni Puffin Produce o Sir Benfro sydd yn cyflwyno'r cais am PGI, neu Ddynodiad Daearyddol Gwarchodedig.

Dywedodd John Addams-Williams o'r cwmni ei fod yn "gyfle da iawn i gael mwy o gennin yn cael eu tyfu a'u gwerthu yng Nghymru.

"Mae cennin yn emblem genedlaethol sydd angen cael ei warchod.

"Mae na lawer o gynhyrchwyr bach yng Nghymru ond mae'n biti nad ydy o'n ddiwydiant mawr."

Ffynhonnell y llun, Carwyn Graves
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Graves yn hanesydd bwyd ac yn dweud bod cennin wastad wedi bod yn ddelwedd bwysig i'r Cymry

Mae cysylltiad y genhinen efo Cymru yn mynd yn ôl cannoedd o flynyddoedd medd yr hanesydd bwyd, Carwyn Graves.

"Mae na sôn am frwydr o bosib rhwng brenin Gwynedd Cadwaladr ab Cadwallon yn ymladd yn erbyn y Sacsoniad felly de ni'n mynd yn ôl yn awr rhyw fil a hanner o flynyddoedd," meddai.

"Unai ar gae cennin, a mae hynny yn ymddangos yn annhebygol, neu bod 'na rai o'r ochr Gymreig yn gwisgo cennin rhywle arnyn nhw fel de ni'n defnyddio baner heddiw mewn rhyfel i ddangos pa ochor o'r frwydr roedden nhw'n ymladd drosti."

Mae statws PGI yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i werth cynnyrch yn ôl Gareth Jones, rheolwr fferm stad Y Rhug ger Corwen.

Disgrifiad o’r llun,

All PGI wneud "gwahaniaeth mawr" yn ôl Gareth Jones

Mae nhw'n gwerthu bob math o gigoedd organig yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac yn arbennig felly eu cig oen Cymreig.

Dywedodd Gareth Jones: "Fe fydda ni yn allforio cig oen i wledydd fel Hong Kong, Singapore, Dubai ac yn y blaen a dwi'n meddwl fod o yn gwneud gwahaniaeth yn enwedig gwledydd fel Hong Kong er enghraifft…

"Mae label y ddraig goch arno fo wrth gwrs… ma' nhw'n hoffi mynd am gigoedd efo rhywbeth felly arno fo."

'Hwb i gynhyrchwyr'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed un undeb ffermio y gallai rhoi'r statws i gennin gael effaith ar gynhyrchion eraill o Gymru

Ac yn ôl Glyn Roberts, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, byddai sicrhau dynodiad arbennig i'r genhinen Gymreig yn hwb i'r cynnyrch a'r cynhyrchwyr, a bod y statws PGI i gig oen ac eidion Cymreig eisoes yn gweithio.

"Mewn statws bwyd mae o'n rhoi bwyd ni ar yr un statws â Champagne yn y byd gwin felly, a mae hynny yno'i hun yn gwneud llawer iawn o wahaniaeth," meddai.

"Mae'n bwysig rŵan, dydan ni ddim yn rhan o Ewrop fatha oedden ni, felly rydan ni rŵan yn masnachu yn fyd eang… y global market 'lly."

Disgrifiad o’r llun,

Glyn Roberts: "Bwysig gwneud bob peth fedrwn ni i hofran y Ddraig Goch a bwyd Cymreig cyn uched a medrwn ni."

Ychwanegodd Mr Roberts ei bod yn "bwysig bod ni'n gwneud bob peth fedrwn ni i hofran y Ddraig Goch a bwyd Cymreig cyn uched a medrwn ni".

Mae disgwyl penderfyniad a fydd y genhinen Gymreig yn sicrhau y statws arbennig dros y misoedd nesaf.

Pynciau cysylltiedig