Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 6-5 Dover Athletic

  • Cyhoeddwyd
Jordan DaviesFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Jordan Davies yn dathlu sgorio'i 14eg gôl o'r tymor i Wrecsam

Fe gurodd Wrecsam Dover 6-5 ar y Cae Ras mewn gêm ryfeddol a fydd yn cael ei chofio am flynyddoedd.

Roedd tîm Phil Parkinson - diolch i Paul Mullin (6) a James Jones (20) - ddwy gôl ar y blaen yn fuan ac roedd pethau'r ymddangos yn gyfforddus.

Ond roedd yna sioc wrth i'r ymwelwyr, sydd eisoes wedi cwympo o'r Gynghrair Genedlaethol, daro'n ôl a sgorio pum gôl, ac fe wnaeth nifer o gefnogwyr Wrecsam adael y maes mewn diflastod.

Siawns bod sawl un yn difaru'r penderfyniad hwnnw bellach gan iddyn golli, o ganlyniad, hanner awr olaf dramatig a welodd Wrecsam yn unioni'r sgôr ac yna'n sicrhau'r triphwynt yn y cyfnod ychwanegol o chwarae.

Roedd yn rhaid i hyd yn oed y cefnogwyr cartref gydnabod safon dwy gôl gyntaf Dover, gan George Wilkinson (22) ac Alfie Pavey (28).

Ond siom oedd yr emosiwn pan sgoriodd Michael Gyasi i roi'r ymwelwyr ar y blaen (51) - ymdrech campus eto.

Ac roedden nhw'n gegrwth pan rwydodd Gyasi eto (wedi 54 a 63 o funudau) a'i hat tric yn golygu bod y sgôr yn 2-5.

Ond fe frwydrodd Wrecsam yn ôl - sgoriodd Ollie Palmer ddwywaith (65 a 69) cyn i Jordan Davies (90+1)ddod â nhw'n gyfartal.

Dan Jarvis (90+7) wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth na fydd neb a oedd yna ddydd Sadwrn yn ei hangofio.

Ac i goroni'r cyfan mae'n golygu bod Wrecsam wedi codi o'r pedwerydd i'r ail safle.