Beks: Cofio 'penderfyniad enfawr' i adael Cymru am Hong Kong

  • Cyhoeddwyd
Taflen hyrwyddo rhaglen Beks 'Ar Y Bit' 20 mlynedd nol, a Beks a Rhodri heddiwFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Beks ar y Bît 20 mlynedd yn ôl; a heddiw gyda'i gŵr Rhodri James yn Hong Kong

Ugain mlynedd yn ôl roedd hi'n un o gyflwynwyr mwyaf adnabyddus Radio Cymru gyda gyrfa ddisglair o'i blaen, cyn iddi ddisgyn mewn cariad a rhoi'r gorau i'r cyfan er mwyn symud at ei darpar ŵr yn Hong Kong.

Mae Beks, neu Rebekah James, yn dal i fyw yn Asia gyda Rhodri, lle maen nhw wedi magu eu plant, ac mae hi'n gweithio fel 'hyfforddwr bywyd' i helpu pobl sydd wedi cael newid byd tebyg iddi hi ond yn ei chael hi'n anodd dygymod â'u sefyllfa.

Mewn cyfweliad ar Beti a'i Phobol, mae Beks - ddaeth yn llais cyfarwydd ar ei rhaglen gerddorol Beks ar y Bît rhwng 1996 a 2002 - yn sôn sut newidiodd ei bywyd dros nos ar ôl cyfarfod Rhodri James ar ddiwrnod ei phen-blwydd yn 30 oed.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dathlu dau ddiwylliant: Beks ar Ddydd Gŵyl Dewi gyda'i phlant Ela, Joni a Harri pan oedden nhw'n iau; ac yn croesawu'r Flwyddyn Newydd Tseineaidd eleni gyda'i meibion

Ar y pryd roedd hi'n gweithio i Radio Cymru ac yn cyflwyno'n achlysurol ar y teledu, tra'n magu ei merch fach ar ei phen ei hun wedi i'w phriodas chwalu. Roedd dechrau perthynas arall ymhell o'i chynlluniau.

"Ro'n i'n byw bywyd the single mother's life, yn caru fy nhŷ bach teras yn Canton, Caerdydd, ac roedd Ela Mai a finna'n hapus ein byd yn fan 'ny," meddai. "Ro'n i'n gweithio'n hwyr gyda'r nos a phobl yn helpu gyda Ela.

"Dweud y gwir pan gwrddes i a Rod do'n i ddim yn barod i gael dyn yn fy mywyd, roedd fy ngyrfa yn bwysig iawn i fi a bod yn fam yn fwy pwysig. Ro'n i'n teimlo 'chydig o euogrwydd bod y berthynas wedi chwalu a hi mor fychan ac yn fabi felly roedd blaenoriaethau 'da fi yn fy mywyd."

Roedd ei chydweithiwr yn y BBC ar y pryd, y diweddar Sioned James, wedi bod yn tynnu ei choes ers tro ei bod hi yn erbyn dynion oherwydd ei phrofiad ac angen cyfarfod rhywun fyddai'n ei sbwylio - ac roedd hi'n siŵr y byddai'n dod ymlaen gyda'i brawd. Roedd un broblem amlwg: roedd o'n byw yn Hong Kong.

Yna daeth cnoc ar ddrws tŷ Beks ar ddiwrnod ei phen-blwydd yn 30 oed. Roedd Rhodri draw yng Nghymru ac ar ei ffordd i Ffrainc, ac wedi galw draw gyda photel o champagne i ddymuno pen-blwydd hapus iddi.

Bore Sul: Elliw Gwawr yn cyflwyno

Rhyfel y Cymry: 40 mlynedd ers rhyfel y Falklands

Llythyr o Wcráin - Gwanwyn Oer

Castell Cleifion: Drama gan Manon Eames

O fewn oriau i'w gyfarfod, roedd hi'n gwybod ei bod hi eisiau ei briodi. O fewn blwyddyn, ar ôl dechrau perthynas o bell ac ymweld ag o sawl gwaith, fe benderfynodd adael Cymru a'i swydd a symud gydag Ela draw ato i Hong Kong.

"Roedd yn benderfyniad enfawr ond doedd o ddim yn teimlo'n enfawr," meddai.

Fe briododd y ddau nôl yng Nghymru flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, ac maen nhw wedi bod yn Hong Kong byth ers hynny yn magu Ela Mai, Joni Teifi a Harri Tweli.

Erbyn hyn mae Ela yn Mhrifysgol Nottingham, a'r meibion yn yr ysgol yn Hong Kong, ond wedi cael eu haddysgu gartref ers sbel gan fod sefyllfa Covid mor argyfyngus yno ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Priodi yn Eglwys Mwnt yn 2004, ac ar draeth yn Hong Kong yn 2020

A bellach mae Beks ei hun wedi dechrau gyrfa yn helpu ex-pats sy'n gadael eu bywyd yn eu mamwlad er mwyn symud at eu partneriaid gyda swyddi breision yn Hong Kong.

Meddai: "Des i ar draws gymaint o fenywod sydd wedi colli pwrpas yn eu bywyd.

"Maen nhw wedi ffarwelio â'u gwlad enedigol i ddilyn eu gwŷr, lot ohonyn nhw wedi aberthi swyddi da iawn hefyd ac wedi dod fan hyn, ac wedi penderfynu bod e'n bwysicach bod nhw yn magu'r plant gan fod dim teulu 'da nhw yma, a'u bod nhw ddim eisiau gweithio fel cyfreithiwr a chael swydd anferth a ddim bod adra i fagu plant gan fod dim mamgu a thadcu yma i helpu.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Beks heddiw yn Hong Kong

"A ma' lot ohonyn nhw yn teimlo ar goll, lot o'r menywod yma sy'n trailing spouse, a dyna fi wedi bod yn neud gyda fy ngwaith yn hyfforddi datblygiad personol - life coaching - a gweithio'n benodol gyda'r math yma o gleientiaid.

"Fi'n falch iawn mod i wedi gallu cynorthwyo pobl dros y blynyddoedd diwetha'."

Pynciau cysylltiedig