Y Cymro cyntaf gyda Syndrom Down i gwblhau Marathon Llundain

  • Cyhoeddwyd
Michael gyda'i dlws Dathlu DewrderFfynhonnell y llun, Michael Beynon
Disgrifiad o’r llun,

Michael gyda'i dlws Dathlu Dewrder

Bydd angen i Michael Beynon o'r Waun ger Wrecsam wneud lle i'w dlws Dathlu Dewrder a gyflwynwyd iddo ar raglen ar S4C gan fod ei gwpwrdd eisoes yn llawn o dlysau a medalau.

Llynedd, rhedodd Michael Beynon Farathon Llundain gan godi £10,000 i'r elusen Mencap. Michael yw'r Cymro cyntaf gyda Syndrom Down i gwblhau'r ras enwog.

Fel un a redodd y ras 26.2 milltir gyda Syndrom Down, Hypertonia mewn un goes a gyda dim ond 50% o'i olwg, mae Michael yn benderfynol o beidio gadael i dreialon bywyd ei rwystro.

I ddathlu ei gamp anhygoel fe wnaeth rhaglen Dathlu Dewrder, sy'n gwobrwyo arwyr tawel cymunedau Cymru, anrhydeddu Michael â thlws arbennig a negeseuon gan Paula Radcliffe a Mo Farah.

Ar Ddiwrnod Syndrom Down y Byd, Cymru Fyw fu'n sgwrsio gyda Michael a'i fam Erika Walker am ei holl lwyddiannau a'i agwedd benderfynol at chwalu rhagfarnau.

Ffynhonnell y llun, Michael Beynon/Erika Walker
Disgrifiad o’r llun,

Mab a'i fam; Michael ac Erika

Dathlu Dewrder

'Nôl yn Chwefror derbyniodd Michael y newyddion ei fod yn un o enillwyr gwobrau'r rhaglen Dathlu Dewrder eleni a ddarlledwyd nos Wener, 18 Mawrth.

Yng nghwmni ffrindiau a theulu ar drac rhedeg, cafodd sypréis wrth wylio y pencampwyr rhedeg pellter-hir Mo Farah a Paula Radcliffe yn ei longyfarch mewn negeseuon fideo.

"Roedd yn anhygoel a fe ges i sioc!" meddai Michael am y profiad o dderbyn negeseuon gan rai o'i arwyr ym myd athletau.

Ffynhonnell y llun, Michael Beynon
Disgrifiad o’r llun,

Mo Farah, enillydd medal aur yn y Gemau Olympaidd bedair gwaith yn llongyfarch Michael ar Dathlu Dewrder

Dywedodd Paula Radcliffe ei bod yn gobeithio cyfarfod Michael rhyw ddydd ac mae Michael yn edrych ymlaen at ei chroesawu i Wrecsam. Meddai Michael: "'Rydyn ni am drio gwahodd Paula i Special Olympic Games Wrecsam. Dwi'n edrych ymlaen at ei chyfarfod!"

Marathon Llundain

Dechreuodd Michael hyfforddi ar gyfer Marathon Llundain yn Rhagfyr 2019 ond yn sgil y pandemig bu'n rhaid iddo aros tan Hydref 2021 i allu rhedeg y ras.

Mae "penderfynol" yn ansoddair mae ei fam, Erika, yn ei ddefnyddio i ddisgrifio Michael yn aml ac roedd ei barodrwydd i hyfforddi am bron i ddwy flynedd nes gallu cyflawni'r her yn dyst i hyn.

Yn rhan o'r paratoi at y farathon fawr, cwblhaodd Michael Farathon Llundain ar ffurf rhithiol yn 2020 gan redeg y 26.2 milltir mewn dwy ran; o Rydaman (lle roeddent yn byw ar y pryd) i Frynaman ac yna ymlaen i'r Tymbl gan godi arian unwaith eto i'r elusen anableddau dysgu, Mencap.

Ffynhonnell y llun, Emma Evans
Disgrifiad o’r llun,

Michael yn dathlu cwblhau Marathon Llundain ar ffurf rhithiol yn 2020

Er i'r holl hyfforddi at Farathon Llundain 2021 dalu ffordd wrth i Michael gyflawni'r ras mewn wyth awr 20 munud yng nghwmni ei gariad Ffion, ei lys-dad Stephen, a'i gymhorthydd Miss Katie, roedd y ras yn heriol.

Meddai Michael: "Roedd yn anodd achos roedd yn hir. Fel arfer rwy'n gwneud sprints 100m a 200m. Roedd rhedeg 26.2 milltir sydd yn 105 gwaith o amgylch trac yn lot. Roedd yn lot fawr."

Ffynhonnell y llun, Michael Beynon
Disgrifiad o’r llun,

Stephen (llys-dad Michael), ei gariad Ffion, Miss Katie a Michael yn rhedeg Marathon Llundain, Hydref 2021

"Roedd yn braf cael pawb yno yn cefnogi. Roedd Miss Katie yn gwneud i ni gyd chwerthin, giglo a canu I'm Gonna Be (500 Miles) gan The Proclaimers wrth redeg."

Mae Michael hefyd wedi cynrychioli Cymru a Phrydain yn y Special Olympics gan ennill 60 o fedalau ar draws amryw o gystadlaethau gan gynnwys shotput, boccia, y naid hir, rhedeg 100m a 200m, a sgio.

Er ei fod yn hoffi pob math o chwaraeon ac yn fodlon rhoi cynnig ar unrhyw beth, mae Michael yn cyfaddef mai ei hoff weithgaredd yw chill out.

Ffynhonnell y llun, llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael wedi cystadlu ledled Ewrop yng ngemau'r Special Olympics

Busnes

Rhan fawr arall o fywyd Michael yw ei fusnes pobi a gwerthu pice-ar-y-maen, Coalpit.

Daeth y syniad am Coalpit 'nôl yn 2018 pan ddysgodd Michael mewn sgwrs gan gyn-löwyr am sut oedd glöwyr Rhydaman yn mynd â bwyd gyda nhw dan ddaear. Wrth feddwl sut y byddai ei dad-cu yn cario pice-ar-y-maen yn ei boced i lawr i'r pwll, gofynnodd a fyddai'r pice yn troi'n ddu oherwydd yr huddygl neu'r soot fel y mae Michael yn ei alw.

Ffynhonnell y llun, Michael Beynon
Disgrifiad o’r llun,

Pice-ar-y-maen unigryw Coalpit

Oherwydd hynny, du yw lliw pice-ar-y-maen unigryw Coalpit ac mae'r busnes wedi mynd o nerth i nerth; o'u coginio ar raglen y Saturday Kitchen ar BBC One i werthu mil o gacennau'r diwrnod yn y Sioe Frenhinol a derbyn llu o archebion bob wythnos.

Rhoi trefn ar archebion Sul y Mamau mae Michael ar hyn o bryd, ac mae ei fam, Erika, sydd hefyd yn pobi ac yn rhan o dîm Coalpit, yn gobeithio y bydd ei mab yn rhoi seibiant haeddiannol iddi oddi wrth wres y gegin ar Sul y Mamau.

Erika sydd hefyd yn gofalu "nad ydy Michael yn bwyta'r elw i gyd wrth goginio," meddai wrth dynnu coes ei mab, ond ateb Michael i hynny yw: "Dwi'n cael un gacen yr wythnos."

Ffynhonnell y llun, llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Michael yn pacedu'r pice-ar-y-maen gyda brand ei fusens, Coalpit

Dydd Syndrom Down y Byd

Mae Dydd Syndrom Down y Byd yn ddiwrnod ymwybyddiaeth sy'n disgyn ar 21 Mawrth bob blwyddyn ers 2006.

Mae'n disgyn ar 21ain o'r 3ydd mis er mwyn cynrychioli pa mor unigryw yw'r triphlygu o'r 21ain cromosom sy'n achosi Syndrom Down.

I Erika, roedd rhoi yr un cyfle cyfartal i Michael â'i ddwy chwaer fawr yn holl bwysig iddi.

Meddai Erika: "Roedd yn bwysig i fi bod y tri yn tyfu i fyny mewn cartref lle roedden nhw'n cael eu trin yr un fath ac yn cael yr un cyfle a profiadau. Mae hynny yn gallu bod yn anodd i rieni pan dydi cymdeithas ddim yn trin pobl gyda Down's Syndrome yn gyfartal, oherwydd yn y cartref maen nhw'n gwneud yr un fath, dysgu yr un fath ond pan maen nhw yn mynd allan i gymdeithas mae pethau'n wahanol.

Ffynhonnell y llun, Erika Walker
Disgrifiad o’r llun,

Mab a'i fam; Michael ac Erika yn crwydro

"Mae pethau wedi gwella ond mae wastad heriau; heriau i gael yr un cyfle cyfartal mewn iechyd, addysg, a chael gwaith yn bendant.

"Byddwn i yn dweud wrth rieni sydd â phlant gyda Down's Syndrome i adael iddyn nhw drio popeth sy'n bosib iddyn nhw o oedran ifanc. Peidiwch â gadael iddyn nhw fod yn 10/11 oed nes gadael iddyn nhw drio pethau fel rygbi neu gymnasteg neu ddawnsio, bydden nhw'n gallu 'neud e a bydden nhw'n gwneud ffrindiau ac yn tyfu fyny'n bobl ifanc llwyddiannus."

Cwestiwn a thema Dydd Syndrom Down y Byd ar gyfer 2022 yw 'Beth yw bod yn gynhwysol?' ac i ddathlu hynny bydd Michael, sydd hefyd yn Llysgennad dros Syndrom Down i ymgyrch #Mencapmythbusters, yn gwisgo sanau od.

Neges Michael heddiw a phob dydd yw: "Dwi eisiau byd lle mae pawb sydd gyda Down's Syndrome yn cael eu cynnwys ymhob agwedd o gymdeithas. Gofynnwch i berson gyda Down's Syndrome i ymuno eich clwb chwaraeon lleol, clwb rhedeg, clwb rotary, neu unrhyw glwb arall yn eich cymuned. Simples!

Ac yntau eisoes wedi cyflawni sawl camp heriol, mae Michael yn ystyried beicio ar hyd arfordir Ceredigon fel ei her nesaf.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig