Cynnydd o bron i £700 y flwyddyn mewn biliau ynni o fis Ebrill
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n goruchwylio'r diwydiant ynni, Ofgem, wedi cyhoeddi cynnydd o 54% i'r cap ar brisiau.
O fis Ebrill ymlaen, bydd pris cyfartalog biliau ynni yn cynyddu o bron i £700 i filiynau o gartrefi ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban.
Gallai'r uchafswm biliau ynni gyrraedd bron i £2,000 y flwyddyn i gartrefi arferol.
Fe gyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak gynllun i roi disgownt o £200 ar filiau trydan i bobl yn Lloegr, a fydd yn cael ei ad-dalu'n ddiweddarach o fis Hydref.
Dywedodd hefyd y bydd modd cael ad-daliad o £150 ar dreth y cyngor i gartrefi ym mandiau A-D ym mis Ebrill - ond dywedodd mai cyfrifoldeb gweinidogion yng Nghymru fyddai rhoi arian i awdurdodau lleol.
Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru'n derbyn £175m o gyllid ychwanegol i helpu cartrefi yng Nghymru.
Ond fe fydd y rhan helaeth o bobl yn parhau i orfod talu mwy am eu trydan a'u nwy ymhen deufis.
Mae Banc Lloegr hefyd wedi cynyddu cyfraddau llog am yr ail waith mewn tri mis er mwyn ymateb i'r cynnydd mewn costau - o 0.25% i 0.5%.
Wrth gynyddu cyfraddau llog, gobaith Banc Lloegr yw y bydd yn gwneud benthyca a gwario'n fwy drud, gan leihau rhywfaint ar brisiau i brynwyr.
Beth sy'n newid?
Ers misoedd mae prisiau nwy ar y farchnad ryngwladol wedi cynyddu yn sylweddol, gyda'r cwmnïau ynni eisoes yn trosglwyddo rhai o'r costau ymlaen i'w cwsmeriaid.
Ond mae cyhoeddiad Ofgem yn galluogi'r cwmnïau i gynyddu biliau yn sylweddol.
Mae costau ynni wedi effeithio ar gyfradd chwyddiant yn barod, gyda chostau byw yn uwch i nifer ohonom.
Tra bod trydan a nwy yn ddrutach, mae'n golygu bod costau cynhyrchu a dosbarthu nwyddau yn codi hefyd, a'r costau yn y siopau yn newid i adlewyrchu hynny.
O ganlyniad mae gan nifer o bobl lai o arian yn eu pocedi.
Beth ydy'r cap?
Mae'r cap newydd gan Ofgem yn dod i rym ar 1 Ebrill a bydd yn effeithio ar 22 miliwn o dai.
Mae'n gosod yr uchafswm all darparwyr ei godi am un uned o ynni, sydd wedyn yn cael ei drosi i'r bil disgwyliedig.
Ar hyn o bryd, y pris am ynni i gartref arferol yw £1,277 ond bydd yn cynyddu i £1,971 y flwyddyn yn sgil y cap newydd.
Ond dydy hyn ddim yn golygu fod uchafswm ar faint all rhywun dalu, gan y mwyaf o drydan a nwy a ddefnyddir, yr uchaf y bil.
Mae dau gap - un ar gyfer y rhan fwyaf o bobl sy'n talu prisiau newidiol (variable tariffs), a'r llall ar gyfer tai sydd yn talu o flaen llaw (pre-payment meters).
Bydd yn effeithio pawb sy'n talu prisiau newidiol, wedi i'w cytundeb sefydlog ddod i ben, a'r rheiny sydd wedi newid darparwyr wedi i'w un blaenorol fynd i'r wal.
Mae cap ar wahân ar gyfer y 4.5 miliwn o bobl sy'n talu o flaen llaw.
'Bydd rhaid cynyddu prisiau'
Wrth ymateb i'r cynnydd yn Sanclêr fore Iau, poeni am deuluoedd ifanc oedd selogion un o'r siopau lleol.
"Dwi'n meddwl ei fod e'n ddifrifol i deuluoedd ifanc - ma' eisiau gwres a bwyd a le ma nhw'n mynd i gael yr arian?" medd Marlene Lewis.
Dywedodd Olive Bowen, cyd-berchennog Pethe Olyv: "Ma' hwnna'n lot a fi'n credu bydd rhaid i fi a'r cyd-berchennog iste' lawr a dishgwl ar y cyfan.
"Pan ma' heating yn mynd lan - ma' popeth yn mynd lan. Bydd rhaid cynyddu'r prisiau yn y siop i gwrdd â'r heating bills.
"Ma'r warehouses wedi rhoi eu prisiau lan yn barod - bydd popeth yn mynd lan."
Roedd perchennog arall Pethe Olyv, Yvonne Griffiths-Rogers, hefyd yn credu y byddai'r busnes yn dioddef: "Wel ma'n mynd i effeithio popeth - effeithio pob un ohonom ni.
"Fan hyn bydd pobl yn ffili ffordio pethe. Dyw handbag ddim yn priority yw e? Bwyd a heating yw'r priority. Bydd llai o bobl yn dod yma flwyddyn nesaf - fi'n siŵr o hynna.
"Fi'n credu ma tip of the iceberg yw hwn - 'son ni wedi gweld y gwaetha eto."
'Pwy a wŷr beth fydd yn digwydd nesaf'
Mae'r teulu Morse o Gwmbrân yn disgwyl i'w biliau ynni i godi i fwy na £2,000 flwyddyn.
"Mi o'n ni yn talu £900 y flwyddyn, ac ry'n ni bob tro wedi newid cwmnïau a dewis y tariff isaf," meddai Lauren, sy'n fam 35 oed.
Ond llynedd mi aeth y cwmni ynni i'r wal, ac ar ôl cael eu trosglwyddo i gwmni newydd, mae'r teulu bellach yn talu £1,600 y flwyddyn.
"Mae hi ond ychydig wythnosau cyn bod ein cytundeb presennol yn dod i ben. Pwy a wŷr beth fydd yn digwydd nesaf, dwi'n credu bod 'na beryg i ni orfod talu tua £2,500 y flwyddyn. A dim ond rhai misoedd yn ôl ro'n ni yn talu £900."
Mae Lauren bellach yn paratoi i addasu bywyd y teulu i ymdopi â'r gost.
"Fydd hyn yn golygu gwario llai ar eitemau sy' ddim yn hanfodol - ond dydyn ni ddim yn bobl sy'n gwario llawer ta beth. Ry'n ni'n ofalus iawn."
'Ma bywyd yn ddrud'
Mae Erica'n fam i fachgen naw oed o Gaernarfon. Mae hi'n derbyn budd-daliadau a chymorth ariannol ar gyfer anabledd.
"Fedrwch chi ddim bod mewn tŷ oer, tywyll, 'dach chi'n trio cal rhyw fath o falans a mae'n anodd.
"Yn ddiweddar dwi di cal bil am bron i £100 a mwy am fis yn unig a o'n i 'di cal dipyn o sioc, o'n i'n meddwl mai bil am dri mis oedd o. Nes i bron a chael heart attack dwi'n meddwl yn agor y llythyr 'na," ychwanegodd.
"Dwi di penderfynu bo fi 'mond yn mynd i iwsio'r nwy gyda'r nos am rhyw ddwy awr a ella rhoi blancedi ychwanegol, gwisgo cot yn tŷ, ma' rhaid. Ac ar y funud, ma'n hogyn bach i'n poeni am hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022