Beth ydy dyfodol teithiau awyr rhwng y gogledd a'r de?

  • Cyhoeddwyd
Eastern AirwaysFfynhonnell y llun, AirTeamImages.com
Disgrifiad o’r llun,

Eastern Airways sydd wedi bod yn darparu'r gwasanaeth ers mis Mawrth 2017

Dylai Llywodraeth Cymru egluro ei bwriad ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth awyren rhwng Ynys Môn a Chaerdydd, yn ôl gwleidyddion.

Dyw'r daith, sy'n cael ei chynnig ar y cyd gyda chwmni Eastern Airways, heb fod yn weithredol ers mis Mawrth 2020 pan darodd y pandemig.

Mae ffigyrau'n dangos bod £2.1m wedi ei dalu gan y llywodraeth i Eastern Airways rhwng dechrau'r pandemig a 2022.

Yn ôl y gwrthbleidiau mae angen ystyried dyfodol yr hediad pan ddaw'r cytundeb presennol i ben yn 2023, o ganlyniad i newidiadau yn y ffordd mae pobl yn gweithio ac effaith yr hediad ar yr amgylchedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai diweddariad yn cael ei gynnig pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.

Fe ddechreuodd y gwasanaeth yn 2007, gan ddarparu hediadau dwywaith y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Er i'r daith wynebu trafferthion wrth ddenu cwsmeriaid yn y blynyddoedd cyntaf, mae ffigyrau'n dangos bod nifer y bobl fu'n defnyddio'r gwasanaeth ar gynnydd cyn y pandemig.

  • 2016 - 9,209

  • 2017 - 13,210

  • 2018 - 14,736

  • 2019 - 14,220

  • 2020 - 2,834 (hyd at ganol mis Mawrth pan darodd y pandemig)

Ond wrth i'r angen i deithio i gyfarfodydd leihau, yn rhannol oherwydd datblygiadau technolegol a ddaeth yn sgil y pandemig a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng newid hinsawdd yn 2019, mae 'na awgrym bod angen edrych ar ffyrdd amgen pan ddaw cytundeb Eastern Airways i ben y flwyddyn nesaf.

Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru hefyd yn dangos bod £2,163,631 wedi ei dalu i Eastern Airways rhwng Ebrill 2020 ac Ionawr 2022 er nad oedd y gwasanaeth yn weithredol, a bod £7,340,863 wedi ei ddarparu dros y bum mlynedd ariannol ddiwethaf mewn cymorthdaliadau.

Rhaid cael cyswllt 'hwylus'

Tra bod y pleidiau gwleidyddol oll yn galw am eglurder ac ailasesu'r berthynas, mae un arweinydd busnes ym Môn yn dweud y byddai busnesau gogledd Cymru "ar eu colled" heb wasanaeth o'r fath.

Yn ôl Dafydd Gruffydd, rheolwr gyfarwyddwr Menter Môn, mae cael cyswllt o'r fath yn bwysig er mwyn cynnal trafodaethau a pherthynas gyda rhanddeiliaid ben arall y wlad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cysylltiad "hwylus" rhwng y gogledd a'r de yn hanfodol, meddai Dafydd Gruffydd

"Mi oeddan ni'n defnyddio'r awyren dipyn," meddai.

"Mi oedd o'n caniatáu inni fynd lawr mewn diwrnod, neu yn caniatáu i bobl ddod i'n gweld ni.

"Yr opsiwn arall ydy defnyddio'r trên neu'r car, a dydy hynny ddim yn hwylus."

Yn ôl Mr Gruffydd roedd y gwasanaeth yn hollbwysig wrth drafod dyfodol cynllun ynni Morlais gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru.

"Mae cael cysylltiad wyneb yn wyneb yn bwysig iawn, do 'da ni gyd wedi arfer 'efo Zoom ond os 'da chi isio trafodaethau dwys neu greadigol 'da chi angen cysylltiad ac mae'n bwysig bod 'na gysylltiad hwylus gyda Chaerdydd."

Gwerth am arian i Gymru?

Yn ôl Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, mae'n rhaid buddsoddi mewn cysylltiadau rhwng y gogledd a'r de.

"Mae hi'n anodd anwybyddu newid mewn cyd-destun, ac os oes 'na fwy o bryder am newid hinsawdd a newid yn y ffordd 'da ni'n gweithio, 'da ni methu anwybyddu hynny.

"Ond un peth sydd ddim yn newid ydy'r angen i gael cysylltedd cyflym rhwng y de a'r gogledd i uno ni fel gwlad, felly beth mae'r llywodraeth angen gwneud ydy adolygu'r hediad yma gyda llygaid agored."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud yn y tymor byr, tra bod arian cyhoeddus yn cael ei wario ar y gwasanaeth, fe ddylai'r gwasanaeth gael ei chynnal.

Ond yn y tymor hir, mae'r Aelod o'r Senedd, Tom Giffard yn dweud bod angen dod â hi i ben.

"'Da ni'n credu bod hyn ddim yn iawn i bobl sy'n talu trethi yng Nghymru," meddai.

"'Da ni angen meddwl am ydy hyn yn value i bobl yng Nghrymu a 'dyn ni ddim yn meddwl bod e. Ni'n credu y gallai'r arian yna gael ei wario ar bethau fel teithiau eraill, yn enwedig o gofio bod rhaid inni dorri lawr ar ein emissions."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru bod angen dod a'r hediad i ben ar ôl 2023 ar sail y ddadl amgylcheddol.

"Mae'n rhaid inni edrych ar bethau'n wahanol. 'Da ni gyd wedi bod yn gweithio gartref a 'da ni'n barod i weithio dros Zoom," meddai Jane Dodds.

"Mae teithiau byr yn enwedig yn creu mwy o drafferth i'r awyrgylch felly yn fy marn i mae'n rhaid i'r cytundeb orffen."

Ychwanegodd Ms Dodds bod yn rhaid cael trafodaethau gydag arweinwyr busnes hefyd er mwyn gwella cysylltedd rhwng y de a'r gogledd.

Ym mis Mawrth fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gomisiwn i ystyried dyfodol trafnidiaeth yn y gogledd, dolen allanol, ond fe gadarnhaodd llefarydd na fyddai'r comisiwn hwnnw yn edrych ar y gwasanaeth awyren rhwng y gogledd a'r de.

Doedd Eastern Airways ddim am wneud sylw.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y "gwasanaeth awyrennau rhwng Caerdydd ac Ynys Môn wedi ei ohirio".

"Byddwn yn cynnig diweddariad unwaith bydd rhagor o wybodaeth ar gael."

Pynciau cysylltiedig