Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-4 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Dim ond dau bwynt oedd rhwng y ddau dîm o Gymru cyn dechrau'r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Erbyn hyn mae'r bwlch yn bum pwynt ar ôl buddugliaeth gyfforddus i Abertawe.
Dim ond chwe munud gymerodd hi i Michael Obafemi roi'r Elyrch ar y blaen.
Felly oedd hi ar yr egwyl. Ar ôl 57 munud fe ddyblodd mantais yr ymwelwyr pan sgoriodd amddiffynnwr Cymru Ben Cabango.
Roedd y gêm fel gornest drosodd i bob pwrpas pan sgoriodd Hannes Wolf ddeng munud o'r diwedd. Y chwaraewr canol cae o Awstria greodd y bedwaredd i Obafemi i goroni prynhawn ardderchog i'r ymwelwyr.
Dyma'r tro cyntaf erioed i un o'r ddau dîm ennill y ddwy gêm gynghrair yn yr un tymor.