Cannoedd yn mynychu rali wrth-hiliaeth yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Rali
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y rali yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Gwaredu ar Wahaniaethu Hiliol y Cenhedloedd Unedig.

Fe ddaeth cannoedd o bobl ynghyd mewn rali wrth-hiliaeth yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Roedd y rali yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Gwaredu ar Wahaniaethu Hiliol y Cenhedloedd Unedig.

Roedd nifer o siaradwyr yn annerch y dorf, gan gynnwys Nimi Trivedi o gorff Stand Up to Racism ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Dywedodd Ms Trivedi, un o drefnwyr y digwyddiad, mai'r nod yw "dangos ein bod ni'n unedig" yn erbyn hiliaeth.

'Diwrnod pwysig iawn'

Un fu'n mynychu oedd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, ddywedodd fod angen i Gymru fod yn "wrth-hiliol" ym mhob agwedd o fywyd.

"Mae'n ddiwrnod pwysig iawn," meddai.

"Ry'n ni yma heddiw am ein bod ni'n benderfynol yn Llywodraeth Cymru i sicrhau fod gennym gydraddoldeb o ran hil ledled Cymru.

"Ry'n ni wedi dysgu llawer dros y blynyddoedd diwethaf am yr anfanteision a'r gwahaniaethu sy'n aml yn effeithio ar ein cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price ei bod yn "amser i ni droi geiriau yn weithredoedd"

Ychwanegodd Mr Price yn ei araith fod polisïau yn "tanseilio" cymunedau o'r fath ar hyn o bryd.

"Ry'n ni'n gweld effeithiau hiliaeth systemig, strwythurol, ar draws ein cymdeithas - o'n system addysg i'n system iechyd, ac yn economaidd hefyd," meddai wrth BBC Cymru.

"Ry'n ni fel cymdeithas wedi dweud ein bod eisiau bod yn wlad wrth-hiliol yma yng Nghymru. Mae'n amser i ni droi'r geiriau yna'n weithredoedd."

Pynciau cysylltiedig