Stori pobl Y Felinheli o ddwy flynedd mewn pandemig
- Cyhoeddwyd
Ym mis Medi 2020, i nodi chwe mis ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf, holodd Cymru Fyw trigolion pentref yn y gogledd i weld sut oedd Covid wedi effeithio un gymuned.
Nawr, ddwy flynedd ers dechrau'r pandemig, mae'r un bobl o'r Felinheli, ger Caernarfon, yn rhannu eu profiad.
'Mae bywyd yn frwnt weithia'
Mae Maldwyn Jones yn gwybod yn iawn be' ydi 'byw efo Covid'. Ac yntau'n diodde' o Covid hir, roedd yn paratoi i nodi dwy flynedd ers colli ei wraig i'r feirws pan ddechreuodd gael trafferth anadlu unwaith eto, ar ôl dal yr haint am yr ail waith.
Fis Mawrth 2020 roedd o a Heather yn wael iawn gyda'r feirws. Ar 16 Ebrill, gyda'i wraig yn yr ysbyty roedd Maldwyn yn dirywio ac yn poeni am eu mab David, 49 ar y pryd, oedd angen eu gofal oherwydd anableddau dysgu.
"Ro'n i'n wirioneddol wael ac mor giami roedd y twrna yma a ro'n i'n gwneud yr ewyllys drwy'r ffenest a'i wraig efo fo fel witness," meddai. "Roedd y paramedics wedi bod yma bob yn ail noson a ro'n i'n meddwl bod fy number i fyny - wna'i byth anghofio."
Y noson honno bu farw ei wraig, yn 82 oed.
Wrth drafod yr effaith arno ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'n gwingo o'r boen sy'n ei fraich a'i ysgwydd.
"Dwi mewn poen a dwi'n blino yn ofnadwy," meddai. "Dwi wedi bod yn smwddio a hwfro heddiw - a dwi'n absolutely knackered.
"Dwi'n cael trafferth cysgu hefyd. Dwi wedi cael trafferth o'r blaen cyn Covid ond dwi'n ddeg gwaith gwaeth rŵan.
"Un noson wsnos dwytha neshi ddim cymryd tablet a neshi ddim cysgu o gwbl drwy'r nos. Ro'n i'n sâl fel ci yn y bore. Mae'n tynnu chi lawr cymaint - mae o jest yn torri calon rhywun, mae o'n goblyn o beth."
Mae cryd cymalau, blinder ac effaith ar gwsg i gyd yn symptomau sydd wedi eu cysylltu gyda Covid-19 a gwyddonwyr yn ymchwilio i gysylltiad posib.
Pan ddaliodd o'r feirws eto fis Mawrth eleni, roedd yn fyr ei wynt ac yn pryderu, ond mae'n diolch i'r brechiad nad aeth o ddim gwaeth.
Mae o'n synnu ei fod wedi ei ddal eilwaith gan ei fod yn ofalus iawn a dim ond yn gweld teulu agos ac ambell i ffrind. Mae'n ofni i'r ffigurau godi.
"Ro'n i'n gwylio'r darts ar y television diwrnod o'r blaen, argol roedd 'na tua 2000 o bobl mewn un stafell mawr.
"Codi neith y ffigurau yn ôl. S'na ddim isio slacio dim de."
Wrth i ddyddiad marwolaeth Heather ddod yn nes mae'n cydnabod y bydd yn gyfnod anodd iddo fo a'i fab.
"Neith David siarad lot am y peth pan neith hi ddod yn agos at y dyddiad - mae o'n ofnadwy fel yna, yn cofio pen-blwydd pawb, mae o efo cof dychrynllyd o dda.
"Yr art ydi tynnu ei feddwl i ffwrdd oddi arno fo, siarad am ffwtbol a phethau mae o yn licio.
"Mae David dal i gael trafferth. Mae o dal yn ei cholli hi ac mae ganddo fo luniau ohoni.
"Mae bywyd yn frwnt weithia, ond 'da ni'n lwcus i gymharu efo llefydd eraill."
'Mae wedi chwalu cymuned yr ysgol'
Tydi dirprwy Ysgol y Felinheli ddim yn or-bryderus erbyn heddiw am effaith y pandemig ar addysg plant - eu hiechyd a lles ac ailadeiladu cymuned yr ysgol ydi'r sialens fwya' rŵan.
Blwyddyn ers dychwelyd i'r ysgol wedi'r cyfnod clo diwetha', mae'r cyswllt dyddiol yn dwyn ffrwyth gan fod plant yn dal i fyny mor sydyn ond mae pethau eraill yn bell o fod yn 'normal'.
Dydy'r ysgol gyfan dal methu dod at ei gilydd am wasanaeth neu gyngerdd, a'r teimlad o berthyn yn gwanio.
"Mae 'na fwlch enfawr wedi bod rhwng yr ysgol a rhieni," meddai Sioned Jones. "Does 'na ddim nosweithiau' rhieni, does 'na ddim ffeiriau, does 'na ddim cyngherddau. Tydan ni ddim hyd yn oed yn cael mynd yn agos at rieni wrth y giât.
"Mae hynny wedi chwalu cymuned ysgol, a fanna 'da ni angen symud ymlaen rŵan. Munud gawn ni'r ok i wneud pethau fel noson rhieni, fyddwn ni'n gwneud hynny."
Mae'r ysgol wedi wynebu sialensiau eraill dros y flwyddyn - diffyg staffio oherwydd y pandemig, arfer gyda rheolau oedd yn newid yn aml a diffyg lle mewn ysgol sy'n fychan o ystyried y nifer o blant.
"Ers dod 'nôl does 'na ddim stafell athrawon yma achos roedd yr un oedd genon ni yn rhy fach i'w defnyddio a chadw at y rheol dau fetr," meddai. "Mae wedi bod yn andros o anodd i ni o ran iechyd meddwl staff - ti angen y lle amser cinio i fynd i ffwrdd o dy ddosbarth a switch off."
Ond mae hi'n obeithiol am y dyfodol wrth i wahanol adrannau ddechrau cymysgu a digwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd ar y gorwel. Un peth mae hi eisiau osgoi ydi mynd nôl i'r sefyllfa ar ddechrau'r pandemig.
"Fydd plant ddim ar ei hôl hi yn ieithyddol neu'n rhifyddol ond fwy yn gymdeithasol os dydi nhw ddim yn cymysgu a siarad efo'i gilydd," meddai. "Mae sbïo'n ôl rŵan a meddwl bod y plant wedi bod adra, yn aros yn y tŷ heb weld neb yn fy nychryn i."
'Mae'n amser fyddai'n cofio am weddill fy oes - rhoi bywyd yn ôl i bobl'
Mae'r pandemig wedi effeithio pob un yn Y Felinheli, ond mae un o'r trigolion wedi gallu helpu pawb yn y pentref a thu hwnt.
Ddwy flynedd yn ôl roedd misoedd cynta'r argyfwng iechyd yn gyfnod prysur iawn i Charlotte Makanga. Roedd yn rhaid iddi hi a thîm adran fferylliaeth Ysbyty Gwynedd geisio dysgu pa feddyginiaeth fyddai'n helpu cleifion oedd wedi dal haint nad oedd neb yn gwybod dim amdano.
Yna wrth i 2020 ddod i ben fe gafodd hi a chyd-weithiwr secondiad i reoli'r cynllun brechu ar draws gogledd Cymru.
"Roedd o'n 24-7, seven days a week - ond roedd o'n un o'r pethau mwya' rewarding dwi wedi gwneud yn fy ngyrfa," meddai. "Dwi'n cofio bod yn Venue Cymru yn Llandudno, lle roeddan ni'n cael y bobl cynta' trwodd, pobl dros 80 a phobl oedd wedi bod yn y tŷ ers bron i flwyddyn.
"Roedd rhai'n deud 'dwi heb adael y tŷ ers misoedd, hwn ydi'r peth pwysica' sydd wedi digwydd'.
"Roedd o'r peth mwya' emosiynol dwi wedi gwneud yn y gwaith - a dwi wedi gweithio yn intensive care hefyd. Mae'n amser fyddai'n cofio am weddill fy oes - rhoi bywyd yn ôl i bobl."
Mae'r brechlyn wedi bod yn bwnc llosg o'r cychwyn cyntaf. Yn ôl Charlotte Makanga, sydd fel arfer yn gweithio ym maes gwrthfiotigau, mae'n bwysig bod gan yr unigolyn yr hawl i ddewis ei derbyn neu beidio.
Ond a hithau newydd ddod 'nôl ôl o Malawi, lle bu'n gweithio am rai wythnosau ac yn ymweld â theulu ei gŵr am y tro cyntaf ers cyn Covid, mae hi'n ymwybodol o safle breintiedig gwledydd y gorllewin.
"Natho ni golli fy mam-yng-nghyfraith o Covid yn 2021 jest ar ôl y vaccine ddod allan yn wlad yma, ond doedd y vaccine ddim yn Malawi adeg yna," meddai. "Roedd hi dros 80 felly os fasa hi'n byw yn y wlad yma fasa hi wedi cael o. 'Da ni'n lwcus yn lle 'da ni'n byw."
Er yr euogrwydd am yr oriau hir mae hi a'i gŵr - sydd hefyd yn gweithio yn y maes iechyd - wedi gorfod gweithio dros y ddwy flynedd ddiwetha', mae hi'n gobeithio bod eu plant wedi elwa mewn rhyw ffordd hefyd.
Meddai: "Wnaeth y plant jest delio efo bob dim, dwi'n rili proud ohonyn nhw. A dwi'n gobeithio yn y dyfodol pan fydd nhw'n hŷn fydd nhw'n deall ac yn meddwl 'actually dwi'n proud o be ddigwyddodd', a roeddan nhw'n rhan ohono fo."
'Dwi wedi ailddarganfod rhywbeth o'n i'n garu - stand-yp'
Fe wnaeth Covid orfodi Katie Gill-Williams i asesu beth oedd yn bwysig iddi, felly caeodd ei busnes er mwyn canolbwyntio ar deulu, dysgu Cymraeg a stand-yp. Nawr mae hi'n siarad yr iaith ar ei sianel YouTube ac yn paratoi i berfformio yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth.
"Pan dwi'n edrych nôl dros y ddwy flynedd, mae mywyd i wedi troi 360," meddai.
Ar ddechrau 2020 roedd y fam i ddau o blant yn brysur yn paratoi at ei phriodas fis Mai, gweithio mewn swydd 9-5 ac yn rhedeg busnes ffrogiau priodas gyda'r nosau ac ar benwythnosau. Oherwydd Covid aeth popeth ar chwâl gan greu straen - ond hefyd amser.
Rhoddodd Katie, sy'n wreiddiol o Lannau Merswy, her i'w hun i wella ei Chymraeg a recordio'i hun yn siarad yr iaith am funud gyfan a'i roi ar Instagram - unwaith y dydd am flwyddyn gyfan.
Un oedd yn hoffi'r fideos oedd y gomedïwraig o Fôn Kiri Pritchard-McLean, sydd hefyd yn dysgu Cymraeg, ac o fewn dim roedd y ddwy wedi creu sianel Welsh Wednesdays lle maen nhw'n yn sgwrsio am Gymru, a cheisio siarad Cymraeg gyda'i gilydd.
"'Da ni wedi trafod annibyniaeth i Gymru, y Welsh Not, Twin Town, Santes Dwynwen, bob math o bethau," meddai.
"Dwi wrth fy modd yn siarad Cymraeg ac yn meddwl bod o'n bwysig. Dwi rili isio ennill Dysgwr y Flwyddyn rŵan!"
Tra bod y ddwy yn annog ei gilydd i siarad Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, mae'r comedïwr proffesiynol wedi annog Katie i gymryd cam dewr arall - ailafael mewn gwneud stand-yp, rhywbeth y rhoddodd hi'r gorau arni ar ôl noson drychinebus o wael pan oedd hi yn y coleg.
A mis Tachwedd 2021, gyda'i Mam yn wael, penderfynodd bod ganddi ormod ar ei phlât a bod yn rhaid i rywbeth fynd cyn i'w hiechyd ddioddef a chaeodd y busnes.
"Ar ôl y cyfnodau clo roedd yr hen habits yn dod 'nôl, a rhywun efo llai o amser - do'n i methu cael bwyd efo'r teulu achos roedd yna apwyntiad gyda'r nos yn y siop. Dwi mor hapus mod i wedi gwneud y penderfyniad.
"Felly un o'r pethau mwya' sydd wedi digwydd rŵan ydi ailddarganfod rhywbeth o'n i'n caru - stand-yp a jyst mynd amdani a meddwl 'os ydi pethau ddim yn gweithio, 'whatever, mae 'na bethau gwaeth wedi bod yn digwydd a tydi o ddim mor ofnus â rheiny'."
Mae hi rŵan yn paratoi i gamu ar y llwyfan ym Machynlleth fis Ebrill ac yn perfformio a threfnu noson gomedi fisol yng nghanolfan y SHED yn Y Felinheli, gyda rhai pobl ddaeth hi'n agosach atyn nhw yn ystod y cyfnod clo.
"Heb y pandemig, fyddan ni wedi gwneud hynny neu jest cario mlaen efo'n bywydau prysur?"
'Dwi wedi syrffedu gweithio adra bob dydd ers dwy flynedd'
Roedd chwe mis cynta' Covid yn newid byd i Elgan Roberts: babi newydd a derbyn swydd newydd. Ond tydi o dal heb fynd i'w swyddfa newydd na chyfarfod ei gyd-weithwyr i gyd, sy'n arwydd o ba mor hir ydi'r broses o ddod yn ôl i normalrwydd.
"Efo'r gwaith newydd ddaeth rhywun o'r cyngor draw efo laptop a ffôn a bits a bobs, a'r tro cynta' ro'n i'n cyfarfod y tîm a'r line manager oedd dros Zoom," meddai.
"Roedd o'n od i ryw raddau ond roedd o'n fwy od gadael yr hen job. Roedd lot o bobl yn y gwaith dal ar furlough ar y pryd ac yn amlwg doedd dim parti na dim felly ro'n i'n dweud ta-ra wrth ddau neu dri o bobl dros Zoom neu ar y ffôn."
Mae'n dweud bod manteision i weithio o gartref, fel arbed amser yn teithio i'r swyddfa yng Nghaernarfon, ond mae anfanteision hefyd erbyn hyn.
"Dwi wedi syrffedu gweithio adra bob dydd ers dwy flynedd - mae'n gallu bod reit monotonous," meddai. "Dwi ddim yn meddwl wnâi byth fynd i'r swyddfa bob dydd fel o'r blaen ond mi fydd yn neis pan gawn ni fynd i mewn diwrnod neu ddau, neu fynd ar site visit neu rywbeth i dorri'r wythnos a gweld pobl."
Ond mae'r hyblygrwydd sy'n dod gyda gweithio o gartref wedi bod yn fendith yn ddiweddar. Rai misoedd yn ôl fe gafodd ei ferch ddiagnosis o ddiabetes, sydd wedi arwain at apwyntiadau meddygol a thrafodaethau gyda'r ysgol.
Ac mae'r cyflwr iechyd wedi gwneud iddo fo a'i wraig Orla, sy'n Wyddeles, ail asesu beth yw 'byw efo Covid'.
Er iddyn nhw ddechrau teimlo'n fwy diogel ers cael y brechlyn, maen nhw nawr yn fwy gofalus rhag i Covid effeithio salwch Meabh.
"Pan mae hi'n cael annwyd neu byg mae o'n effeithio ei lefelau siwgr lot achos mae'r corff o dan stress felly dydi'r inswlin ddim yn gweithio cystal," meddai.
"Mae o'n gwneud pethau lot anoddach, mae rhywun yn gorfod bod fyny yn y nos i gadw golwg ar ei lefelau hi i neud siŵr bod hi'n saff, so mae o'n broblem ychwanegol ar ben pa bynnag salwch sydd ganddi hi."
'Tyda ni'm yn gwybod pa mor lwcus ydan ni'
Fe gollodd Anwen Roberts ei mam mis Mai 2020 yn ystod y cyfnod clo cyntaf, ac mae hi'n dal i ddisgwyl cael gwasanaeth i goffau ei bywyd.
Er mai dim ond 10 o bobl oedd yn cael mynd i angladd Joyce Roberts, fe gafodd nifer ffarwelio â hi wrth i'r hers fynd drwy strydoedd ei phentref genedigol Y Felinheli - ond y bwriad oedd cael gwasanaeth iawn unwaith fyddai'r cyfyngiadau yn caniatáu
"O'n i'n meddwl faswn i wedi ei gael o flwyddyn ers colli Mam ond doedd pethau ddim gwell rili," meddai Anwen, sydd wedi ei geni a'i magu yn y pentref.
"Dwi 'di dechrau sôn efo'r Gweinidog a dwi'n meddwl ei gael yr haf yma rŵan - ond eto ti'm yn gwybod be' fydd y cyfyngiadau, ella fydd rhaid i fi feddwl faint o bobl fydd yn cael dod, er mwyn bod yn ddiogel."
Er bod y cyfyngiadau wedi llacio a hithau wedi cael ei brechu, mae Anwen Roberts dal yn ofalus. Dim ond dwy ffrind sy'n dod i mewn i'r tŷ ac fel rheol mae hi'n eistedd tu allan os yn mynd i gaffi.
"Mae'n rhywbeth sy'n digwydd yng ngweddill Ewrop eniwe," meddai. "Pan oedden ni'n Oslo o'r blaen roedden ni'n eistedd tu allan efo blanced, a ru'n peth yn Tallinn - roedda ni'n fanna mis Ebrill pan oedd 'na eira ac yn eistedd allan efo rygs sheep skin ar y cadeiriau.
"Mae fi a'n ffrindiau dal am wneud hynny yn fan yma, jest lapio fyny ac eistedd tu allan."
Hyd yma, tydi hi heb ddal Covid. Mae hi'n teimlo'n ffodus bod ganddi iechyd ac yn dweud bod yn rhaid gwerthfawrogi:
"Mae'n gwylltio fi clywed pobl yn d'eud bod eu bywyd nhw wedi ei ddifetha achos dydyn nhw methu mynd i'r pyb. 'Da ni'n mor spoilt, tyda ni'm yn gwybod pa mor lwcus ydan ni.
"Tyda ni ddim yn yr Ukraine, neu yn Yemen neu'n Syria."
Hefyd o ddiddordeb: