Cerddwraig wedi marw wedi gwrthdrawiad yn yr Wyddgrug
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn Sir Y Fflint yn ymchwilio ar ôl i ddynes farw ar ôl bod mewn gwrthdrawiad gyda char yn yr Wyddgrug.
Dywed yr heddlu iddynt gael eu galw i'r digwyddiad ar yr A494 ychydig cyn 05:30 fore Gwener.
Cafodd y ddynes, gafodd ei tharo gan Skoda Octavia, ei chymryd i Ysbyty Maelor yn Wrecsam, lle bu farw yn ddiweddarach.
Dywedodd Sarjant Emlyn Hughes o Heddlu'r Gogledd eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw dystion a fu'n teithio ar hyd y ffordd ben bore ac a welodd dynes yn cerdded, i gysylltu â nhw.
"Hefyd rydym yn apelio am unrhyw un oedd yn yr ardal ac o bosib gyda deunydd dash-cam i gysylltu â ni."
Mae'r ffordd wedi bod ynghau yn ystod y dydd tra bod timau fforensig yn archwilio safle'r gwrthdrawiad.