Dwy flynedd ers Covid: Beth yw'r ymateb ym Methesda?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Huw Davies
Disgrifiad o’r llun,

Nod mentrau cymdeithasol Bethesda bellach ydy helpu'r mwyaf difreintiedig a hybu ethos cymuned

Dwy flynedd union ers i'r pandemig daro Cymru ac mae cymunedau ar hyd a lled y wlad yn dal i frwydro'r sgil effeithiau.

Ond tra bod 'na heriau sylweddol eto i ddod, fe ddangosodd y pandemig gwerth cymuned a phwysigrwydd tynnu ynghyd.

Ym Methesda, Gwynedd, mae nifer o'r mentrau cymdeithasol a gafodd eu sefydlu mewn ymateb i'r pandemig yn dal i fodoli, gyda phwyslais bellach ar helpu y mwyaf difreintiedig a hybu ethos cymuned.

Yr her bellach ydy diogelu ac addasu'r mentrau hyn er mwyn helpu trigolion yr ardal wrth ymateb i bryderon fel tlodi a phrinder swyddi.

'Dangos pwysigrwydd cydweithio'

Nod menter gymdeithasol Partneriaeth Ogwen ydy cefnogi pobl ardal Dyffryn Ogwen.

Mae nifer o'r prosiectau sy'n cael eu cynnal wedi deillio o ymateb y bartneriaeth i'r pandemig, fel Pantri Pesda - cynllun dosbarthu bwyd am ddim - a Cadwyn Ogwen - cynllun sy'n pecynnu a dosbarthu cynnyrch lleol er mwyn hybu'r economi.

Ond tra bod cyfyngiadau'r pandemig i weld yn cilio, mae'r angen am brosiectau o'r fath yn bwysicach nac erioed.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae Covid wedi bod yn argyfwng ond mae 'na waeth i ddod dwi'n teimlo," medd Meleri Davies

Meleri Davies ydy prif swyddog Partneriaeth Ogwen, ac wrth helpu cael trefn ar becynnau cynnyrch lleol, bu'n sôn am bwysigrwydd y fenter dros y ddwy flynedd ddiwethaf a'r angen o hyd am gynlluniau tebyg.

"Mae'r holl brosiectau 'da ni'n gwneud yn gydweithredol a 'da ni'n edrych os oes 'na bryderon neu fylchau yn ein cymuned a 'da ni'n ystyried beth allwn ni wneud," meddai.

"Mae'r pandemig wedi dangos pwysigrwydd cydweithio ac y gwaith 'da ni fel partneriaeth, a mentrau eraill yn ein cymuned ni, 'da ni gyd wedi cyfrannu ac mae 'na ysbryd arbennig yn yr ardal 'ma."

'Tlodi yn ein cymuned ni'

Tra cafodd nifer o'r cynlluniau eu sefydlu mewn ymateb i'r pandemig, mae Ms Davies yn dweud bod egwyddor a nod y prosiectau dal i fod yn addas rŵan.

"Mae 'na heriau sylweddol ac mae gynno ni bryderon sylweddol efo'r codiadau mewn tariffau ynni - mi fydd 'na dlodi yn ein cymuned ni," meddai.

"Mae 'na dlodi'n barod ond mi fydd yr 'in work poverty' yn cynyddu ac mae'n rhaid i ni fel menter gymdeithasol wir ystyried sut allwn ni help mewn cyfnod o argyfwng.

"Mae Covid wedi bod yn argyfwng ond mae 'na waeth i ddod dwi'n teimlo."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pantri Pesda yn dosbarthu bwyd dros ben o archfarchnadoedd mewn ymdrech i leihau gwastraff

Mae Pantri Pesda yn agor y drysau bob nos Sul a nos Fawrth, gan ddosbarthu bwyd dros ben o archfarchnadoedd lleol.

Mae'n gymorth i drigolion sy'n gweld yr esgid yn gwasgu, ond hefyd yn gyfle i leihau gwastraff.

Yr wythnos ddiwethaf fe ddaeth dros 60 o bobl i gymryd mantais o'r cynllun, fu'n cael ei gynnal gan Huw Davies, cydlynydd cynllun Dyffryn Gwyrdd o Bartneriaeth Ogwen.

'Da o bob drwg'

"Mae yna dda o bob drwg medden nhw does - felly mae'r gymuned wedi dod at ei gilydd," meddai.

"Ma' pobl wedi gafael yn y syniad - a 'da ni yn lleihau faint o fwyd sy'n mynd yn wastraff ac yn cefnogi pobl ar yr un pryd.

"Mae'n gymorth sylweddol iawn i bobl. Yn y flwyddyn ddiwethaf 'da ni 'di cael 3,000 o ymweliadau, 'da ni 'di rhannu cannoedd o barseli bwyd a 'da ni wedi arbed naw tunnell o fwyd rhag mynd yn wastraff."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r gymuned wedi dod at ei gilydd," meddai Huw Davies

Mae'r cynllun yn dynfa i bobl leol ac yn tynnu pobl ynghyd, yn ôl rhai fu'n ymweld â'r Pantri.

Mae Cadwyn Ogwen yn rhoi'r cyfle i bobl leol archebu bwyd a chynnyrch lleol sydd wedyn yn cael ei ddosbarthu mewn pecynnau.

Mae'n hwb i'r economi leol ac i fusnesau bach fel Cosyn Cymru, sy'n creu caws o lefrith dafad ac wrthi'n trawsnewid hen eglwys yn siop newydd yn y pentre'.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carrie Rimes fod "gallu bod yn gynaliadwy yn lleol" yn bwysig

"'Da ni'n ffodus ofnadwy ym Methesda - mae yna sawl peth sy'n mynd ymlaen i helpu busnesau lleol i 'neud yn siŵr fod busnesau lleol yn medru helpu'r gymuned," medd Carrie Rimes, perchennog Cosyn Cymru.

"Dwi'n gweld bydd hyn yn rili bwysig i'r dyfodol.

"Ar hyn o bryd ma' yna wahaniaeth enfawr sy'n dod o'r ochr bwyd, ochr amgylchedd ac ochr egni, ac os 'da ni'n gallu bod yn gynaliadwy yn lleol, i fi'n bersonol dwi'n teimlo ei fod yn hynod o bwysig."

Mae'r pandemig wedi gosod bob math o heriau i gymunedau ar draws Cymru, ond wrth i'r cyfyngiadau ddiflannu mae mentrau fel Partneriaeth Ogwen yn dangos bod angen cymunedau am gefnogaeth a'r awydd i arloesi yn fawr o hyd.

Pynciau cysylltiedig