Costau byw: 'Dros 1m o gartrefi' i dderbyn taliad £150
- Cyhoeddwyd
Bydd "dros filiwn o gartrefi" yng Nghymru yn cael taliad o £150 fel rhan o'r cynlluniau i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn costau byw.
Dywed gweinidogion Llywodraeth Cymru fod eu cynlluniau'n mynd ymhellach na'r rhai a gyhoeddwyd gan y Canghellor Rishi Sunak ar gyfer Lloegr yn gynharach y mis hwn.
Bydd taliad Llywodraeth Cymru yn cyfateb i'r ad-daliad treth gyngor sydd wedi'i gynllunio dros y ffin, a bydd pobl na sy'n talu'r dreth yn cael cynnig y taliadau.
Bydd cynllun taliad tanwydd gaeaf o £200 eleni hefyd yn cael ei ailadrodd y flwyddyn nesaf. Mae'n rhan o'r pecyn £330m.
Dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans, fod cynnig Mr Sunak "yn brin o'r hyn oedd ei angen ar bobl". Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais i wneud sylw.
Roedd y taliadau o £150 i gartrefi ym mandiau A i D yn Lloegr yn rhan o gyfres o fesurau a osododd y canghellor mewn ymateb i'r cynnydd yn y cap ynni.
Bydd gostyngiad o £200 ar filiau trydan cartrefi ym mis Hydref, a gaiff ei dalu'n ôl dros bum mlynedd, yn berthnasol yng Nghymru a'r Alban yn ogystal â Lloegr.
Bydd yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig yn cyfateb i ad-daliad treth gyngor Lloegr, gan ddarparu taliad o £150 i bob eiddo o fewn bandiau treth gyngor A i D - sy'n cynnwys y rhan fwyaf o gartrefi.
Roedd Cyngor ar Bopeth Cymru wedi rhybuddio na fyddai 230,000 o gartrefi yng Nghymru wedi elwa o ad-daliad tebyg i un Llywodraeth y DU yn Lloegr.
Bydd yr arian yn cael ei dalu cyn gynted â phosib, a bydd yn costio £152m i'r llywodraeth.
Mae cyfanswm o 73.3% o eiddo preswyl ym mandiau treth gyngor A i D.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n gweithio gyda chynghorau i roi mwy o fanylion am sut y bydd y cynllun yn gweithredu.
Bydd £25m pellach yn cael ei ddarparu fel y gall cynghorau gynnig cymorth i deuluoedd penodol y maen nhw'n gwybod y gallen nhw fod yn ei chael hi'n anodd.
Bydd cynllun taliadau tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru, a gafodd ei ddyblu'n ddiweddar i ddarparu taliadau untro o £200 i bobl ar gredyd cynhwysol a budd-daliadau oedran gweithio eraill, yn cael ei ail-redeg y gaeaf nesaf.
Bydd y Gronfa Cymorth Dewisol, sy'n helpu pobl i dalu am gostau hanfodol fel bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio brys, hefyd yn cael ei hymestyn i grŵp ehangach o bobl.
Mae modd gwneud ceisiadau ar wefan Llywodraeth Cymru.
Croeso yng Nghaernarfon
Ymysg rhai o siopwyr Caernarfon ddydd Mawrth, roedd yr ymateb i'r cyhoeddiad yn ddigon cadarnhaol.
Dywedodd Carys Thomas fod "pob ceiniog yn help".
"Mae petrol, electric a'r gas, ma bob dim [yn mynd fyny]. Mae'n sobor o beth."
Pan ofynnwyd iddi os oedd y sefyllfa bresennol yn destun straen, ychwanegodd: " O yndi, da ni wedi gorfod troi y gwres ni lawr, y gwr a fi.
"Da ni'n pensioneers a da ni di troi o lawr. Mae o jest am fynd yn waeth dydi. Mae hyn yn help mawr".
Dywedodd Goronwy Roberts: "Mae'n swnio'n iawn imi de, mae prisiau yn codi mor ofnadwy a does na'm byd arall yn codi. Fydd hwn yn help mawr i lot o bobl.
"Ar hyn o bryd da ni'n dal ein pennau uwch ben y dwr, ond duw a wŷr sut fydd o'n gorffen.
"Mae pris diesel yn rhywbeth ti'n gweld yn syth dydi - bob tro ti'n llenwi dy gar mae o di mynd fyny.
"Mae bob dim yn codi a'r arian da ni'n cael - di' o ddim yn codi."
Dros filiwn yn gymwys
Dywedodd Ms Evans bod y llywodraeth yn amcangyfrif "y bydd dros filiwn o gartrefi yn gymwys" am y taliad, ac y bydd y llywodraeth yn gweithio gyda chynghorau ar sut i weithredu'r cynllun.
Ychwanegodd: "Roedd cynnig y canghellor ar ddechrau'r mis yn brin o'r hyn oedd ei angen ar bobl.
"Rydym wedi gallu mynd gam ymhellach i roi mwy o help i aelwydydd Cymru i dalu biliau, gwresogi cartrefi a rhoi bwyd ar y bwrdd."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, ei fod yn "falch o weld bod yr arian newydd sydd wedi dod gan lywodraeth Geidwadol y DU wedi cael ei roi i ddefnydd da gan weinidogion Bae Caerdydd fel y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw amdano".
Mae AS Plaid Cymru wedi croesawu'r gefnogaeth, ond dywedodd Sioned Williams nad rhoi £150 i bawb ym mandiau A-D "yw'r ffordd orau o sicrhau bod y rhai sydd â'r angen mwyaf, y rhai a fydd yn wynebu'r dewis rhwng gwresogi a bwyta, yn cael y cymorth mwyaf".
'Cyhoeddiad positif'
Dywedodd Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan eu bod nhw'n croesawu'r cyhoeddiad "bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwysau mae teuluoedd yng Nghymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd".
Yn siarad gyda rhaglen Dros Frecwast, ychwanegodd fod y cynllun yn "mynd yn bellach" na'r hyn sydd ar gael yn Lloegr, gan gynnwys "ymrwymiad pellach" o ran costau tanwydd y flwyddyn nesaf.
Rhoi rhyddid i gynghorau lleol gefnogi'r rheiny sydd angen cymorth yw'r ffordd "ddelfrydol" o ymateb i'r sefyllfa bresennol, meddai, ond rhybuddiodd fod "peth gofid" am y pwysau maen nhw eisoes yn eu hwynebu.
Fodd bynnag, dywedodd fod angen mwy o atebion hir dymor i'r argyfwng costau byw, er bod y llywodraeth "yn iawn i fod yn meddwl am y pethau tymor byr ar hyn o bryd".
'Ddim yn mynd yn ddigon pell'
Un oedd yn fwy beirniadol o'r cyhoeddiad oedd Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd.
"Yn amlwg bydd y mwyafrif o deuluoedd yn croesawu'r £150. Ond rydyn ni'n poeni na fydd hi'n mynd yn ddigon pell," dywedodd wrth y BBC fore Mawrth.
Er y bydd yn gwneud gwahaniaeth, meddai, "ni fydd yn cyrraedd y cynnydd mewn biliau tanwydd ry'n ni wedi ei weld ac ry'n ni'n disgwyl ei weld am weddill y flwyddyn."
Ym marn James Hall o elusen Pobl a Gwaith yn y Rhondda: "Os wyt ti'n rhoi taliad cyffredinol i bawb mewn bandiau penodol, o leiaf mae pawb yn cael rhywbeth. Y trafferth pan wyt ti'n targedu arian, mae'n anochel y bydd yna bobl fydd yn cwympo ar naill ochr y ffin.
"I rai pobl bydd y taliad yn noson mas, i eraill fydd e'n bedair wythnos o siopa."
Fodd bynnag, dywedodd ei fod yn "ardderchog" bod Llywodraeth Cymru wedi "mynd ymhellach na Llywodraeth y DU".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022